Huw Lewis, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Rwy’n cyhoeddi’r Datganiad Ysgrifenedig hwn i roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau am y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd yng Nghymru.
Yn Nhachwedd 2011 cyhoeddwyd y byddai Cymunedau yn Gyntaf, o hynny ymlaen, yn Rhaglen Trechu Tlodi a fyddai’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn anelu at dri chanlyniad strategol: Cymunedau Iach, Cymunedau Dysgu a Chymunedau Ffyniannus. Nod y rhaglen yw lleihau’r bylchau economaidd, y bylchau iechyd a’r bylchau addysg a sgiliau sy’n bodoli rhwng ein dinasyddion mwyaf difreintiedig a mwy cefnog drwy weithio gydag unigolion a chymunedau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Bydd y Rhaglen yn cael ei chyflawni o hyn ymlaen drwy lai o ardaloedd nag o dan yr hen drefniadau, ond bydd yr ardaloedd newydd yn fwy; gelwir yr ardaloedd newydd hyn yn ‘Glystyrau’ Cymunedau yn Gyntaf.
Fis diwethaf cyhoeddwyd bod yr olaf o’r 52 Clwstwr wedi cael cyllid, gan godi cyfanswm yr ymrwymiad i £75 miliwn tan fis Mawrth 2015. Mae’r cyllid hwn yn darparu dros 900 o swyddi ac yn cynnal gwaith gwerthfawr yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Caiff llawer o’r gwaith hwn ei arwain gan drigolion lleol eu hunain, gan gynnwys miloedd o wirfoddolwyr.
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen newydd mewn sawl ffordd. Rydym wedi ymateb i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2011 a hefyd i argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn eu hadroddiadau ar Gymunedau yn Gyntaf. Yn benodol, rydym wedi gwneud Llywodraethu Da, Cynnwys y Gymuned yn Gryf a Chyflawni Canlyniadau’n Effeithiol drwy waith partneriaeth yn ofynion hanfodol i bob Clwstwr.
Bydd y Clystyrau’n cael eu monitro’n barhaus a bydd yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth o’u cyflawniadau drwy’r system Atebolrwydd yn seiliedig ar Ganlyniadau. Am fod y ffocws ar ganlyniadau a chyflawni, mae gan bob Clwstwr Gynllun Cyflawni yn nodi sut y bydd yn cyfrannu at y tri chanlyniad strategol ac at y nod cyffredinol o Drechu Tlodi. Er enghraifft, bydd pob Clwstwr yn cynnal Clwb Gwaith neu fenter debyg ar ‘ddychwelyd i’r gwaith’, gan gynnig cyngor ar gyflogaeth a chymorth ar fater Diwygio Lles. Mae sawl Clwstwr yn cynnal cydweithfeydd bwyd, Undebau Credyd a phob math o weithgareddau eraill.
Bydd y rhaglen newydd yn adeiladu ar gyflawniadau’r hen Raglen Cymunedau yn Gyntaf ac yn cadw ffocws cryf ar gynnwys y gymuned a’i chael i gymryd rhan.
Llywodraethir pob Clwstwr gan Gorff Cyflawni Arweiniol sy’n gyfrifol am sicrhau llywodraethu da ym mhob Clwstwr ac am wneud yn siŵr bod canlyniadau’n cael eu cyflawni’n effeithiol. Mae’r Corff Cyflawni Arweiniol hefyd yn gyfrifol am gyflawni’r rhaglen yn lleol, ac am ddiogelu rhan y gymuned ynddi.
I’r perwyl hwn, mae gan bob Clwstwr Gynllun Cyflawni sy’n nodi sut y bydd yn cyfrannu at drechu tlodi ar lefel leol yn ogystal â Chynllun Cynnwys y Gymuned sy’n amlinellu sut y bydd y gymuned yn cael ei chynnwys wrth roi’r rhaglen ar waith a sut y bwriedir ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd.
