Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Mae’n dda gennyf fedru cyhoeddi bod awdurdodau lleol wedi nodi iddynt ddarparu 4,474 yn rhagor o dai fforddiadwy ledled Cymru yn ystod 2011-12 a 2012-13. Mae’r nifer hwnnw’n 60 y cant o’r targed o ddarparu 7500 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
Mae’r ffigurau hyn yn dangos yn glir ein bod ar y trywydd iawn i gwrdd â’n targed. Un o’r elfennau sy’n hanfodol er mwyn cyrraedd y targed hwnnw yw’r Grant Cyllid Tai, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hwnnw’n becyn cyllido newydd a fydd yn cael £4 miliwn y flwyddyn oddi wrth Lywodraeth Cymru dros y 30 mlynedd nesaf i gefnogi buddsoddiad cyffredinol o ryw £130 miliwn, gan ddarparu dros 1,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Mae hwn yn arwydd clir bod ein hymrwymiad i’r maes tai yn parhau, ac yn tystio hefyd i’r cynnydd ardderchog a wnaed yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Rydyn ni’n bwriadu parhau i arloesi er mwyn darparu rhagor o dai fforddiadwy o safon uchel a fydd yn diwallu’r amryfal anghenion sydd gan bobl. Bydd hynny’n fodd i gefnogi’n hamcanion ehangach o ran trechu tlodi, atal digartrefedd a lliniaru effeithiau’r diwygiadau lles, a bydd yn sail i’r gwaith o greu swyddi a thwf yng Nghymru.
Rwyf yn arbennig o falch ein bod wedi rhagori eisoes ar ein targed o sicrhau bod 500 o gartrefi newydd fforddiadwy yn cael eu darparu. Adeiladwyd y cartrefi hynny ar dir dros ben oedd gan y sector cyhoeddus. Mae’r awdurdodau lleol wedi nodi bod cyfanswm o 857 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu yn 2011-2012 a 2012-213 ar dir a ddarparwyd gan y sector cyhoeddus. Bydd y Tasglu Cyflenwad Tai a sefydlwyd gennyf yn cyflwyno’i adroddiad erbyn diwedd y flwyddyn, a bydd yn gwneud argymhellion ynghylch sut y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, a hefyd ynghylch beth mwy y gellir ei wneud i wella’r cyflenwad tai ym mhob cwr o Gymru.