Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol eisoes, yn sgil cyhoeddi adroddiadau arolygu beirniadol gan Estyn ar y ddau awdurdod ym mis Chwefror 2013, fy mod yn bwriadu ymyrryd yn Sir Fynwy a Merthyr Tudful. Rwy'n gwneud y datganiad hwn i hysbysu'r Aelodau o'r camau yr wyf yn eu cymryd yng nghyswllt y naill awdurdod a'r llall.
Cyn imi wneud hynny, hoffwn atgoffa'r Aelodau o'r materion perthnasol.
I ystyried y sefyllfa yn Sir Fynwy yn gyntaf, canfuwyd bod gwasanaethau addysg yr awdurdod yn anfoddhaol gan fod perfformiad ysgolion o'i gymharu ag ysgolion tebyg, ar sail hawl disgyblion i brydau ysgol am ddim, wedi bod yn llawer is na'r cyfartaledd. Mae'r cynnydd a wneir rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd hefyd yn llawer is na'r cyfartaledd. Mae cyfanswm nifer y diwrnodau sy'n cael eu colli o ganlyniad i waharddiadau tymor penodol yn rhy uchel. Darganfu'r tîm arolygu nad yw trefniadau'r awdurdod ar gyfer herio a chefnogi ysgolion yn ddigon cadarn ac nad ydynt wedi cael digon o effaith. Mae eu gwaith cynllunio strategol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn wan. At hynny, mae'n achos cryn bryder hefyd nad yw trefniadau diogelu’r awdurdod yn bodloni'r gofynion.
Dywedodd Estyn hefyd fod y rhagolygon ar gyfer gwella yn anfoddhaol yn Sir Fynwy. Y rheswm am hynny yw'r diffyg gallu strategol a gweithredol yn y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi cyfrannu at fethiant yr awdurdod i wella mewn meysydd allweddol. Canfu'r tîm arolygu hefyd nad oedd aelodau etholedig yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddwyn swyddogion i gyfrif yn llawn. Yn ôl y tîm arolygu hefyd, nid oedd y prosesau hunanwerthuso yn ddigon trylwyr. At hynny, daeth yr arolygiad i'r casgliad nad oedd swyddogion yn defnyddio prosesau sicrhau ansawdd na gwerthuso data mewn modd digon cyson i wybod lle y dylid cyfeirio adnoddau a gwasanaethau i gyflawni'r deilliannau gorau i'r dysgwyr. Nid yw prosesau rheoli perfformiad yn cael eu gweithredu mewn modd cyson ar draws y gyfarwyddiaeth ac nid yw arweinwyr a rheolwyr bob amser yn gallu cyfarwyddo eu staff na'u dwyn i gyfrif yn ddigon effeithiol.
Er gwaethaf y feirniadaeth uchod, enwodd Estyn rai agweddau ar wasanaeth addysg Sir Fynwy a oedd yn gadarnhaol. Yn ogystal â hynny, nodwyd hefyd gan Estyn bod yr awdurdod wedi sefydlu uwch-dîm rheoli newydd ac wedi penodi cyfarwyddwr addysg newydd.
Dywedais wrthych ym mis Chwefror fy mod yn ystyried sefydlu bwrdd adfer annibynnol, fel ymateb i ddiffygion yr awdurdod. Awgrymai’r dystiolaeth yn gryf fod angen bwrdd adfer annibynnol i oruchwylio'r gwelliannau sydd eu hangen, i fonitro'r cynnydd a wneir ac i gynnig atebolrwydd. Rwyf wedi penderfynu erbyn hyn mai dyma'r cam priodol i'w gymryd.
Rwyf wedi rhoi Cyfarwyddyd i Gyngor Sir Fynwy i sicrhau ei gydweithrediad â'r Bwrdd a darparu pwerau wrth gefn i'r Bwrdd gyhoeddi'r fath gyfarwyddiadau ag yr ystyria sy'n rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn llwyr gyfrifol o hyd am sicrhau bod ei swyddogaethau addysg yn cael eu cyflawni i safon ddigonol o leiaf. Os bydd yn ofynnol i'r Bwrdd gyhoeddi unrhyw gyfarwyddiadau, byddaf yn ystyried hynny yn fethiant difrifol ar ran yr Awdurdod.
Dyma aelodau'r Bwrdd hwnnw:
- Mark James – Prif Weithredwr Sir Gaerfyrddin
- Janet Jones – Prif Swyddog, Pobl Ifanc a Chymunedau, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
- Rod Alcott – a arferai weithio i Swyddfa Archwilio Cymru
- Jonathan Morgan - cyn-Aelod Cynulliad
Cynhelir cyfarfod cyntaf y Bwrdd ar 27 Mehefin 2013 ac o'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd yn darparu adroddiadau imi o'r cynnydd a wneir. Wrth i'r Bwrdd Adfer gael ei sefydlu, rwyf wedi cyfarwyddo uwch-swyddog o fy Adran i fod yn Gadeirydd y Bwrdd. Trefniant dros dro yn unig fydd hwn. Ymhen amser, rwy'n bwriadu penodi Cadeirydd o blith aelodau'r Bwrdd.
