Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yw'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus sy'n ceisio datblygu ffynonellau annibynnol o gyngor arbenigol ym maes polisi ar gyfer Llywodraeth Cymru. Bydd yn gwneud y broses o lunio polisïau yn fwy effeithiol a bydd Llywodraeth Cymru'n gwsmer mwy deallus yn nhermau ymchwil a chyngor.
Yn dilyn proses gystadlu agored a lansiwyd yn yr Hydref, cafwyd ceisiadau gan ystod o gyrff, a gafodd eu hasesu gan banel dan gadeiryddiaeth annibynnol yr Athro Frances Ruane o Sefydliad Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Dulyn. Mae'r broses werthuso wedi dod i ben ac rydw i wedi penodi Prifysgol Caerdydd i gynnal y Sefydliad Polisi Cyhoeddus, a fydd yn cynnwys rhwydwaith o arbenigwyr o brifysgolion, melinau trafod a sefydliadau ymchwil eraill ledled Cymru, y DU a thu hwnt. Mae sefydliadau a recriwtiwyd eisoes i'r rhwydwaith yn cynnwys grwpiau sydd wedi eu lleoli ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg, Lerpwl ac Abertawe. Mae hyn yn ddechrau ar rwydwaith ehangach o arbenigwyr ym maes economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys y rheini y tu allan i Gymru.
Bydd contract y Sefydliad Polisi Cyhoeddus yn para am gyfnod o dair blynedd i ddechrau, yn ddarostyngedig i broses werthuso ac adolygu, a bydd ganddo gyllideb flynyddol gwerth £450,000. Bydd yr Athro Steve Martin yn arwain y Sefydliad dros dro nes bod Cyfarwyddwr parhaol yn cael ei benodi. Rydw i'n disgwyl i'r Sefydliad gael ei lansio'n weithredol yn yr Hydref.