Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Rwyf heddiw'n cyflwyno Bil Sector Amaethyddol (Cymru).
Pwrpas y Bil yw:
- Cynnal y system bresennol o reoliadau statudol ar gyfer cyflogi gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Daw'r drefn fel arall i ben yn sgil dileu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr ar 25 Mehefin 2013 a diddymu Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 ar 1 Hydref 2013.
- Cadw darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 yng Nghymru ar ôl Hydref 2013 a darparu ar gyfer gorfodi'r darpariaethau hyn.
- Rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu Panel Cynghori Amaethyddol i Gymru.
- Galluogi sefydlu Panel Cynghori Amaethyddol i Gymru i gynnal swyddogaethau sy’n ymwneud â gweithrediad y sector amaethyddol, gan gynnwys hybu gyrfaoedd a chynghori Gweinidogion Cymru ar faterion eraill allai effeithio ar y diwydiant amaeth.
- Helpu i sefydlu sector cryf a chynaliadwy yng Nghymru sydd â gweithlu sydd wedi’i hyfforddi’n dda.
- Hybu proffesiynoldeb a gwella sgiliau yn y sector amaethyddol.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw grynodeb o'r ymatebion a hefyd bob un o'r ymatebion yn llawn, i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddyfodol y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (AWB) a ddaeth i ben ar 26 Mehefin, ar wefan Llywodraeth Cymru.