Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Mae’r hawl i lynu wrth gred grefyddol ac i ymarfer yr hawl hwnnw trwy gynnal seremonïau crefyddol wedi’i ddiogeli gan ddeddfwriaeth hawliau dynol. Yma yng Nghymru, mae traddodiad hirsefydlog o gadwraeth crefyddol a goddefgarwch ill dau. Mae gennym hanes balch fel gwlad lle mae pobl o nifer o ddiwylliannau a chrefyddau wedi byw ochr wrth ochr am genedlaethau, yn cyfoethogi bywyd y genedl gyfan. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i hybu perthnasau da a dealltwriaeth ym mhob cymuned ffydd, gan gynnwys y rhai heb unrhyw ffydd o gwbl.
Nid yw’r pŵer cyffredinol o gymhwysedd yn berthnasol i Gynghorau yng Nghymru. Mae canfyddiad bod hyn wedi rhoi Cynghorau yng Nghymru o dan anfantais ynglŷn â’u gallu i gynnal gweddïau fel rhan o’u busnes swyddogol. Mae rhai wedi galw am ddeddfwriaeth sy’n unioni’r mater. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn i fod yn gamarweiniol ac nad oes bwriad ganddynt i ddeddfu ar y mater hwn. Os oes cyfyngiadau ar sut y gall Cynghorau ymdrin â’r mater hwn, maent yn codi o’r gofynion cyfreithiol cyffredinol ynglŷn â chydraddoldeb a pheidio gwahaniaethu, nid o unrhyw derfyn ymddangosiadol ar bŵerau statudol Cynghorau.
Yng ngolwg Llywodraeth Cymru, mae’n fater i’r Awdurdod Lleol gysudro, ar ôl cymryd cyngor cyfreithiol cymwys, a yw’r amgylchiadau yn ei achos penodol yn ei gwneud hi’n briodol i gynnal gweddïau fel rhan o gyfarfod ffurfiol. Yn gyffredinol, does dim byd i gadw Cynghorwyr o’r un meddylfryd rhag gweddïo – neu rannu munud o fyfyrdod tawel – yn union cyn symud ymlaen i fusnes swyddogol, yn hytrach na fel rhan o fusnes ffurfiol neu mewn ffordd sydd yn effeithio ar y busnes ffurfiol.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi cyngor i ymdrin â’r amgylchiadau unigol penodol y bydd gofyn ystyried y materion hyn ynddynt. Mae’r rhan fwyaf o Gynghorau yng Nghymru eisioes wedi gwneud trefniadau ymarferol gweithredol ac rydym yn hyderus y gall pob un wneud yn awr gan roi ystyriaeth addas i hawliau eu haelodau a’u hetholwyr.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.