Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhoddais wybod i'r Aelodau yn fy natganiad ym mis Gorffennaf y byddwn yn cyflwyno newidiadau drwy welliannau i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), er mwyn cryfhau'r cysylltiad ymhellach rhwng asesu a'r fframwaith cymhwystra ar gyfer y dyfodol. Dywedais y byddwn yn rhoi gwybod y newyddion diweddaraf i Aelodau am y cynnydd sydd wedi'i wneud ar yr agwedd bwysig hon ar ein rhaglen trawsnewid.
Erbyn hyn rwyf wedi cyflwyno'r gwelliannau i gael eu hystyried yn nhrafodaethau Cyfnod 2. Mae'r rhain yn cynnig newidiadau sylweddol a fydd yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol - ar adeg yr asesu ac wrth bennu a yw unigolyn yn bodloni meini prawf cymhwystra - i ystyried ffyrdd eraill o ddiwallu anghenion unigolyn. Gellir gwneud hynny drwy ddarparu: gwybodaeth, cyngor neu gymorth; gwasanaethau ataliol; neu unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael yn y gymuned.
Heddiw, rwyf am nodi'n benodol sut y byddaf yn datblygu ein dull ni o bennu cymhwystra.
Rydym i gyd yn cydnabod bod angen inni foderneiddio'r system i fodloni disgwyliadau'r gymdeithas sydd ohoni a disgwyliadau'r rhai hynny sy'n dibynnu arni. Cefais fy synnu bod y materion hyn wedi ennyn cymaint o drafodaeth a dadl. Yr hyn a'm tynnodd fy sylw'n benodol oedd bod pobl wedi lleisio'u barn yn gryf ynghylch y fframwaith cymhwystra presennol ar gyfer oedolion, a bod ansicrwydd a phryder ynglŷn â symud i system newydd, er y bydd y system honno'n ceisio galluogi mwy o bobl i gadw eu hannibyniaeth a gwella eu llesiant.
Mae'r Bil yn darparu'r fframwaith cyfreithiol a fydd yn sail ar gyfer newid mawr yn y ffordd y mae'r system bresennol yn gweithredu. Cafodd hyn ei gydnabod gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyd-ffederasiwn y GIG yn eu hadroddiad diweddar, sef Transitional and longer term implication of the Social Services and Well-being (Wales) Bill . Mae'r adroddiad yn datgan bod y Bil yn cefnogi newid y system yn gyfan gwbl fel ei bod yn anelu at system sy'n atal yr angen am gymorth rhag digwydd, ac un lle y bydd mwy o gyfleoedd i ymyrryd yn gynnar i gynnig cymorth cymesur wrth ddiwallu'r angen neu wrth leihau'r angen.
Rhaid inni ganolbwyntio ar lesiant pobl, eu cryfderau, ac ar ddatblygu rhwydweithiau a chysylltiadau eu teuluoedd a'u cymunedau. Rydym am i unigolion fod yn ganolog wrth wneud penderfyniadau am eu llesiant eu hunain, ac iddynt barhau i reoli'r ffordd y maent yn byw eu bywydau. Rhaid i'r system newydd sicrhau bod pobl a'u teuluoedd yn cael y cymorth iawn, yn y lle iawn, ac ar yr adeg iawn.
Ein man cychwyn felly yw gwneud newidiadau i brosesau pennu cymhwystra a fydd yn mynd yn rhan o'r newidiadau cyffredinol sydd eisoes yn cael eu cynnwys yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Meini Prawf Cymhwystra Cenedlaethol yn y System Newydd
Er y bydd asesu a chymhwystra'n chwarae rôl ganolog yn y system newydd ar gyfer llesiant, gofal a chymorth, mae'r arwyddocâd y bydd hynny'n ei gael ar bennu a yw unigolyn yn derbyn cymorth sy'n diwallu eu hanghenion yn sylweddol is. Yn hytrach na hynny, bydd y system newydd yn canolbwyntio'n fwy ar ddulliau ataliol, tryloywder, ac ar ddatblygu cryfderau pobl i'w galluogi i leisio'u barn a rheoli'r hyn sy'n bwysig iddynt, eu hanghenion a'u dyheadau. Bydd hynny'n golygu y bydd mwy o bobl yn cael eu cefnogi y tu allan i'r fframwaith cymhwystra.
Amlinellwyd fy mholisi i gyflwyno fframwaith cymhwystra cenedlaethol er mwyn cynnig dull cyson o fynd ati i wneud penderfyniadau ym mhob ardal yng Nghymru ar gyfer pawb sydd ag anghenion gofal a chymorth yn y ddogfen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2011.
Mae'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn darparu'r fframwaith cyfreithiol i roi'r polisi hwnnw mewn grym drwy reoliadau a'r Cod Ymarfer a fydd yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a dinasyddion, ac sy'n ddibynnol ar ymgynghoriad yng ngwanwyn 2014. Hoffwn ddweud yn awr y byddwn yn croesawu ymateb y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn arbennig i'r ddogfen ymgynghori. Roedd cyfraniad ystyriol a heriol y Pwyllgor at ddatblygu'r Bil, drwy'r broses craffu, wedi caniatáu inni symud ymlaen a gwella'n ffordd o feddwl ar bob cam o'r gwaith. Dyna pam rwy'n gwneud ymrwymiad cadarn i gyfeirio'r rheoliadau a'r Cod Ymarfer at yr adeg y bydd yr ymgynghoriad yn dechrau. Yn dilyn y broses ymgynghori bydd y rheoliadau a'r Cod yn cael eu dwyn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a byddant yn ddarostyngedig i'r gweithdrefnau cadarnhaol.
Mae gallu cydweithio â'r rhanddeiliaid a dethol o'r dystiolaeth sylweddol a gafodd ei hystyried gan y Pwyllgor ac yn ehangach wedi bod o gymorth mawr wrth lunio'n fframwaith newydd. Fel canlyniad, rwy'n bwriadu sicrhau y bydd y rheoliadau a'r Cod:
- yn trin pobl fel partneriaid cyfartal wrth lunio'u gofal a'u cymorth
- yn pennu isafswm trothwy ar ba anghenion sy'n anghenion cymwys ar gyfer gofal a chymorth i blant, oedolion a gofalwyr y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru eu bodloni
- yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn o ran gofal a chymorth, effaith yr anghenion hynny ar les yr unigolyn, a lefel y risg i'r unigolyn os nad yw'r anghenion hynny'n cael eu diwallu
- yn ei gwneud yn fwy clir i bobl am yr hyn y gallant ei hawlio; a sicrhau cysondeb am lefel y trothwy. Byddai hynny'n rhoi mwy o ffydd i bobl allu symud i ran arall o Gymru, os ydynt yn dymuno ac os nad yw eu hamgylchiadau wedi newid, gan wybod y bydd eu hawliau i ofal a chymorth yn parhau
- yn pennu'r meini prawf ar gyfer pobl sy'n mynd i gael 'trwydded' i gael eu trin fel pobl gymwys, hynny yw'r rhai hynny y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hamddiffyn rhag cam-drin neu esgeulustod, neu sydd mewn perygl o gam-drin neu esgeulustod, a hefyd yn achos plant: niwed, neu berygl o niwed
- yn atal awdurdodau lleol rhag cryfhau'r meini prawf cymhwystra yn fwy na'r hyn sydd wedi'i bennu yn y rheoliadau
- yn gosod dyletswyddau rheolaidd ar awdurdodau lleol i ystyried y cymorth ehangach ar draws y system gofal a llesiant newydd, er mwyn sicrhau bod mwy o bobl ag anghenion yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd y mae modd manteisio arnynt sydd y tu hwn i'r meini prawf cymhwystra.
Rhaid i'r fframwaith cymhwystra fod yn sensitif i wahanol anghenion, cyd-destunau a chanlyniadau ar gyfer plant, oedolion a gofalwyr. Ni all felly fod yn un dull sy'n addas i bawb.
