Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Heddiw rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r Papur Gwyrdd 'Gweithio gyda’n gilydd Dros Gymru: Gweithlu’r Gwasanaeth Cyhoeddus’ ynghyd â'r ymatebion unigol.
Cyhoeddwyd y Papur Gwyrdd ym mis Mai 2012 a gofynnwyd am farn ar y cynigion fel rhan o ymarfer ymgynghori 12 wythnos a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2012. Roedd y Papur Gwyrdd yn cynnwys nifer gynigion ar gyfer deddfwriaeth Cymru, sef:
- rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar faterion sy'n ymwneud â'r gweithlu sy'n effeithio ar y gwasanaeth cyhoeddus;
- rhoi dyletswydd ar sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus i gydweithio ar faterion sy'n ymwneud â'r gweithlu;
- cadarnhau Cod Gweithlu Dwy Haen ar gyfer sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Daeth cyfanswm o ryw 50 o ymatebion i law i'r cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyrdd. Cafwyd ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys llywodraeth leol, y sector iechyd, y sector addysg, undebau llafur, grwpiau proffesiynol, unigolion, ac un yr un gan Gomisiynydd y Gymraeg, sefydliad gwirfoddol a grŵp busnes.
Mae'r ymatebion yn dangos ymrwymiad rhanddeiliaid gwasanaeth cyhoeddus i gynnig gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon sy'n canolbwyntio ar y dinesydd i bobl Cymru. Mae'r sylwadau ar y cynigion yn dangos cefnogaeth gref i waith partneriaeth a'r egwyddorion strategol a amlinellir yn ein cyhoeddiad Gweithio gyda’n gilydd Dros Gymru: Fframwaith Strategol ar gyfer y Gweithlu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru. Hefyd roedd cefnogaeth ar gyfer model partneriaeth gymdeithasol a gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, gyda'r ymatebwyr yn teimlo y dylid ei gynnal fel ag y mae.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn pwysleisio dau faes y dylai Gweinidogion Cymru eu hystyried. Roedd nifer o alwadau am fwy o arweiniad gan Weinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud â gweithlu'r gwasanaeth cyhoeddus. Roedd yn amlwg hefyd o'r ymatebion bod dryswch ynghylch sefyllfa a chwmpas y Codau Gweithlu Dwy Haen presennol, gyda gwahanol rannau o'r gwasanaeth cyhoeddus yn ansicr p'un a yw'r Codau'n berthnasol iddyn nhw, neu a yw'r Codau mewn grym o hyd.
Nid yw penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Codau cyfatebol yn Lloegr wedi effeithio ar sefyllfa'r Codau yng Nghymru. Mae Codau Gweithlu Dau Haen Cymru yn gymwys o hyd a dylid cadw atynt. Rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng Codau statudol ac anstatudol a bod angen eglurder ar gwmpas y Codau.
Byddaf yn ystyried y sylwadau sydd wedi dod i law yn ofalus wrth i ni ddatblygu Bil y Cynulliad.
Mae Crynodeb o’r ymatebion ar-lein.