Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod pob plentyn a pherson ifanc yn bwysig. Dylai pob un gael y dechrau gorau mewn bywyd, y cyfle gorau posibl i dyfu heb ddioddef tlodi na niwed, a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyrraedd eu llawn botensial.
Rydym yn parhau i hyrwyddo hawliau plant ac yn gweithio i sicrhau adeg pan fydd pob plentyn a pherson ifanc yn gwybod am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), ac yn ei ddeall.
Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn brawf o hyn. Mae wedi rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i CCUHP a'i Brotocolau Dewisol wrth wneud penderfyniadau am ddeddfwriaeth a pholisïau arfaethedig ac unrhyw waith adolygu i ddeddfwriaeth a pholisïau presennol.
Bydd rhoi hawliau plant wrth wraidd ein polisïau a'n deddfwriaeth yn dylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ac yn gwella'r canlyniadau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Caiff ein llwyddiant ei fesur yn ôl yr effaith y mae hynny'n ei gael ar fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Er 1 Mai 2012, pan ddaeth y ddyletswydd i rym, rydym ni wedi rhoi trefniadau ar waith i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r dyletswyddau yn y Mesur. Rhoddwyd manylion y trefniadau hyn yn ein Cynllun Hawliau Plant a gymeradwywyd gan Aelodau'r Cynulliad ar 27 Mawrth 2012.
Mae Adran 4 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad sy’n nodi sut rydym ni wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd dan sylw o dan Adran 1.
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r adroddiad cyntaf ar ein trefniadau cydymffurfio fel yr amlinellir yn ein Cynllun Hawliau Plant.
Mae'r adroddiad yn dangos sut rydym ni wedi rhoi sylw dyledus i hawliau plant wrth ddatblygu neu adolygu polisïau a deddfwriaeth, a'r gwaith monitro a chefnogi sydd wedi digwydd yn Llywodraeth Cymru hyd yma. Ceir hefyd adran sy'n tynnu sylw at yr effaith sy'n deillio o’r ddyletswydd. Er mai dim ond naw mis sydd ers i'r Mesur ddod i rym ac i'r Cynllun Hawliau Plant gael ei weithredu, mae llawer o gynnydd wedi'i wneud.
Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i chi ar ein cynnydd o ran ymrwymiadau eraill yn y Mesur.
Mewn perthynas ag Adran 5, y ddyletswydd i ddatblygu a hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o CCUHP, cefnogodd Lywodraeth Cymru Gynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe - Cymryd y Camau Cywir - ym mis Mehefin 2012. Roedd yn ddigwyddiad hynod o gadarnhaol i gyhoeddi bod y ddyletswydd newydd ar waith a helpodd i wella ein perthynas waith â rhanddeiliaid allweddol ym maes hawliau plant ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Yn ogystal â hynny, ar hyn o bryd rydym yn ariannu sesiynau 'hyfforddi'r hyfforddwr' ledled Cymru. Diben hyn yw sicrhau bod gan y rheini sydd â rôl mewn hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ddealltwriaeth eu hunain o CCUHP i'w throsglwyddo i'w myfyrwyr. Mae hyn y cynnwys hyfforddwyr ym maes iechyd, yr heddlu, mewnfudo a gofal plant a hyd yma rydym wedi cael ymateb gwych a galw sylweddol am y sesiynau.
Rydym hefyd wedi lansio pecyn e-ddysgu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael ei hyrwyddo’n eang. Rydym hefyd wedi ailymweld â gwefan Getting it Right CCUHP ac yn fuan byddwn yn lansio ‘ap’ ffôn symudol i hyrwyddo CCUHP a rhoi gwybod i blant a phobl ifanc am wasanaethau i'w cefnogi i fanteisio ar eu hawliau.
Mewn perthynas ag Adran 7, sy'n nodi bod yn rhaid i ni ymgynghori â rhanddeiliad ar ddefnydd posibl y ddyletswydd sylw dyledus ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed yng Nghymru, mae ein proses ymgynghori bellach wedi'i chwblhau ac rydym wrthi’n dadansoddi'r canlyniadau. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y mater hwn maes o law.
Er nad yw’r Mesur wedi bod mewn grym ers rhyw lawer, hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu a gwireddu hawliau plant ers blynyddoedd. I'r perwyl hwn, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r newyddion diweddaraf ar ein cynnydd mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor yr UE ar Hawliau'r Plentyn yn eu casgliadau yn 2008.
Mae Cynllun Gweithredu Cael Pethau'n Iawn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrwng i gadw ein meddwl ar yr argymhellion hyn wrth ddatblygu ein polisïau a'n deddfwriaeth. Mae diweddariad Cael Pethau'n Iawn 2013 bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allanol sy'n arbenigo mewn hawliau plant ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae'n bwysig ein bod yn ceisio datblygu ein model ac yn parhau i fonitro pa mor addas a chynaliadwy ydyw ar gyfer y dasg sydd o'n blaenau.
Ein nod yn y tymor hwy yw datblygu diwylliant hawliau plant a'u gosod yn y brif ffrwd o fewn gwaith Llywodraeth Cymru ac yn y pen draw, o fewn cymdeithas ehangach Cymru. Mae gwledydd eraill fel yr Alban, Canada a'r Ariannin wedi dangos llawer o ddiddordeb yn ein deddfwriaeth a'n trefniadau. Rwy'n falch ein bod wedi creu deddfwriaeth o safon fyd-eang ar hawliau plant a'n bod ni yma yng Nghymru yn arwain y ffordd unwaith eto.