Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth a Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Roedd y cyhoeddiad diweddar ar Gyllideb Ddrafft 2014-15 Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynigion i sefydlu Cronfa Gofal Canolraddol. Mae’r Gronfa’n cynnwys cyllid refeniw o £35 miliwn a fydd yn dod o fewn y gyllideb Llywodraeth Leol, a chyllid cyfalaf o £15 miliwn o fydd o fewn y gyllideb Tai ac Adfywio.
Mae’r Gronfa hon yn gyfle gwirioneddol i adeiladu ar weithio’n effeithiol ar draws iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thai i wella cynllunio a darparu gwasanaethau mwy integredig. Mae’n rhaid iddi greu newid sylweddol i’r ffordd y mae gwasanaethau’n gweithio ar y cyd ar lefel strategol a gweithredol.
Bydd y Gronfa’n cael ei defnyddio i annog cydweithredu rhwng gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a thai, ac i gefnogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth ac i gael aros yn eu cartrefi eu hunain.
Fe’i defnyddir i osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty, neu dderbyniadau amhriodol i ofal preswyl, yn ogystal ag atal unrhyw oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty.
Bydd hyn yn golygu mwy o gydlynu gofal ar draws gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd i helpu pobl i allu parhau i fyw’n ddiogel yn eu cartref neu o fewn y gymuned. Bydd hefyd yn cynnwys dod o hyd i’r bobl hynny sydd fwyaf mewn perygl o gael rhyddhad gohiriedig o’r ysbyty, a rheoli eu hanghenion gofal a chymorth yn rhagweithiol i wneud yn siŵr y gallant ddychwelyd i’w cartrefi. I’r bobl hyn, gallai hefyd olygu sicrhau’r ddarpariaeth o gymhorthion ac addasiadau i’w cartrefi, er mwyn eu cefnogi i gynnal eu hannibyniaeth.
I’r bobl hynny na allant ddychwelyd i’w cartrefi ar unwaith, gellid defnyddio’r cyllid i ddarparu gwelyau ar gyfer gofal llai dwys neu welyau ymadfer. Byddai’r gwelyau hyn yn rhan o gynllun i ail-alluogi cleifion ac yn canolbwyntio ar gefnogi pobl hŷn i ailgydio yn eu hannibyniaeth a’u cael i ddychwelyd i’w cartrefi, yn hytrach na mynd i ofal preswyl hirdymor.
Bydd Awdurdodau Lleol yn arwain ar ddatblygu cynigion, gan weithio mewn partneriaeth â’r sectorau iechyd a thai, y Trydydd Sector a’r sector annibynnol. Disgwylir y bydd ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys y Trydydd Sector, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac asiantaethau Gofal a Thrwsio yn gysylltiedig â’r ddarpariaeth.
Caiff cynigion eu cyflwyno ar sail model cydweithredol rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod newid yn cael ei ysgogi ar lefel strategol ac er mwyn gwella lefel cysondeb ac unffurfiaeth y canlyniadau. Rydym yn cydnabod bod anghenion yn amrywio o fewn rhanbarthau, felly mater i’r awdurdodau lleol, ynghyd â’u partneriaid, yw penderfynu ar y model cyflenwi mwyaf priodol iddynt hwy ac sy’n diwallu orau’r anghenion penodol yn eu hardal. Bydd hyn hefyd yn eu galluogi nhw i adeiladu ar fodelau ac arferion da sydd eisoes yn bodoli.
Caiff meini prawf eu datblygu ac wrth ystyried y rhain bydd Awdurdodau Lleol a phartneriaid yn gallu llunio cynigion a’u hasesu. Bydd asesiad sylfaenol yn cael ei gomisiynu, gyda monitro a gwerthuso’n cael eu cynnwys yn y broses er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn mesur yn effeithiol y gwahaniaeth y mae’r cyllid hwn yn ei wneud.
Bydd ffrydiau ariannu refeniw a chyfalaf yn cael eu rheoli fel un gronfa gydgysylltiedig, er mwyn gwneud y gorau o’r cymorth i bobl sydd angen gofal canolraddol, drwy becyn o fesurau cydlynol. Er y bydd cynigion yn cael eu cyflwyno ar lefel model cydweithredol rhanbarthol, pennir dyraniadau dangosol ar gyfer pob ardal Awdurdod Lleol.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i Aelodau yn ystod y mis nesaf, gyda mwy o fanylion am y dyraniad cyllid a’r meini prawf a ddefnyddir i gymeradwyo’r cynigion.