Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Rwy’n falch iawn o groesawu cyhoeddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y caiff Uwchgynhadledd NATO ei chynnal yn y Celtic Manor ger Casnewydd. Mae’r cyfleusterau yn y Celtic Manor o’r radd flaenaf - profwyd hynny wrth iddo gynnal Cwpan Ryder yn 2010.
Bydd penaethiaid dwsinau o lywodraethau’n bresennol yn Uwchgynhadledd NATO. Ymhlith y rhain, yn amlwg, bydd Penaethiaid Aelod-wladwriaethau NATO yn Ewrop. Yn ogystal, rwy’n cael ar ddeall y bydd cynrychiolwyr o lawer o wledydd y tu hwnt i aelodaeth NATO yn bresennol.
Dyma gyfle gwych i gyflwyno Cymru i’r byd. Rwyf wedi cytuno â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn ein cyfarfod heddiw, y byddwn yn cydweithio’n agos wrth baratoi i groesawu’r Uwchgynhadledd er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle gwych hwn i hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol.