Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar gynigion am Ddatganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru yn dechrau cyn bo hir. Bydd manylion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae hawliau dynol a chydraddoldeb wedi’u hymgorffori yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r rhain yn hanfodol os ydym yn mynd i lwyddo yn ein huchelgais i adeiladu Cymru sy’n deg a chynhwysol, a chymunedau lle gall pawb fod yn rhan ohonynt. Rhaid inni gael gwared ar yr arfer hen-ffasiwn o stereoteipio pobl ar sail oedran, a chydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau enfawr pobl hŷn i’n cymunedau ledled Cymru.
Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 11 Rhagfyr 2012, rhoddais wybod ichi am fy mhenderfyniad i ofyn i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru arwain Grŵp Cynghori i ystyried rhinweddau Datganiad potensial o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru. Fel y gallech ddisgwyl, mae’r Comisiynydd wedi bod yn cynnal trafodaethau â phobl hŷn o’r cychwyn cyntaf am ddatblygiad y Datganiad arfaethedig, ac mae’n seiliedig ar yr hyn a ddywedwyd wrthi hi sy’n bwysig iddyn nhw ac mae’n defnyddio geiriau’r bobl hŷn hynny yn y Datganiad.
Er na fyddai gan Ddatganiad o Hawliau Pobl Hŷn unrhyw effaith ag iddo rym cyfreithiol ynddo’i hun, byddai’n amlwg yn mynegi hawliau pobl hŷn yng Nghymru fel sydd eisoes yn cael eu hategu gan ddeddfwriaeth bresennol. Bydd y datganiad arfaethedig yn egluro i gyrff statudol a darparwyr gwasanaeth sy’n gweithio i bobl hŷn, ac ar eu rhan nhw, beth yw eu disgwyliadau a beth yw eu hawliau wrth gael mynediad i wasanaethau. Bydd hefyd yn ddogfen werthfawr a fydd yn helpu pobl hŷn i ddeall beth yw eu hawliau.
Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran polisïau heneiddio drwy sefydlu Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru a’r Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yn y byd. Os bydd y Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru yn cael ei fabwysiadu, bydd hyn yn enghraifft arall o Gymru ar flaen y gad.