Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 19 Tachwedd, bûm yn cadeirio seminar i ystyried dyfodol cyfrifiadureg a TGCh mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd cynrychiolwyr nifer o randdeiliaid allweddol yn bresennol yn y seminar, ac yn eu plith roedd ysgolion, y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol, y sector Addysg Bellach, y sector Addysg Uwch, sefydliadau dyfarnu, y diwydiant a'r cyfryngau.
Ar ôl trafodaeth fywiog a difyr, daeth nifer o themâu allweddol i'r amlwg ac maent yn rhai yr wyf yn awyddus iddynt gael eu hystyried ymhellach. Dyma rai ohonynt:
- Mae angen i 'TGCh' mewn ysgolion gael ei hailfrandio a'i hailwampio ac mae angen sicrhau ei bod yn berthnasol i'r presennol ac i'r dyfodol;
- Man cychwyn yn unig yw llythrennedd digidol – mae angen addysgu dysgwyr i greu yn ogystal â defnyddio
- Dylid cyflwyno cyfrifiadureg yn yr ysgol gynradd a'i datblygu yn holl gyfnodau'r cwricwlwm er mwyn i ddysgwyr fedru symud ymlaen i ddilyn gyrfa yn y sector;
- Dylai sgiliau, megis datrys problemau mewn modd creadigol, fod yn rhan o'r cwricwlwm;
- Mae angen mynd ati, mewn partneriaeth ag ysgolion, y sector Addysg Uwch a'r diwydiant, i ddatblygu cymwysterau diwygiedig.
Rwyf wedi sefydlu Grŵp Llywio i fwrw ymlaen â'r gwaith o ystyried dyfodol cyfrifiadureg a TGCh mewn ysgolion. Bydd y grŵp yn ystyried canfyddiadau allweddol y seminar, yn datblygu cynigion ar gyfer rhoi'r canfyddiadau hynny ar waith, ac yn paratoi adroddiad ar y ffordd ymlaen.
Mae croestoriad o randdeiliaid allweddol yn cael eu cynrychioli ar y grŵp, ac ymhlith yr aelodau y mae'r unigolion a ganlyn:
- (Cadeirydd) Stuart Arthur – Box UK
- (Cadeirydd) Y Dr Tom Crick – Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
- (Cadeirydd) Janet Hayward – Ysgol Gynradd Tregatwg, Bro Morgannwg
- Gareth Edmondson – Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe
- Simon Pridham – Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe
- Lucy Bunce – Ysgol Gyfun y Pant, Rhondda Cynon Taf
- Maldwyn Pryse – Estyn
- Peter Sishton – e-Skills UK
- Chris Britten – Ysgol Arbennig Ashgrove
- Glyn Rogers – Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl
- Ben Lidgey – Monitise
- Charlie Godfrey – Fujitsu
- Yr Athro Khalid Al-Begain – CEMAS, Prifysgol Morgannwg
- Hannah Mathias – Coleg Dewi Sant, Caerdydd
Bydd y grŵp yn cyflwyno'i adroddiad i mi erbyn mis Gorffennaf 2013 ac yn gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Bydd yr argymhellion yn llywio'r adolygiad ehangach o asesu a'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, a gyhoeddwyd gennyf ar 1 Hydref. Bydd unrhyw newidiadau y bydd angen eu gwneud yn hyn o beth yn cael eu hystyried ar yr un pryd ag unrhyw ddiwygiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.