Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pan gefais fy mhenodi’n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gynharach eleni, dywedais mai gofal heb ei drefnu, y rhaglen ddeddfwriaethol a chwblhau’r tri chynllun rhanbarthol ar gyfer newid gwasanaethau GIG Cymru oedd fy nhri phrif flaenoriaeth. Rwy’n falch o gyhoeddi bod y cyntaf o’r cynlluniau newid gwasanaeth, ar gyfer Gogledd Cymru, bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus.
Ym mis Ionawr 2013, yn dilyn cyfnodau helaeth o ymgysylltu ac ymgynghori’n ffurfiol â’r cyhoedd, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei gynigion terfynol ar gyfer newidiadau i wasanaethau gofal iechyd yn y Gogledd: Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid.
Yn unol â’r Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori ar Newidiadau i Wasanaethau Iechyd, cafodd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr gyfnod o chwe wythnos i dynnu sylw Gweinidogion Cymru at unrhyw gynigion nad oeddent, ym marn y Cyngor, o fudd i Wasanaeth Iechyd yr ardal.
Ar 4 Mawrth cyfeiriodd y Cyngor Iechyd Cymuned elfennau o gynigion y Bwrdd Iechyd i’r cyn-Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol benderfynu arnynt. Roedd y cynigion yn ymwneud â:
- gwasanaeth mân anafiadau yn Ne Gwynedd;
- cael gwared â gwasanaethau pelydr-X o Ysbyty Tywyn;
- gwasanaeth iechyd meddwl pobl hŷn yng Ngwynedd.
Cadarnheais wedyn y byddwn yn dod i benderfyniadau terfynol ar y materion hyn unwaith roeddwn yn fodlon bod gen i’r holl wybodaeth berthnasol, wedi ystyried y materion yn drwyadl ac yn ofalus.
Fel rhan o’r broses hon, cyfarfu fy swyddogion ag aelodau o’r Cyngor Iechyd Cymuned a’r Bwrdd Iechyd ar 11 Mehefin. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn, roedd y ddwy garfan o’r farn bod yna ffordd o ddatrys y materion a gyfeiriwyd ataf i benderfynu yn eu cylch.
Rwy’n falch iawn o gael nodi fy mod, bellach, wedi derbyn llythyr oddi wrth y Cyngor Iechyd Cymuned a’r Bwrdd Iechyd ar y cyd, yn cadarnhau ein bod wedi dod i gytundeb ynghylch y materion hyn.
Gwasanaeth Mân Anafiadau yn Ne Gwynedd
Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned wedi cytuno y dylai’r oriau diwygiedig ar gyfer y Gwasanaeth Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywyn barhau, er y caiff y galw am y gwasanaeth ei fonitro a’i adolygu dros gyfnod hirach. Os bydd angen gwneud unrhyw newidiadau pellach i’r gwasanaeth, caiff y rheini eu trafod drwy’r Pwyllgor Cynllunio Gwasanaethau. Wrth fonitro oriau diwygiedig y gwasanaeth, bydd angen i’r Bwrdd Iechyd wneud cynlluniau i weithredu a chyfathrebu ei gynigion, fel y gall pobl fod yn hyderus y cânt y gwasanaethau mân anafiadau angenrheidiol gan eu meddyg teulu, y gwasanaeth tu allan i oriau a’u hysbytai cymunedol.
Gwasanaeth Pelydr-X
Daethpwyd i gytundeb i barhau â’r gwasanaeth Pelydr-X yn Ysbyty Tywyn am ddwy sesiwn yr wythnos. Er mwyn goresgyn problem staffio’r gwasanaeth, bydd y Bwrdd Iechyd yn ymchwilio, ynghyd â Byrddau Iechyd cyfagos, i’r posibilrwydd o ddefnyddio eu timau radioleg.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yng Ngwynedd
Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned wedi cytuno y bydd y Pwyllgor Cynllunio Gwasanaethau yn monitro’r cynllun gweithredu sydd wedi’i ddatblygu er mwyn sefydlu gwasanaethau amgen yn y gymuned, er mwyn lleihau effaith cau gwelyau yn Uned Hafan (Pwllheli) ac Uned Meirion (Dolgellau). Bydd hyn yn rhoi’r sicrwydd angenrheidiol bod y cynlluniau’n cael eu cyflawni a bod anghenion pobl yn cael eu diwallu. Caiff bwletin cynnydd ei lunio hefyd ar ôl pob adroddiad carreg filltir i’r Pwyllgor Cynllunio Gwasanaethau, a chaiff hwn ei rannu â’r gymuned leol.
Casgliad
Yn ogystal â’r elfennau a gyfeiriodd y Cyngor Iechyd Cymuned yn ffurfiol i’r Gweinidog oedd y diffyg trafnidiaeth i gyrraedd gwasanaethau iechyd yn ardaloedd gwledig y Gogledd, a De Gwynedd yn benodol, thema oedd yn codi’n aml. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i weithio gyda phartneriaid ar draws y gwasanaeth cyhoeddus i ddeall yn well y sefyllfa o ran trafnidiaeth leol a cheisio creu cyfleoedd ar y cyd i’w gwella.
Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn hapus bellach, cyn belled ag y bydd canlyniad y prosesau monitro ac adolygu y cytunwyd arnynt yn foddhaol, ei fod wedi datrys yr elfennau o gynigion y Bwrdd Iechyd yr oedd wedi’u cyfeirio at sylw Gweinidogion Cymru.
Hoffwn gofnodi ar ddu a gwyn fy niolch personol i holl swyddogion ac aelodau’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Iechyd Cymuned a fu ynghlwm wrth y gwaith o ddatrys y mater hwn.