Mae angen i blant gael magwraeth sefydlog, gan gynnwys y lefel iawn o ofal a chymorth gan eu rhieni sy'n hanfodol i'w datblygiad. I nifer o oedolion, eu blaenoriaeth fydd i gael cymorth i allu byw'n annibynnol; gorau oll gartref yn eu cymunedau, beth bynnag bo'u hamgylchiadau. Hoffai gofalwyr gael eu cydnabod am y cyfraniad a wnânt, a gallu cael hyd i gymorth a chyngor amserol i'w helpu i ofalu ac i gefnogi llesiant eu hunain.
Felly, rhaid i'r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob grŵp roi ystyriaeth i wahanol nodweddion ac amgylchiadau, ac anghenion cyfnewidiol gydag amser, yr unigolion ym mhob grŵp; boed yn blant, oedolion neu'n ofalwyr. Gallaf sicrhau Aelodau y bydd y rheoliadau y byddaf yn eu cyflwyno yn sensitif i nodweddion amrywiol plant, oedolion a gofalwyr, ac yn adlewyrchu'r nodweddion hynny. Rwy'n gwybod y bydd y Pwyllgor yn croesawu hyn.
Yn achos pobl sy'n mynd i gael 'trwydded' er mwyn cael eu hamddiffyn rhag cam-drin, esgeulustod neu niwed - mae'r dyletswyddau hefyd yn pennu hawl pendant i'r awdurdodau lleol ddiwallu anghenion unigolion (plant neu oedolion) o ran gofal a chymorth. Mae hwn yn welliant mawr a fydd yn sicrhau bod gweithredu i ddiogelu pobl a allai fod mewn perygl yn flaenoriaeth.
Drwy'r gwelliannau arfaethedig a gynigiwyd gennyf yn y maes hwn, bydd gan awdurdodau lleol - ar adeg yr asesu ac wrth bennu a yw unigolyn yn bodloni'r meini prawf cymhwystra - ddyletswydd i ystyried ffyrdd eraill y gellir bodloni anghenion yr unigolyn; er enghraifft drwy ddarparu: gwybodaeth, cyngor, neu gymorth, gwasanaethau ataliol, neu unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael yn y gymuned. Mae hyn yn sicrhau y bydd pobl sydd angen cymorth yn cael eu cynorthwyo i gael hyd i gymorth ni waeth beth fo statws eu cymhwystra.
Rydym yn gwella'r fframwaith cymhwystra a'r meini prawf a fydd yn berthnasol i blant, oedolion a gofalwyr. Fodd bynnag, i oedolion fy safbwynt cynnar yw y bydd y meini prawf cymhwystra cenedlaethol ar un lefel. Mae hyn yn debygol o gael ei seilio ar y lefel 'sylweddol' yn y trefniadau presennol, ond disgwyliaf i'r lefel genedlaethol newydd gael eu gweithredu'n gyson ar hyd a lled Cymru gyfan.
I blant a gofalwyr, dyma'r tro cyntaf i awdurdodau lleol roi meini prawf cymhwystra ar waith, ac mae gwahanol oblygiadau i'w hystyried. Bydd y system yn cadw dyletswyddau awdurdodau lleol i blant, sydd dan y trefniadau presennol yn cael eu diffinio fel 'mewn angen'. Fodd bynnag, bydd gan awdurdodau lleol ddyletswyddau penodol i blant sydd angen eu hamddiffyn; a phlant sy'n derbyn gofal, y mae gan Aelodau gyfrifoldeb corfforaethol drostynt.
Byddaf yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid, a phobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, i ddatblygu'r rheoliadau a'r Cod drafft.
Rwy'n gwybod bod y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau ar hyn o bryd yn poeni am effaith symud i'r trefniadau newydd. Rwyf am sicrhau'r bobl hynny y bydd trefniadau pendant ar waith i sicrhau bod y gofal yn parhau i unigolion wrth drosglwyddo i'r system newydd.
Fodd bynnag, gwyddom fod anghenion pobl yn newid gydag amser, ac felly mae'n bwysig adolygu'r angen am gymorth yn rheolaidd. Bydd hynny'n rhywbeth a fydd yn parhau i nodweddu'r system newydd.