Edrychwn yn awr ar y sefyllfa ym Merthyr Tudful, lle canfu Estyn bod perfformiad yr awdurdod yn anfoddhaol. Ym mhob cyfnod allweddol, mae'r safonau ar gyfer y dysgwyr yn anfoddhaol, mae cyfraddau'r gwaharddiadau yn rhy uchel ac mae gormod o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. At hynny, mae cyfraddau presenoldeb yn yr ysgolion cynradd hefyd yn annerbyniol o isel. Mae'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gwella ysgolion a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a lles yn anfoddhaol; ac nid yw effaith gwasanaethau ieuenctid yn cael ei werthuso i sicrhau bod y ddarpariaeth yn mynd i'r afael â'r angen. Yn gyffredinol, mae methiant arweinwyr i roi systemau ar waith i ddod o hyd i gryfderau a gwendidau ysgolion wedi arwain at ddiffyg her ac nid yw’r gwelliant mewn safonau wedi bod yn ddigonol.
Daeth Estyn i’r casgliad bod y rhagolygon ar gyfer gwella ym Merthyr yn anfoddhaol. Nid yw uwch-swyddogion ac aelodau etholedig y cyngor wedi herio’r ffaith bod dysgwyr yn tanberfformio a’u deilliannau yn isel. Nid yw’r aelodau wedi cael adroddiadau gan y swyddogion sy'n dadansoddi data ar berfformiad yn ddigon da i nodi cynnydd a wneir a meysydd allweddol i'w gwella. Darganfu'r tîm arolygu nad oes gan yr awdurdod lleol broses hunanwerthuso gadarn a pharhaus ar gyfer ei wasanaethau addysg. Nid yw wedi ymateb yn ddigon da i'r argymhellion a gafwyd yn sgil adolygiadau a gynhaliwyd yn y gorffennol, gan gynnwys y rheini sy'n mynd yn ôl mor bell â 2004. Daeth y tîm arolygu i'r casgliad nad oes gan yr awdurdod systemau effeithiol ar waith i farnu a ydy mentrau a gwasanaethau yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc nac ychwaith i weld a ydynt yn cynnig gwerth am arian.
Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Chwefror, mae yna wendidau systemig ym Merthyr Tudful, felly nid wyf yn gallu bod yn gwbl hyderus y bydd Merthyr yn datrys y problemau hyn ei hun, hyd yn oed gyda chefnogaeth. Rwyf wedi ystyried sut y byddai orau i fynd i'r afael â'r mater ac wedi penderfynu y dylai’r cyfrifoldeb am addysg ym Merthyr fod yn nwylo bwrdd adfer a fydd yn gyfrifol am oruchwylio addysg ym Merthyr. Ei dasg gyntaf fydd penderfynu ar y ffordd orau o sicrhau bod y swyddogaethau hynny’n cael eu cyflawni a chan bwy.
Dyma aelodau'r Bwrdd Adfer hwnnw:
- Dr Mohammed Mehmet – Prif Weithredwr Sir Ddinbych
- Gareth Williams - cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yn Swydd Gaerlŷr
- Dr Tom Entwistle – arbenigwr mewn Polisi Cyhoeddus a Rheolaeth o Brifysgol Caerdydd
- Y Cynghorydd Paul Hannon – aelod etholedig ar Gyngor Sir Casnewydd
Fel trefniant dros dro, wrth i'r Bwrdd Adfer gael ei sefydlu, rwyf wedi gofyn i Karl Napieralla, sydd ar secondiad yn fy Adran i o Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fod yn Gadeirydd y Bwrdd.
Cafodd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Adfer hwn ei gynnal ar 11 Mehefin. Rwy'n deall fod y cyfarfod hwnnw yn un heriol a chynhyrchiol a bod yr awdurdod wedi ymateb yn gadarnhaol i'r gefnogaeth a'r her a ddarparwyd gan y bwrdd.
Byddaf yn parhau i adolygu strwythur ac aelodaeth y byrddau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Os bydd angen cynyddu nifer aelodau’r byrddau yn y dyfodol, byddaf yn cymryd camau i ychwanegu aelodau i'r ddau dasglu arbenigol bach hyn cyn gynted ag sy'n bosibl. Os digwydd hynny byddaf, wrth reswm, yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad i roi'r manylion diweddaraf i’r Aelodau.