Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Yr wythnos diwethaf, cynhaliais gyfres o gyfarfodydd â Banc Buddsoddi Ewrop (BBE) yn Lwcsembwrg. Cyfarfûm â'r Dirprwy Lywydd, Jonathan Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Benthyca yng Ngorllewin Ewrop, Simon Barnes, Pennaeth Gwasanaethau Cynghori, Tom Barrett a nifer o'u cydweithwyr.
Roedd tri rheswm dros gynnal fy ymweliad. Roedd yn gyfle i: osod sylfaen cydberthynas hirdymor â phartner ariannu pwysig o bosibl; trafod defnyddio buddsoddiad pellach gan BBE yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddi mewn prosiectau seilwaith cyhoeddus a allai gyfrannu at ein rhaglen Buddsoddi i Gymru; a throsglwyddo'r neges bod Cymru yn chwarae ei rhan yn y gwaith o gefnogi twf a swyddi yn economi Ewrop.
Mae'n braf gennyf nodi canlyniadau cadarnhaol yn sgil y trafodaethau lefel uchel. Mae BBE yn awyddus i fuddsoddi mwy yng Nghymru a hynny mewn rhaglenni a phrosiectau cadarn sy'n cefnogi nodau polisi'r UE i greu swyddi a chyflawni twf cynaliadwy, cydlyniant economaidd a chymdeithasol a thargedu cynaliadwyedd amgylcheddol.
Gwnaethom hefyd drafod y posibilrwydd o ddefnyddio buddsoddiad BBE mewn Offerynnau Ariannol yn rhaglenni gweithredol newydd Cronfeydd Strwythurol. Mae'r ddwy ochr am ddatblygu ffyrdd mwy cynaliadwy ac arloesol o ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol i sicrhau'r potensial mwyaf posibl o ran etifeddiaeth yn y cylch nesaf. Cydnabu BBE lwyddiant ein buddsoddiadau parhaus, gan gynnwys cronfa JEREMIE gwerth £150m sy'n cael ei hariannu ar y cyd gan y Cronfeydd Strwythurol a BBE ac sydd eisoes wedi buddsoddi dros £115m mewn 500 o BBaChau ledled Cymru. Mae BBE hefyd wedi buddsoddi £60m yn y gwaith o ddatblygu'r campws newydd ym Mhrifysgol Abertawe, a gefnogir gan £35m o fuddsoddiad gan y Cronfeydd Strwythurol yn y gwaith o ddatblygu Canolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg newydd a Chanolfan Arloesi Bae Abertawe.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae BBE wedi buddsoddi tua 25 biliwn Ewro yn y DU. Mae buddsoddiad uniongyrchol yng Nghymru dros yr un cyfnod yn cyfateb i tua 1.5% o'r ffigur hwnnw.
Yn ystod fy nhrafodaethau â BBE, pwysleisiais y ffaith bod gan Gymru rwymedigaethau cymharol isel o ran y Fenter Cyllid Preifat sef tua £100m o gymharu ag £1bn yn yr Alban. Mae rhwymedigaethau'r Fenter Cyllid Preifat yn Lloegr ac Iwerddon hefyd yn sylweddol uwch nag yng Nghymru. Mae'r ffaith nad ydym wedi ymwneud â model traddodiadol y Fenter Cyllid Preifat i'r un graddau yn golygu ein bod mewn sefyllfa i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol, nad ydynt yn seiliedig ar ddifidend, o fuddsoddi mewn seilwaith a wnaiff weithio i Gymru. Tynnais sylw at y ffaith ein bod yn awyddus i weithio gyda phartneriaid fel BBE er mwyn datblygu cynlluniau buddsoddi a fydd yn sicrhau mantais a gwerth cyhoeddus sylweddol na fyddent, fel arall, yn fforddiadwy.
Y camau nesaf yw:
- datblygu ymhellach gydberthnasau gweithredol â BBE er mwyn gwneud cyfleoedd buddsoddi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn fwy amlwg - gan adeiladu ar Brosiect Arfaethedig Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru;
- defnyddio arbenigedd gwasanaethau cynghori o fewn BBE er mwyn helpu i ddatblygu ein cynigion ar gyfer gwariant;
- ystyried cyfleoedd pellach i BBE ymwneud â rhaglenni newydd Cronfeydd Strwythurol sydd ar droed;
- dysgu gwersi gweithredol ymwneud â BBE yn effeithiol oddi wrth ein cydweithwyr mewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol ledled y DU.
Byddaf hefyd yn estyn gwahoddiad ffurfiol i Jonathan Taylor a chynrychiolwyr allweddol eraill BBE i Gymru yn y Gwanwyn er mwyn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.