Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Hydref 2012, cafodd grŵp adolygu annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones, ei sefydlu gan fy rhagflaenydd. Gorchwyl y grŵp oedd ymchwilio i ddatblygiad y Cwricwlwm Cymreig yn y dyfodol, yn ogystal ag ystyried y dull o addysgu hanes Cymru a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi’r addysgu hwnnw. Cafodd y grŵp ei sefydlu i ymateb i’r newidiadau sylweddol i’r cwricwlwm ers cyhoeddi, yn 2003, ganllawiau Awdurdod Cymwysterau, Addysgu ac Asesu Cymru, Datblygu’r Cwricwlwm Cymreig, ac fel ymateb hefyd i’r cynnydd a fu mewn diddordeb yn hanes Cymru dros y ddegawd ddiwethaf.
Mae’r adroddiad Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru, a gyhoeddir heddiw, yn datblygu ar yr adroddiad interim a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2013 ac mae’n adlewyrchu canfyddiadau’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y grŵp wedi hynny. Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n gwneud amryw o argymhellion pwysig, yn fawr. Byddaf yn awr yn cymryd amser i ystyried cynnwys yr adroddiad, yng nghyd-destun yr adolygiad ehangach o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesu a hefyd, lle bo hynny’n briodol, yng nghyd-destun y gwaith sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i ymateb i’r adolygiad o gymwysterau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Byddaf yn ymateb yn llawn gyda hyn i bob un o’r argymhellion hynny.
Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i Dr Elin Jones a’r Aelodau canlynol o’r grŵp adolygu am eu gwaith i gynhyrchu’r adroddiad a’r argymhellion:
- (Dirprwy Gadeirydd) Paul Nolan, Ymgynghorydd Hanes;
- Yr Athro Angela John;
- Dr Sian Rhiannon Williams, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd;
- Dr Hugh Griffiths, Ysgol Bro Myrddin;
- Nia Williams, Cydlynydd Addysg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru;
- Frank Olding, Swyddog Treftadaeth Blaenau Gwent;
- Dr Stephanie Ward, Prifysgol Caerdydd;
- David Stacey, Ysgol Gyfun yr Olchfa;
- Dr Martin Johnes, Prifysgol Abertawe;
- William Rogers, Ysgol Queen Street, Blaenau Gwent;
- Nicola Thomas, Ysgol Cornist Park;
- Nia Huw, Ysgol Gynradd Llangeitho;
- John Dilwyn Williams, Archifau Gwynedd.
http://learning.wales.gov.uk/resources/the-cwricwlwm-cymreig-final-report/?skip=1&lang=cy&kjh