Y ffactorau allweddol hyn sy'n llunio sylfaen ein gwaith manwl ar reoliadau a Chod cymhwystra. Fel imi ddweud, rhaid i hynny fod yn rhan o fframwaith cyffredinol y system newydd.
Ni fydd system ar gyfer y dyfodol sy'n gyfan gwbl ddibynnol ar bennu a yw unigolyn yn gymwys neu beidio yn gwireddu ein hamcanion. Mae'r cynnydd yn y sylw a roddir yn y system ar ddarparu gwybodaeth hygyrch, cyngor a chymorth, a gwasanaethau ataliol yn y gymuned, wedi'i anelu at wella llesiant pobl. Rhaid inni weithio ar y cyd â phobl i leihau neu ohirio'r angen am ofal a chymorth. Rhaid inni hefyd sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu hintegreiddio'n lleol i gael gwared ar fylchau a datblygu'r ddarpariaeth yn ôl anghenion pobl.
Rhaid i'r system hefyd ddarparu cymorth cymesur a hygyrch i unigolion y mae'n bosib y byddai angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnynt ar wahanol adegau yn eu bywydau er mwyn parhau i fyw yn annibynnol neu adfer hynny, a sicrhau cydlyniant teuluol.
Mae nifer o awdurdodau lleol eisoes yn gwneud cynnydd wrth ad-drefnu eu gwasanaethau gan anelu at ddulliau ataliol ac ymyrryd yn gynnar i fodloni anghenion a disgwyliadau eu cymunedau. Un enghraifft yw'r gwasanaethau ail-alluogi sy'n cael eu darparu'n bennaf y tu allan i drothwyon cymhwystra lleol ac sydd eisoes yn cael effaith bositif yng Nghymru. Roedd dros 23,000 o bobl wedi elwa o wasanaethau o'r fath yn 2011/12.
Bydd y cam gweithredu sy'n flaenoriaeth i integreiddio gwasanaethau i bobl hŷn, gan gynnwys ein gwaith i symleiddio trefniadau asesu ar gyfer pobl 65 oed ac yn hŷn yn y fframwaith cyfreithiol presennol, yn rhoi ysgogiad pellach i arloesi'n lleol. Mae hefyd yn cynnig modd effeithiol o drosglwyddo i'r trefniadau newydd sydd wedi'u cynnwys yn y Bil.
Yn yr un modd, rydym yn parhau i fuddsoddi ein cymorth cymunedol mewn teuluoedd, ac yn cryfhau'r cymorth hwnnw. Enghreifftiau o hynny yw rhaglenni fel Dechrau'n Deg, a Theuluoedd yn Gyntaf, sy'n chwarae rolau pwysig wrth gefnogi plant a theuluoedd mewn ffyrdd mwy anffurfiol a holistaidd. Byddaf yn gwneud datganiad arall ar wasanaethau ataliol yn nes ymlaen y mis hwn.
Rwyf wedi dweud ar sawl achlysur bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn Fil ar gyfer cenhedlaeth. Bydd yn trawsnewid gofal a chymorth yng Nghymru. Mae'n golygu newid system yn gyfan gwbl – ond rwyf wedi clywed y pryderon sydd wedi cael eu mynegi am fanylion penodol y fframwaith cymhwystra cenedlaethol.
Rwyf wedi amlinellu yma'r ffactorau allweddol a fydd yn sail i ddatblygu'r fframwaith hwnnw, y rheoliadau a'r Cod Ymarfer. Rwyf wedi gwneud ymrwymiad i ddatblygu'r rhain ar y cyd â phartneriaid, rhanddeiliaid ac â'r dinasyddion eu hunain. Byddaf yn ymgynghori ar y rhain yng ngwanwyn 2014, ac rwyf wedi'i gwneud yn glir y byddaf yn croesawu safbwyntiau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar adeg ymgynghori, a chyn i'r rheoliadau a'r Cod gael eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan y Cynulliad.
Rwy'n bwriadu i'n system newydd weithredu i sicrhau y bydd anghenion pobl Cymru yn cael eu bodloni drwy'r meini prawf cymhwystra ac yn ehangach fel rhan o'r system gyfan ar gyfer llesiant, gofal a chymorth.