Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n croesawu cyhoeddi Adroddiad Blynyddol cyntaf Dr Ruth Hussey yn ei rôl fel Prif Swyddog Meddygol Cymru. Roedd yr adroddiad yn sôn am 2012-13.

Fel yr adroddiadau blaenorol, mae hwn yn gynhwysfawr iawn. Mae dadansoddiad o faterion diweddar fel achosion o’r frech goch a phroblem afiechyd yr afu/iau sy’n dod i’r amlwg. Mae ynddo hefyd adolygiad o faterion ehangach fel datblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd, effaith y newid yn yr hinsawdd a manylion sefyllfa bresennol am iechyd a’r GIG yng Nghymru.

Mae nifer o argymhellion penodol yn y ddogfen a dywedir y bydd adroddiadau’r dyfodol yn dod yn ôl i ystyried y rhain rywbryd eto.

Mae’n cynnwys pum pennod sy’n ymwneud â materion fel y tueddiadau ym myd iechyd, swyddogaeth amddiffyn iechyd a chamau ataliol a’r materion sy’n wynebu’r GIG, ac mae pob pennod yn cynnig argymhellion penodol. Mae’r penodau’n cynnwys adrannau sy’n mynd i’r afael ag agweddau ar iechyd mewn ffyrdd newydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o drafod wedi bod ar les. Mae’r adroddiad yn pwysleisio hyn ac yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng iechyd y corff ac iechyd y meddwl. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymarfer corff yn y broses o wella iechyd y corff a’r meddwl.  

Trafodwyd perthynas bwysig arall yn yr adroddiad, sef y berthynas rhwng iechyd a’r economi. Mae dealltwriaeth dda o effaith yr economi ar iechyd. Mae’r adroddiad yn mynd yn bellach wrth drafod potensial cudd y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel sector llewyrchus sy’n creu swyddi, gan gynnwys elfennau fel ymchwil ac arloesi, y diwydiant hamdden, gofal cymdeithasol, arlwyo a thwristiaeth. Un o gasgliadau cyffredinol yr adroddiad oedd bod rhaid edrych ar hyn yn fanylach.  

Dyma yw neges gyffredinol yr adroddiad: er bod iechyd yng Nghymru yn gwella mewn nifer o ffyrdd, erys y problemau, ac yn fwy arwyddocaol nid yw’r bwlch rhwng iechyd y cymunedau lleiaf difreintiedig a’r rhai mwyaf difreintiedig i’w weld fel petai’n cau. Yn unol â hynny, mae argymhellion cyffredinol ar sut i fynd i’r afael â hyn. Mae un yn sôn am gamau parhaus sy’n ymwneud ag ymddygiad iach, yn enwedig torri i lawr ar ddefnyddio tybaco a chamddefnyddio alcohol, lleihau gordewdra a chynyddu lefelau ymarfer corff.

Er mwyn gwella iechyd yn gyffredinol, mae’r adroddiad yn nodi bod angen i’r ffaith bod gwneud Cymru’n iach yn gyfrifoldeb i bawb gael ei chydnabod yn ehangach. Mae’n rhaid i bawb gymryd camau yn unol â hyn ar draws y gymuned, yn unigolion, gweithwyr iechyd a Llywodraeth Cymru. Rwy’n gefnogol i hyn. Rwy’n credu’n gryf bod y cyfrifoldeb hwn yn un i’w rannu ac ar hyn o bryd nid pawb sy’n deall hynny. Hyderaf y gallwn ni fel Llywodraeth wneud mwy i greu’r amgylchedd cymdeithasol a ffisegol cywir ar gyfer Cymru iach, ond gall pobl Cymru wneud mwy i wella ac amddiffyn eu hiechyd eu hunain a’u plant. Gallwn helpu hyn gyda chyngor a gwybodaeth, ond mae’n rhaid cael y parodrwydd ehangach hwnnw i gymryd camau i fynd i’r afael â hyn.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd creu gwasanaeth iechyd sy’n wydn ac yn gallu addasu yng Nghymru, gwasanaeth sy’n gallu ymateb i heriau’r unfed ganrif ar hugain. Er mwyn gwneud hyn, mae’r adroddiad yn nodi ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a’r cyhoedd yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r gwasanaethau iawn. Mae cyd gynhyrchu yn hanfodol ar gyfer datblygu GIG gwell yng Nghymru ac rwy’n gefnogol iawn i  argymhellion Dr Hussey.

Rwy’n cymeradwyo’r adroddiad hwn fel ffynhonnell wybodaeth a dadansoddiad o gyflwr y maes iechyd yng Nghymru a beth sydd rhaid inni ei wneud yn y dyfodol.