Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod Tachwedd 2012 cymerodd 3305 o ddysgwyr o 137 o ysgolion yng Nghymru ran yn asesiadau PISA, y Rhaglen Rhyngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr.

Arolwg o gyrhaeddiad addysgol yw PISA a drefnir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae’n asesu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr pymtheg oed ar sail eu cymhwysedd i fynd i'r afael â heriau bywyd go iawn yn cynnwys darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.  Mae’r nod yma yn gwahaniaethu PISA o asesiadau disgybl eraill sy’n mesur meistrolaeth o bynciau’r cwricwlwm.  

Mae asesiadau PISA yn cymryd lle bob tair blynedd.  Cymerodd Gymru ran am y tro cyntaf ym 2006.

Yn ychwanegol i’r asesiad, mae dysgwyr yn cwblhau holiaduron sy’n gofyn cwestiynau yn ymwneud â meysydd fel cefndir cymdeithasol ac arferion astudio.  Mae penaethiaid yr ysgolion cyfranogol hefyd yn cwblhau holiaduron ynglŷn â materion fel maint yr ysgol, adnoddau a threfniadaeth.    

Cyhoeddir yr adroddiad cenedlaethol sy’n amlinellu deilliannau PISA i Gymru ar wefan rheolwr rhaglen genedlaethol PISA yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sef  Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER): www.nfer.ac.uk/publications/PQUK02.

Mae’r adroddiad rhyngwladol sy’n dadansoddi perfformiad PISA ar draws y 65 gwlad sy’n cymryd rhan, gan gynnwys y DU, ar gael ar www.oecd.org/pisa/keyfindings/pisa-2012-results.htm.  Mae’r mwyafrif o’r cyfeirnodau a wneir yn yr adroddiad rhyngwladol ar sail y DU.

Mae pob arolwg PISA yn profi darllen, mathemateg a llythrennedd gwyddonol, ond mae’n canolbwyntio ar un maes allweddol bob cylchred.  Mathemateg oedd y prif faes yn PISA 2012 gyda darllen a gwyddoniaeth yn feysydd atodol.

Mae’r tablau isod yn crynhoi canlyniadau PISA 2012 Cymru a’u cymharu â’n canlyniadau yn 2009 a 2006.


Mathemateg

Sgôr gymedrig 

2006: 484

2009: 472

2012: 468

Newid o 09: -4

Darllen

Sgôr gymedrig

2006: 481

2009: 476

2012: 480

Newid o 09: 4

Gwyddoniaeth
           
Sgôr gymedrig

2006: 505

2009: 496

2012: 491

Newis o 09: -5

Nid oedd ein canlyniadau PISA blaenorol yn ddigon da.  Mae canlyniadau 2012 yn cadarnhau fy marn i, a barn fy rhagflaenydd, bod safonau yng Nghymru ddim digon uchel ac mae’n rhaid gwella.

Ym mhob maes, roedd sgôr cymedrig Cymru yn arwyddocaol is na chyfartaledd OECD a’n cymheiriaid yn y DU.  I’w gymharu â 2009 dirywiodd ein perfformiad mewn mathemateg a gwyddoniaeth.  Mae’r dirywiad mewn gwyddoniaeth ers 2009 yn golygu bod ein sgôr erbyn hyn islaw chymedr yr OECD.  Mae ein perfformiad mewn darllen wedi gwella ers 2009 ac yn gyfartal â’r lefel a gyrhaeddwyd ym 2006.

Oddi fewn i’r prif faes mathemateg, aseswyd pedwar maes cynnwys mathemategol gan PISA: maint; ansicrwydd a data; newid a pherthnasau; a gofod a siâp. Fe aseswyd hefyd tri phroses mathemategol: ffurfio sefyllfaoedd yn fathemategol; defnyddio cysyniadau mathemategol a dehongli, gweithredu a gwerthuso canlyniadau mathemategol.  Mae oddeutu cyfrannau cyfartal o eitemau o bob un o’r pedwar maes cynnwys yn gynwysedig yn yr asesiad mathemateg.  Mae hyn yn caniatáu i ni ymgymryd â dadansoddiad manylach o berfformiad disgyblion yng Nghymru ac i edrych ar y meysydd cynnwys a phrosesau ble mae disgyblion yn gymharol gryf neu’n gymharol wan.  Roedd amrywiad sylweddol yn ein perfformiad ar draws y pedwar maes cynnwys.  I’w gymharu â’r cyfanswm sgôr ar gyfer mathemateg, perfformiodd disgyblion yn arwyddocaol gwell yn y maes ansicrwydd a data, er hynny roedd disgyblion yn wannach ar gofod a siâp.  Yn y tri maes proses mae disgyblion yn gymharol gryf ar ddehongli, gweithredu a gwerthuso, ond yn llai cryf ar y cwestiynau hynny oedd yn gofyn iddynt ffurfio sefyllfaoedd yn fathemategol er mwyn datrys problem.  Mae angen i ni fynd i’r afael â’r agweddau hyn ble caed perfformiodd gwan gan ein dysgwyr.      

Mae canlyniadau’r holiadur i ddysgwyr yn dangos bod dysgwyr yn meddwl eu bod yn gwneud yn dda yn gyffredinol, o bosib mae hyn yn awgrymu nad yw ein disgyblion yn derbyn digon o ymestyn neu her.  Mae’n rhaid i ddysgwyr dderbyn cefnogaeth a chael eu herio i wireddu eu potensial.  Mae’n rhaid i ddysgwyr dderbyn adborth manwl cywir yn ymwneud â’u perfformiad a beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn symud ymlaen.

Nid yw’r canlyniadau’n peri syndod.  Mae Llywodraeth Cymru yn swyddogol wedi dweud y byddai’n afrealistig i ddisgwyl gwelliannau sylweddol yng nghanlyniadau PISA 2012.  Mae newid systemig yn cymryd amser os disgwylir dylanwad parhaol.  Mae profiad yn dangos bod rhoi rhywbeth yn ei le ar frys, anaml iawn yn gynaliadwy.    

Mae gwendidau systematig yn y system addysg ac mewn ymateb rydym yn ddidrugaredd wrth i ni fwrw iddi  i godi safonau ac i gyflawni newid positif ym mherfformiad y sector ysgolion.    

Mae’r polisïau rydym wedi eu datblygu yn rhai hirdymor; maent wedi’u cynllunio i ennyn gwelliant parhaus hirdymor ac i ddiwygio addysg.  Rydym yn awyddus i ragori ym mhob agwedd o’r system addysg, ac i weithio ag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia i gyflawni perfformiad uchel.  Ni fydd hyn yn digwydd dros nos.        

Nid ydym yn bychanu difrifwch y canlyniadau hyn.  Rydym yn gweithio’n ddi-dor i godi safonau.  Rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i ddarparu system addysg effeithiol o’r safon uchaf a fydd yn rhoi i ddysgwyr y sgiliau, hyder a’r wybodaeth i fynd i'r afael â’r heriau bywyd go iawn hynny, ni waeth beth i’w cefndir.  Mi arhoswn yn gadarn, dilyn y cwrs sydd wedi’i osod a chadw i’n rhaglen diwygio.