Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 28 Ionawr, gosodais y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gan y byddaf yn cymryd rhan yn sesiwn graffu’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil am y tro cyntaf yn ddiweddarach yr wythnos hon, roeddwn am fanteisio ar y cyfle i ddatgan ei bod yn bleser gennyf weld bod y Bil wedi cael ei groesawu ers iddo gael ei gyflwyno. Er hynny rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi cael eu codi. Dyma pam rwy’n croesawu’r holl waith y mae’r pwyllgorau perthnasol yn ei wneud fel rhan o’r broses o graffu ar y Bil.
Mae’r Bil hwn yn fwy na darn arall o ddeddfwriaeth. Ei brif nod yw gosod y sylfaeni ar gyfer newid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dros genhedlaeth; newid a fydd yn ei wneud yn gynaliadwy nid yn unig yn y blynyddoedd nesaf, ond yn y degawdau nesaf. Dyna pam rwy’n ystyried y cyfnod hwn yn nhaith y Bil yn un o’r cyfnodau pwysicaf, gan mai craffu yn unig a fydd yn sicrhau bod y sylfaeni rydym wedi ceisio eu gosod yn addas at y diben; dim ond gyda sylfaeni cadarn y gellir adeiladu rhywbeth a fydd yn para.
Ond dim ond cychwyn taith hir yw hyn, ac mae llawer o waith i’w wneud eto. Felly, yn ogystal â’r broses graffu swyddogol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cysylltu â rhanddeiliaid allweddol drwy gydol y cyfnod hwn, a’r tu hwnt, i sicrhau ein bod yn gwrando rhagor ac yn ceisio mynd i’r afael â phryderon o unrhyw fath. Fel rhan o hyn, mae swyddogion wrthi’n trefnu cyfres arall o ddigwyddiadau ymgysylltu ffurfiol ledled Cymru yn ystod mis Mai. Bydd y digwyddiadau yn rhoi’r cyfle i randdeiliaid drafod y materion allweddol, yn ogystal â rhoi cyfle iddynt gyfrannu at ddatblygiad pellach y polisi a fydd yn sail i’r Bil. Anfonwyd y gwahoddiadau i’r digwyddiadau yr wythnos hon.
Ni ellir cyflwyno’r Bil hwn heb weithio gyda’n gilydd a heb bartneriaeth go iawn - nid yn unig rhwng Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol, ond hefyd gyda Llywodraeth Leol yn ehangach, y GIG, y Trydydd Sector, y sector annibynnol - a’r dinesydd. Dim ond drwy’r partneriaethau hynny, drwy weithio gyda’n gilydd ac yn bwysicach na dim, drwy wrando ar ein gilydd, y gallwn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hanfodol hon yn gywir. A chan ystyried y nod hwnnw, edrychaf ymlaen at weithio rhagor gyda chi i gyd dros y misoedd nesaf.