I helpu’r Gweithlu Cymunedau yn Gyntaf i weithredu eu Cynlluniau Cyflawni a’u Cynlluniau Cynnwys y Gymuned, mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi dyfarnu Contractau Cymorth Cenedlaethol i CGGC, a fydd yn rhoi Hyfforddiant a Chyngor i staff a gwirfoddolwyr y rhaglen, ac i Ddatblygu Cymunedol Cymru, a fydd yn arwain y gwaith tymor hwy o ddatblygu’r Gweithlu Cymunedau yn Gyntaf. Bydd y cymorth a ddarperir gan y contractau hyn yn helpu i sicrhau pontio diffwdan i’r rhaglen newydd fel bod y cymunedau mwyaf difreintiedig yn parhau i gael gwasanaeth cyson ac effeithiol.
Byddwn hefyd yn mynd ymlaen gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau â Chronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf drwy sefydlu Cronfa newydd ar gyfer Grantiau Bach i Drechu Tlodi, sydd hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer grantiau bach mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Cymunedau yn Gyntaf a oedd yn arfer cael ei ddarparu drwy’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol. Bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer y Gronfa hon yn £3.5 miliwn y flwyddyn o leiaf; bydd 75% o’r cyfanswm yn cael ei ddyrannu i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a bydd y 25% sy’n weddill yn mynd i ardaloedd nad ydynt yn rhai Cymunedau yn Gyntaf.
Bydd yn rhaid i geisiadau i’r Gronfa newydd hon ddangos cysylltiad pob prosiect neu fenter arfaethedig â’r agenda Trechu Tlodi a sut y bydd yn helpu i adeiladu cymunedau ffyniannus, cymunedau iach a chymunedau dysgu. Mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, bydd gan aelodau o’r gymuned fwy o lais nag o’r blaen yn y ffordd y dyrennir y grant a byddant yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol ar lefel leol yn y gwaith o ddatblygu rhai prosiectau arfaethedig allweddol.
Un o’r prif heriau a’n hwynebodd oedd sicrhau bod cysylltiadau cryfach rhwng Cymunedau yn Gyntaf a darparwyr gwasanaethau eraill ac adrannau Llywodraeth Cymru. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd go iawn trwy broses Canlyniadau Cyffredin, ac mae nifer o ymyriadau eraill yn cael eu datblygu i gynorthwyo Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r rhain yn cynnwys ehangu gwaith y Ganolfan Byd Gwaith ar Gynghori Rhieni ar Gyflogaeth i gwmpasu 12 Clwstwr, ac ym mhob achos symud Cynghorydd Canolfan Byd Gwaith i weithio yn y gymuned yn rhan o’r tîm cyflawni Cymunedau yn Gyntaf. Rydym hefyd yn treialu ffordd o gysylltu Cymunedau yn Gyntaf a Thwf Swyddi Cymru yn uniongyrchol drwy gyflogi Mentoriaid Cyflogaeth Ieuenctid mewn 10 Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf. Mae mwy o waith yn cael ei gyflawni gydag ystod o wasanaethau cynghori i sicrhau bod pob Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yn cael cyngor o ansawdd uchel ar les.
Rydym wedi bod yn datblygu ffordd integredig o weithio gyda mentrau trawsadrannol llwyddiannus, er enghraifft y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) lle’r ydym yn cydweithio’n agos â chydweithwyr yn yr Adran Addysg a Sgiliau i gyfateb y dyraniad GAD ag arian Cymunedau yn Gyntaf ac i annog gwaith partneriaeth cryfach rhwng ysgolion a Chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn lleihau’r bwlch rhwng cyrhaeddiad plant sy’n cael Prydau Ysgol am Ddim a chyrhaeddiad eu cyfoedion.
Nid dyna o bell ffordd ddiwedd ein huchelgeisiau am gydweithio o’r fath, ac rydym yn parhau i ddatblygu cynigion ar draws Llywodraeth Cymru a thu hwnt, yn canolbwyntio ar iechyd, addysg, adfywio a swyddi yn benodol. Byddaf yn gwneud mwy o gyhoeddiadau am y gwaith hwn yn y dyfodol agos.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi’n glir y byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig er mwyn datblygu rhaglen hyblyg ac ymatebol sy’n ceisio mynd i’r afael ag effeithiau tlodi yn ogystal ag achosion tymor hwy tlodi yng Nghymru. Trwy barhau i fuddsoddi yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a thrwy adeiladu ar y gwaith trawsbortffolio hyd yma, gallwn ddod ynghyd i gyflawni hyn.