Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Rwy’n falch o hysbysu Aelodau’r Cynulliad y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â Chynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cymru o 2012-13 hyd at 2013-14.
Clywodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Ardrethi Busnes am bryderon nifer o fusnesau ynghylch dyfodol y Cynllun ar ôl mis Mawrth 2013. Gan fod y sector busnesau bach a chanolig mor bwysig i economi Cymru, roeddent yn sicr o blaid ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes presennol.
Pwysodd Llywodraeth Cymru ar Drysorlys ei Mawrhydi i barhau â’r cynllun y tu hwnt i fis Mawrth 2013, gan bwysleisio’i bwysigrwydd I fusnesau bach.
Yn ei Ddatganiad yr Hydref ar 5 Rhagfyr, cyhoeddodd y Canghellor y byddai’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes yn parhau hyd at flwyddyn ariannol 2013-14.
Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â Chynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cymru o 2012-13 hyd at 2013-14.
Mae’r cynllun yn cynnig cymorth gwerthfawr i fusnesau bach mewn cyfnod anodd iawn yn y cylchdro economaidd. Ni fydd y meini prawf cymhwyso ar gyfer rhyddhad yn newid, ac yn fuan byddaf yn trefnu i’r rheoliadau priodol gael eu gosod gerbron Aelodau’r Cynulliad.