Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf roi’r Datganiad hwn i Aelodau’r Cynulliad sy’n nodi cyfres gyntaf o benderfyniadau mewn ymateb i Adolygiad Strategol yr Athro Siobhan McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru.
Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau ynglŷn â’r Adolygiad. Mae’r rhain wedi llywio fy ymateb iddo. Credaf y gall y trafodaethau adeiladol sy’n parhau am ddarpariaeth y gwasanaeth ambiwlans dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod ond helpu i sicrhau’r gwelliannau yr ydym oll am eu gweld.
Awgrymodd yr Athro McClelland y dylai’r broses o lunio dyfodol y gwasanaethau ambiwlans ddechrau gyda chytundeb diamwys ynglŷn â’i natur fel gwasanaeth clinigol. Roedd yn amlwg o’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7fed Mai, fod Aelodau wedi’u darbwyllo gan y dymuniad a fynegwyd yn yr Adroddiad i gael gwasanaeth ac iddo ffocws clinigol a chymeradwyaf y safbwynt hwnnw’n ffurfiol heddiw.
Cynigiodd yr Athro McClelland hefyd yn ei hargymhelliad cyntaf y dylai’r dyfodol clinigol hwn gael ei ymgorffori’n gadarn yn y system gofal heb ei drefnu o ddydd i ddydd. Cytunaf ac rwyf wedi gofyn i Dr CDV Jones, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd arweiniol dros ofal heb ei drefnu, gydweithio â staff yn y Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.
Cynigiodd ail argymhelliad yr Athro McClelland y dylai’r gwaith ddechrau ar ddatgysylltu Gwasanaethau Gofal Cleifion oddi wrth y rhan o’r gwasanaethau ambiwlans sy’n ymateb i achosion brys.
Bydd angen ystyried pryderon clinigol, materion sy’n ymwneud â’r gweithlu a materion cyfreithiol yn ofalus cyn y gall hyn ddigwydd, a bydd angen cytuno ar amserlen. Felly, rwyf wedi gofyn i Brif Weithredwyr BILlau ystyried ymarferoldeb cyflawni hyn gan weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Ambiwlans a chynrychiolwyr staff perthnasol. Rhoddaf ragor o fanylion am y gwaith hwn i’r Aelodau ym mis Gorffennaf.
Mae’r trydydd argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad yn ymwneud â’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol gan Galw Iechyd Cymru a’r defnydd o’r rhif 111 am achosion nad ydynt yn rhai brys yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r argymhelliad hwn yn un hanfodol ac annatod a byddwn yn gweithredu arno fel rhan o ddatblygiadau ehangach ar gyfer brysbennu a gwybodaeth a chyngor ar iechyd dros y ffôn, gan ddysgu o dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg mewn mannau eraill.
Argymhellodd y chweched a’r seithfed cynnig y dylid rhoi prosesau cadarn ar gyfer cynllunio a moderneiddio’r gweithlu ar waith, yn gyson â’r broses o ddatblygu llwybr gofal amgen.
Mae grymuso a datblygu staff rheng flaen yn flaenoriaeth, yn fy marn i. Mae caniatáu iddynt wneud ystod ehangach o benderfyniadau sy’n ddiogel ac yn effeithiol yn glinigol ‘yn y fan a’r lle’ yn hanfodol oherwydd bydd gwell sgiliau gwneud penderfyniadau clinigol yn gwella profiad cleifion ac yn lleihau teithiau diangen i’r ysbyty.
Mae arian eisoes wedi’i neilltuo ar gyfer 2013/14 er mwyn galluogi nifer o dechnegwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol. Mae arian hefyd wedi cael ei ddarparu i fuddsoddi mewn rolau uwch ymarferwyr yn y GIG a bydd hyn yn cynnwys rolau penodol ym maes gofal brys.
Cafodd dros 47,000 o gleifion eu dargyfeirio oddi wrth adrannau damweiniau ac achosion brys prysur gan barafeddygon am resymau clinigol y llynedd yn unig. Fodd bynnag, disgwyliaf i Fyrddau Iechyd Lleol weithio gyda phartneriaid i gyflymu’r broses o ddatblygu llwybrau gofal amgen a llwybrau gofal cymunedol ar gyfer nifer o gyflyrau dros y chwe mis nesaf.
Mae’r nawfed argymhelliad yn rhoi cyngor pwysig ar fesur perfformiad yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau mwy o dryloywder a chynnig darlun mwy cyfannol o ddarparu gofal heb ei drefnu, cytunais y dylai Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r BILlau gyhoeddi amrywiaeth o wybodaeth fisol ychwanegol o fis Gorffennaf 2013.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi data ar rychwant ehangach o amseroedd ymateb ac mae swyddogion yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ystyried pa mor fuan y gellir cyflawni hyn.
Cafwyd cytundeb cyffredinol, o bob rhan o’r Cynulliad, na ddylid ystyried y targed o wyth munud fel unig linyn mesur perfformiad y gwasanaeth ambiwlans. Fodd bynnag, deallaf bwysigrwydd cadw’r wybodaeth am ymateb o fewn wyth munud er mwyn gallu cymharu perfformiad â gwledydd eraill y DU, tra’n rhoi mwy o bwyslais ar drosglwyddo cleifion fel dangosydd allweddol o ansawdd.
Am weddill y flwyddyn, bydd swyddogion yn gweithio gyda’r gwasanaeth ambiwlans a rhannau eraill o’r GIG i ddatblygu cyfres newydd o ddangosyddion sy’n rhoi cyfres ddeallus o dargedau a safonau sydd wedi’u llywio’n glinigol.
Byddant yn canolbwyntio ar ganlyniadau, yn gyson â’r llwybr gofal heb ei drefnu integredig a byddwn yn cytuno arnynt drwy ymgysylltu â GIG Cymru. Nid yw’r gwaith hwn yn hawdd o reidrwydd, ond rwyf wedi gofyn am iddynt fod ar waith o 1 Ebrill 2014. Bydd y wybodaeth hon yn rhoi mwy o dryloywder a chyd-destun o ran ansawdd a pherfformiad y gwasanaeth ambiwlans brys.
Yn olaf, nododd yr Athro McClelland dri opsiwn gwahanol ar gyfer model strwythurol y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn y dyfodol. Bu’r ddadl ar 7 Mai yn ddefnyddiol iawn o ran llunio fy marn a byddaf yn ystyried eich safbwyntiau ymhellach cyn gwneud penderfyniad.
Rwyf am fod yn sicr bod y system yn y dyfodol yn dryloyw; bod systemau ariannu yn gyson ag atebolrwyddau; a bod cyfrifoldebau am berfformiad yn glir.
Mae angen i mi hefyd fod yn sicr ein bod yn dewis y model strwythurol cywir i wireddu’r weledigaeth glinigol a amlinellir yn adroddiad yr Athro McClelland. Mae arfarniad o opsiynau yn cael eu datblygu i lywio’r broses hon fel y gellir ystyried materion cyfreithiol ac ariannol a materion sy’n ymwneud â’r gweithlu yn ofalus.
Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ym mis Gorffennaf.