Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Ar 27 Mehefin 2013, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar yswiriant llifogydd. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau am 6 wythnos, ac yn ceisio barn ynghylch cynigion i adolygu argaeledd a fforddiadwyedd ‘yswiriant llifogydd’, sef yr yswiriant ar gyfer adeiladau ac eiddo mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd.
https://www.gov.uk/government/consultations/insurance-in-areas-of-flood-risk (Saesneg yn unig)
Yr opsiwn a ffefrir yw cronfa yswiriant â chymhorthdal, o’r enw “Flood Re” ar gyfer tai sy’n wynebu risg uchel o lifogydd. Byddai’r gronfa hon yn cael ei hariannu drwy godi ardoll ar bob premiwm yswiriant, ac fe’i gweinyddid gan y diwydiant yswiriant. Byddai’r dull gweithredu hwn yn golygu gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant yswiriant i gael ateb a fydd yn disodli’r Datganiad Egwyddorion presennol.
Bydd fy swyddogion yn parhau i gydweithio â’u cymheiriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i lunio system a fydd yn caniatáu i bobl yswirio eu cartrefi heb orfod wynebu codiadau mawr ym mhris eu hyswiriant. Argaeledd yswiriant yn unig oedd dan sylw yn y Datganiad Egwyddorion diwethaf; byddai cytundeb newydd gyda’r diwydiant yswiriant yn anelu i fynd i’r afael â fforddiadwyedd drwy gapio premiymau yswiriant gan eu cysylltu â bandiau’r dreth gyngor fel bod pobl yn gwybod beth fydd yr uchafswm y bydd rhaid iddynt ei dalu.
Mae pobl sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd yn eu cartrefi yn mynegi pryderon yn aml ynghylch argaeledd a chost eu hyswiriant. Gall llifogydd achosi costau ariannol sylweddol, ac os nad oes yswiriant digonol gan bobl i dalu’r costau hynny gall hyn wneud effeithiau emosiynol a ffisegol y llifogydd yn waeth byth.
Rwyf i o blaid yr egwyddor cyffredinol o gymhorthdal i helpu i gadw yswiriant yn fforddiadwy a hawdd ei gael ond bydd angen inni barhau i drafod sut mae rhoi hyn ar waith, ac am ba hyd. Ymhen amser, bydd prisiau yswiriant yn adlewyrchu’r risg gwirioneddol a dylai perchnogion tai mewn ardaloedd risg ddod yn fwy ymwybodol o’r posibilrwydd o lifogydd a gallu ei wrthsefyll yn well.
Os cytunir ar yr opsiwn a ffefrir, bwriedir ei gyflwyno drwy’r Bil Dwr, ond bydd yn cymryd amser i sefydlu system newydd. Hyd nes y bydd y Bil Dwr wedi pasio trwy Senedd y DU a chronfa “Flood Re” wedi’i sefydlu, mae’r diwydiant wedi cytuno i lynu at y Datganiad Egwyddorion cyfredol.
Mae Llywodraeth Cymru’n parhau’n ymrwymedig i fynd i’r afael â pholisi llifogydd drwy’r Rhaglen lywodraethu a’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Byddaf wedi buddsoddi dros £180 miliwn mewn mesurau i reoli’r perygl o lifogydd dros oes y Llywodraeth hon. Yn ychwanegol, byddwn yn cael dros £60 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Dyraniad Cyfalaf Canolog dros yr un cyfnod, gan leihau’r peryglon i dros 7,000 o gartrefi a busnesau ym mhob rhan o Gymru.