Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi cytuno y gall yr 11 awdurdod lleol sydd wedi cadw eu stoc tai yng Nghymru adael system Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai (HRAS).
Bu pryderon ers sawl blwyddyn ynghylch y trosglwyddiadau sylweddol o’r awdurdodau lleol yng Nghymru i Drysorlys Ei Mawrhydi, drwy Lywodraeth Cymru, o ganlyniad i’r system gymhleth hon. Ar hyn o bryd mae hyn yn gyfanswm o tua £73 miliwn y flwyddyn.
Mae dwy elfen i’r cytundeb. Yn y rhan gyntaf bydd awdurdodau lleol yn prynu eu ffordd allan o’r system cymhorthdal bresennol drwy dalu un swm, a bydd awdurdodau lleol yn ysgwyddo dyled newydd i ariannu’r setliad. Bydd y diwygiadau hyn yn cynhyrchu cyfanswm o £33 miliwn mewn arbedion bob blwyddyn i’r 11 awdurdod lleol sydd wedi cadw eu stoc tai.
Bydd yr ail elfen, sy’n amod i’r cytundeb, yn cynnwys gosod cap ar fenthyciadau yn ymwneud â thai. Rydym wedi llwyddo i negodi lefel y cap dyledion er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol barhau i fuddsoddi yn eu stoc tai yn unol ag ymrwymiadau presennol eu cynlluniau busnes tai. Bydd gan awdurdodau lleol fwy o arian i’w wario ar godi ansawdd eu tai i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, er lles gwirioneddol eu tenantiaid.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr amserlen pan fydd wedi’i chytuno gyda’r Trysorlys, ac fe fyddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’w gweithredu.
Rydym yn deall i hyn fod yn waith cymhleth a heriol ac rydym yn ddiolchgar iawn am gymorth y Gweinidogion blaenorol, awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’n swyddogion wrth gyflawni’r cytundeb hanesyddol hwn.