Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb ddrafft 2014-15 yr wythnos ddiwethaf, ac amlinellodd ei chynlluniau dangosol ar gyfer 2015-16. Mae’r cynigion yn cynnwys pecyn cyllid ychwanegol o £570 miliwn dros dair blynedd ar gyfer GIG Cymru. Mae’r swm hwnnw’n cynnwys £150 miliwn er mwyn ymateb i alwadau a phwysau newydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Er hynny, mae her sylweddol a di-baid yn wynebu’r gwasanaeth o hyd.
Mae hyn yn newyddion da i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Sicrhau ein bod yn gwneud i bob ceiniog gyfrif fydd fy ngwaith i, er mwyn cynnal a gwella gwasanaethau’r GIG ac ymateb i’r heriau cyson sy’n ein hwynebu nawr ac yn y dyfodol, wrth i’r galw gynyddu a’r pwysau ar wariant cyhoeddus barhau.
Er bod y cyllid ychwanegol yn y gyllideb i’w groesawu, rhaid imi bwysleisio nad yw’n golygu nad oes angen i’r GIG gyflawni newidiadau sylweddol pellach. Ni fydd yn lliniaru’r holl bwysau sy’n wynebu’r gwasanaeth ar hyn o bryd ychwaith. Dal i gynyddu fydd y pwysau o ran ymateb i’r galw ac arbed arian, fel yn achos gwasanaethau cyhoeddus eraill Cymru. Mae penderfyniadau anodd yn wynebu’r Byrddau Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru yn ystod gweddill 2013-14, er mwyn cynnal gwasanaethau.
Ym mis Gorffennaf cyhoeddwyd y byddem yn adolygu cyllideb y GIG yn dilyn cyhoeddi adroddiad Francis, er mwyn sicrhau bod unrhyw adnoddau ychwanegol yn cydnabod y prif bwysau ar GIG Cymru o ran darparu gofal diogel a thosturiol, ac yn targedu’r gofynion hynny.
Fel rhan o’r adolygiad, gofynnwyd i’r Byrddau Iechyd Lleol gyflwyno cynlluniau ar agweddau fel y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys, amseroedd aros am ambiwlans a mynediad at driniaeth. Edrychwyd ar ein lefelau nyrsio ar wardiau hefyd, a chyngor y Pwyllgorau Meddygol Cyffredinol ar raglenni imiwneiddio a chyffuriau newydd.
Mae’n amlwg fod pwysau gwirioneddol yn wynebu’r GIG wrth i’r galw gynyddu o un flwyddyn i’r llall. Mae’r ffaith fod ein poblogaeth hŷn yn cynyddu’n gyflymach nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yn parhau i’n herio, yn enwedig gan fod mwy nag erioed o bobl dros 85 oed yn cael eu derbyn i adrannau achosion brys.
Fel rwyf eisoes wedi dweud yn ystod cyfnodau o alw mawr, mae pobl yn troi’n naturiol at y system iechyd am dawelwch meddwl, er ei bod eisoes dan bwysau ac er nad yr ysbyty yw’r lle gorau iddynt, o reidrwydd. Gall y pwysau ar ofal heb ei drefnu effeithio ar y system gyfan wrth i gleifion sy’n cyrraedd yr ysbyty orfod aros yn hwy i gael eu derbyn neu eu gweld, ac wrth i lawdriniaethau gael eu gohirio ac ambiwlansys gael eu rhwystro rhag ymateb i alwadau eraill.
Nid GIG Cymru yw’r unig wasanaeth sy’n wynebu’r pwysau hyn, gan eu bod hefyd yn nodweddu rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop gyfan. Ond dylem ymfalchïo’n fawr fod GIG Cymru a’i staff wedi llwyddo i ddelio’n wych â’r pwysau hyd yn hyn, a chyflawni agenda wella sylweddol ar yr un pryd. Rydym yn dal i wneud yn dda iawn o’i gymharu â pherfformiad mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, er ein bod yn wynebu pwysau uwch nag erioed.
Mae’r £150 miliwn yn ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer 2013/14 yn cael ei ddyrannu i helpu i ymateb i’r pwysau cydnabyddedig ar y gwasanaeth yn sgil Adolygiad Francis, ac i roi arferion gorau ar waith, fel y cyngor cenedlaethol ar imiwneiddio, er enghraifft. Mae angen swm sylweddol o gyllid ychwanegol ac mae hyn wedi arwain at benderfyniadau anodd yn sgil setliad cyllideb anodd dros ben. Mae’r rhaglen imiwneiddio yn unig yn costio £7 miliwn yn 2013/14, sy’n dangos cymaint yw’r pwysau o ran y gost o ddilyn yr arferion gorau a’r datblygiadau sy’n cael eu hargymell o ran gofalu am gleifion.
Bydd yr arian ychwanegol yn cefnogi cynlluniau’r Byrddau Iechyd Lleol i ymateb i’r heriau hyn, ac yn eu helpu i gynnal eu perfformiad yn ystod y misoedd i ddod, yn enwedig wrth i bwysau’r gaeaf ddechrau gwasgu. Mae’r tabl isod yn dangos sut rydym yn dyrannu’r £150 miliwn yn ychwanegol rhwng ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol:
Gwelir y tabl isod.
Roedd y gyllideb yn cydnabod pwysigrwydd moderneiddio gwasanaethau a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cydweithio’n well er mwyn ymateb i’r heriau sylweddol sydd o’n blaenau, drwy greu Cronfa Gofal Canolraddol newydd gwerth £50 miliwn ar gyfer 2014-15. Bydd hyn yn helpu’r gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau tai a’r gwasanaethau cymdeithasol i gydweithio’n well. Rhaid i’r gwasanaethau cyhoeddus fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd fel hyn i gydweithio yn y dyfodol, er mwyn inni wella ein gwasanaethau.
Roedd y gyllideb hefyd yn cynnwys £58 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer y GIG: £43 miliwn yn 2014/15 a £15 miliwn yn 2015/16. Mae hyn yn cynnwys £38 miliwn ar gyfer y blaenoriaethau iechyd a nodwyd yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, a £20 miliwn yn 2014/15 ar gyfer y Gronfa Technoleg Iechyd a Thelefeddygaeth, o ganlyniad i gytundeb y gyllideb. Defnyddir yr arian cyfalaf ychwanegol hwn i wella gwasanaethau clinigol ar safle Treforys; i barhau i ddatblygu ac ailwampio gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd; i ddarparu gwell cyfleusterau yn yr uned iechyd meddwl yn Llandochau; i barhau i ddatblygu gwasanaethau’r Ysbyty Plant yng Nghaerdydd; ac i fuddsoddi mewn triniaeth feddygol drwy dechnoleg iechyd newydd a thelefeddygaeth – rhywbeth y mae galw mawr amdano. Byddwn hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o fabwysiadu dulliau ariannu blaengar er mwyn datblygu canolfan ganser newydd yn Felindre yn ystod 2014-15.
Mae angen inni barhau i weithio ar draws y sector cyhoeddus er mwyn ymateb i’r heriau enfawr sydd o’n blaenau, a gweithio gyda staff y GIG a’r cyhoedd i drawsnewid y ffordd rydym yn cyflwyno ein gwasanaethau. Mae angen i bob un ohonom ymroi i gyflawni’r newidiadau hyn, gan ei bod yn hollbwysig ein bod yn cyflawni’r agenda hon er mwyn sicrhau bod y GIG yn y cyflwr gorau posibl i ddarparu gofal o’r safon y bydd cleifion yn ei disgwyl yn y dyfodol.