Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Hoffwn roi diweddariad terfynol i’r Aelodau ar y camau gweithredu sydd wedi cael eu cynnwys yn y Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid.
Mae lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn dal i fod yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol ein bod ni'n ymwybodol o bwy sydd yn y perygl mwyaf o ymddieithrio rhag addysg a sicrhau eu bod yn derbyn yr addysg a'r hyfforddiant cywir i'w cynorthwyo i drosglwyddo'n llwyddiannus i gyflogaeth pan fo'r amser yn briodol i wneud hynny.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol eisoes fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar Gynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid ym mis Ionawr eleni. Ar yr adeg honno, mynegodd y Llywodraeth ei hymrwymiad i gyhoeddi diweddariad terfynol ym mis Medi. Gwnaeth y Gweinidog Addysg a Sgiliau blaenorol Ddatganiad Llafar ym mis Ebrill 2013 a oedd yn amlinellu'r cynlluniau ar gyfer datblygu fframwaith newydd ar gyfer Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Gwnaeth hefyd ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu llawn ar gyfer y fframwaith hwnnw yn ystod tymor yr Hydref. Mae camau gweithredu y Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid wedi cael eu nodi a'u hymgorffori mewn un neu ddau o linynau’r fframwaith newydd. Bydd y camau gweithredu sydd ar waith ar hyn o bryd yn parhau i lywio'r arferion da sydd wedi cael eu darparu hyd yma.
Mae'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid newydd wedi cael ei ddatblygu i fodloni anghenion pobl ifanc. Mae'n cynyddu atebolrwydd gwahanol asiantaethau sy'n rhan o'r system i ddarparu gwell canlyniadau i bobl ifanc. Bydd yn egluro gwaith Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill o ran cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu ac i ddod o hyd i waith yng Nghymru. Dyma chwe elfen sylfaenol yr ymagwedd hon:
- Nodi pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio
- Gwell broceriaeth a chydgysylltu o ran cymorth
- Prosesau olrhain a phontio cryfach drwy’r system i bobl ifanc
- Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc
- Atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cyflogaeth
- Gwell atebolrwydd i sicrhau gwell deilliannau i bobl ifanc
Mae'r cwymp diweddar yn ffigurau’r bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn galonogol o ystyried yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni. Fodd bynnag, mae gormod o bobl ifanc yn parhau i ymddieithrio rhag addysg a hyfforddiant yn 16 oed. Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar 1 Hydref 2013 a fydd yn nodi lansiad ffurfiol ein cynllun gweithredu ar gyfer y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.