Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw rwy'n ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddarparu rhagor o dystiolaeth i gefnogi'r drafodaeth am fenter gymdeithasol ym maes gofal cymdeithasol. Rwy'n gwneud hyn ar ffurf tystiolaeth a phapur cwmpasu.
Hoffwn gadarnhau ein hymrwymiad i fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ac i'r trydydd sector fel a nodir ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Yn fy nhyb i, mae’r Bil drwyddi draw yn ymgorffori model Cymreig mewn cyfraith lle gall cyd-gynhyrchu a mathau eraill o weithgarwch cydweithredol a phartneriaeth ffynnu. Nid yw'r agwedd hon wedi ei datblygu ddigon ym maes gofal cymdeithasol. Ei hanfod yw hyrwyddo gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr, mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn datblygu'r dull newydd o atal ac ymyrryd yn gynnar a nodir yn ein polisi, ac i roi llais cryfach a rheolaeth wirioneddol i bobl. Mae’r modelau hyn yn golygu bod llawer o gyfleoedd cyffrous newydd i'w harchwilio, ac mae llawer o enghreifftiau yn dangos sut y mae'r modelau hyn wedi helpu i alluogi pobl i gyfrannu'n llawn at ddarparu gwasanaethau.
Mae fy swyddogion wedi gwneud trefniadau i roi fy ymrwymiadau ar waith i sicrhau bod modelau o'r fath yn ffynnu yng Nghymru.