Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu, gan ddefnyddio'r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael, i helpu i fynd i'r afael ag achosion a symptomau'r dirwasgiad yng Nghymru. I gefnogi hyn rwy'n benderfynol o sicrhau bod cyngor a pholisi cynllunio cenedlaethol yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy ac adnewyddu'r economi. Ym mis Tachwedd 2012, diweddarwyd Polisi Cynllunio Cymru i atgyfnerthu'r elfen economaidd ym maes datblygu cynaliadwy a sicrhau y caiff ystyriaethau economaidd eu hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau cynllunio.
Ar 10 Mehefin, cyhoeddais ymgynghoriad ar ddrafft y Nodyn Cyngor Technegol newydd ar Ddatblygu Economaidd sy'n cefnogi'r polisi ym Mholisi Cynllunio Cymru ac yn rhoi cyfarwyddyd technegol manwl i awdurdodau cynllunio lleol ar roi polisi cenedlaethol ar waith. Mae'r TAN yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol asesu'r budd economaidd sydd ynghlwm â dyrannu safleoedd a phenderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygu economaidd.
Bydd yr ymgynghoriad ar y TAN drafft yn para am 12 wythnos o 10 Mehefin, a bydd yr ymatebion a ddaw i law yn cael eu dadansoddi a'u defnyddio i ddrafftio fersiwn derfynol y TAN, y disgwylir ei gyhoeddi tuag at ddiwedd y flwyddyn.