Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Daeth Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (‘y Mesur’) yn ei gyfanrwydd a Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013 (‘y Rheoliadau’) i rym ddydd Llun 2 Medi 2013.
Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach gan ddisgyblion ysgolion a gynhelir, annog mwy i gymryd prydau ysgol a gwarchod hunaniaeth disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol neu laeth ysgol am ddim. Mae'r Mesur hefyd yn gosod dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i gynnwys yn eu hadroddiad blynyddol wybodaeth am y camau a gymerir i hyrwyddo bwyta'n iach gan ddisgyblion yr ysgol, a dyletswydd ar y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i hysbysu Gweinidogion Cymru am y camau a gymerir gan ysgolion o'r fath. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed ar gael yn ddi-dâl ar safle'r ysgol.
Mae'r Rheoliadau, a wneir o dan y Mesur, yn gosod gofynion ar gyfer bwyd a diod a ddarperir ar safle ysgol a gynhelir neu mewn lle ar wahân i safle'r ysgol, gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, i unrhyw ddisgybl sydd wedi'i gofrestru yn yr ysgol. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diffinio cynnwys maethol cinio ysgol.
Yn fy natganiad blaenorol ar 19 Awst, ynghylch cyhoeddi'r crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Rheoliadau drafft, addewais ddarparu manylion unrhyw ddiwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau drafft. Gallaf gadarnhau, felly, fod yr ymatebion wedi cael eu hystyried yn fanwl a bod dau newid allweddol wedi'u gwneud yn ogystal â rhai mân ddiwygiadau. Roedd y newidiadau allweddol yn berthnasol i'r categorïau bwyd brecwast yn Atodlen 1 o'r Rheoliadau drafft: mae 'ffrwythau' wedi cael ei newid i 'ffrwythau a llysiau' ac mae 'bara' wedi cael ei newid i 'bara a haenau ar ben y bara'. Mae'r diwygiadau yn caniatáu i awdurdodau lleol ac ysgolion gynnig amrywiaeth ehangach o fwyd i ddisgyblion amser brecwast.
Bydd canllawiau statudol i helpu awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gydymffurfio â'u dyletswyddau newydd ar gael mewn da bryd. Yn y cyfamser, dylai awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu barhau i gyfeirio at ganllawiau Blas am Oes.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fodlon gwneud hynny.