Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Fis Medi diwethaf, rhoddais wybod i’r Cynulliad sut yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn yn dod yn ei flaen o dan stiwardiaeth fy Nghomisiynwyr, a’m cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Ym mis Hydref, fel rhan o hyn, rhoddais gyfarwyddyd llai caeth i’r Cyngor. Cymerodd fy Nghomisiynwyr gam yn ôl o waith y Cyngor, ac ailgydiodd y Cynghorwyr yn yr awenau o ddydd i ddydd.
Ers hynny mae’r Cyngor wedi parhau i symud yn ei flaen fel un. Mae gwleidyddiaeth y Cyngor yn dal i fod yn sefydlog ac yn aeddfed. Mae’r Cynghorwyr yn dal i ymwneud yn effeithiol â’m Comisiynwyr a swyddogion y Cyngor. Mae’r Cynghorwyr wedi profi eu bod yn ddigon abl i reoli’r gwaith o ddydd i ddydd.
Rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yw hen ddiwylliant niweidiol Ynys Môn. Mae’r wleidyddiaeth gythryblus a arferai achosi problemau mor ddifrifol wedi diflannu. Rwy’n fwyfwy hyderus fod hwn yn newid parhaol cynaliadwy. Mae fy Nghomisiynwyr yr un mor hyderus â minnau, ac yn credu y gall y Cyngor ddatblygu i fod yn un o’r goreuon. Mae’n amlwg i bob un ohonom mai atgof yn unig yw’r hen Ynys Môn.
Penododd y Cyngor ei uwch dîm rheoli newydd dros yr haf. Mae’n ganolog i’r gwaith o ddarparu sefydlogrwydd, medrusrwydd ac arbenigedd i’r Cyngor. Mae’r tîm wedi datblygu ‘cynllun trawsnewid’ cynhwysfawr. Mae’r cynllun hwnnw’n nodi’r blaenoriaethau a’r camau y mae angen eu cymryd er mwyn ailddatblygu’r Cyngor yn llwyr erbyn 2016. Rwy’n falch o nodi bod Cynghorwyr o bob plaid wedi rhoi croeso brwd i’r cynllun, a bod yr awdurdod eisoes yn mynd ati i’w gyflawni. Dyma arwydd pellach fod y Cyngor yn mynd ati o ddifrif i sicrhau ei adferiad yn y tymor hir.
Mae’r Cyngor hefyd yn rhoi rhai prosiectau cydweithredol pwysig ar waith. Er enghraifft, mae lleoliad y Cyngor yn golygu ei fod mewn safle delfrydol i gydgysylltu’r gwaith o ymladd yn erbyn masnachu pobl, ac rwyf wedi’i annog i wneud hynny. Deallaf oddi wrth fy Nghydgysylltydd Atal Masnachu Pobl fod y Cyngor yn cydweithio’n dda ag awdurdodau eraill y Gogledd, yr Heddlu a’r Swyddfa Gartref, i drechu’r bygythiad yma. Rwy’n siŵr na fyddai’r Cyngor oedd yn bodoli bedair blynedd yn ôl wedi gweithredu mewn ffordd mor aeddfed. Byddaf yn cadw golwg frwd ar y datblygiadau yn y maes hwn.
Mae’r Cyngor hefyd wedi dangos ei fod yn gallu darparu gwasanaethau da ac yn wir, cafodd gydnabyddiaeth ehangach am hynny. Fis diwethaf, llongyfarchodd Huw Lewis Ynys Môn am fod yr awdurdod lleol cyntaf yn y Gogledd, a dim ond yr ail drwy Gymru gyfan, i ennill Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae hyn yn dipyn o gamp i gyngor o faint Ynys Môn. Llwyddodd y Cyngor i sicrhau ei grant Cytundeb Canlyniadau llawn am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, gan brofi ei fod yn gallu darparu canlyniadau cadarnhaol go iawn i’w drigolion. Mae’r Cyngor hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prosiect Rheoli Newid y Flwyddyn y Management Consulting Association, am ei raglen i adfer o fethiant corfforaethol difrifol. Mae hyn i gyd yn dangos cymaint y mae’r Cyngor wedi gwella ers imi benodi fy Nghomisiynwyr i’w redeg ym mis Mawrth 2011. Mae’n tanlinellu i ba raddau y mae’r Cyngor wedi llwyddo i weddnewid pethau. Mae’n amlwg fod y Cyngor yn rhedeg yn effeithiol ac yn gynaliadwy erbyn hyn. Mae’r Cynghorwyr a’r swyddogion yn cydweithio’n dda ac yn rhannu’r un nod: sicrhau adferiad hirdymor a gwell dyfodol i’r ynys.
Fodd bynnag, mae yna nifer o heriau sylweddol sy'n parhau, ac mae'r Cyngor yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i reoli'r gwasanaethau addysg, yn dilyn arolwg Estyn y llynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Bwrdd Adfer i gynorthwyo'r Cyngor i fynd i'r afael ag ystod o diffygion yn ei wasanaeth addysg.
Yn ogystal, mae dewisiadau anodd yn wynebu’r Cyngor cyn bo hir, wrth iddo bennu ei gyllideb a’r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond yr un sefyllfa sy’n wynebu awdurdodau lleol ym mhobman. Y Cyngor sydd yn gosod treth cyngor nid fy Nghomisiynwyr. Rwy’n falch o glywed bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â’r gwaith o gynllunio’r gyllideb, bod yr aelodau yn wynebu’r heriau yn aeddfed ac yn agored, a bod y swyddogion yn rhoi cyngor eglur, cryno a chadarn. Ni fyddai hynny wedi digwydd ddwy flynedd yn ôl.
Mae’r Cyngor wedi dod yn bell iawn yn ystod y misoedd diwethaf ac mae hynny’n glod i bawb fu’n ymwneud â’r gwaith – y Cynghorwyr, y swyddogion a’m Comisiynwyr innau. Mae’r ffordd y mae pethau wedi datblygu yn ystod y misoedd diwethaf yn gwneud imi gredu bod y Cyngor bellach yn abl ac yn barod i reoli ei faterion ei hun a gwasanaethu pobl yr ardal yn dda. Mae unrhyw un sy’n parhau i fychanu’r Cyngor a’i siawns o adfer yn dangos anwybodaeth o’r ffeithiau, ac yn tanseilio’r holl waith caled a’r holl ymroddiad i wella pethau – gwaith sy’n wirioneddol ddechrau dwyn ffrwyth.
Os bydd hyn yn parhau, yna bydd yn bleser gennyf ddod â’m hymyriad i ben yn llwyr ddiwedd mis Mai. Ond cyn y gallaf wneud hynny, bydd angen imi gael fy argyhoeddi nad oes troi’n ôl i fod. Ar ôl yr etholiadau, bydd angen i’r Cyngor barhau i ddangos ei fod yn gallu sicrhau adferiad hirdymor, gwelliant parhaus, a gweinyddiaeth sefydlog ac effeithiol.
Mae hynny’n golygu bod y cyfnod hwn o’r ymyriad yn arbennig o bwysig. Rhaid imi seilio fy mhenderfyniad ar y dystiolaeth fwyaf eglur fod y Cyngor wedi goresgyn ei broblemau a’i fod yn gallu dal ei dir. Bydd fy Nghomisiynwyr, fy swyddogion a minnau’n cadw golwg fanwl ar hynt y gwaith yn ystod y misoedd i ddod.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Cynulliad maes o law.