Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddais ym mis Rhagfyr fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau’r broses o  ddiwydrwydd dyladwy er mwyn ceisio prynu Maes Awyr Caerdydd gan ei berchenogion TBI. Mae’r broses honno bellach wedi’i chwblhau a dyma gyhoeddi felly fod Maes Awyr Caerdydd bellach yn nwylo Llywodraeth Cymru drwy ei chwmni daliannol.  

Byddwn yn buddsoddi tua £52.0 miliwn yn uniongyrchol er mwyn caffael asedau a gweithrediadau’r Maes Awyr.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r gofynion sydd ynghlwm wrth ddiwydrwydd dyladwy a’r broses gyfreithiol wedi golygu nad oedd modd cyhoeddi’r newyddion yma ynghynt. Roedd yn rhaid i’r gwaith hwn gael ei wneud mewn modd trylwyr a heb unrhyw bwysau gormodol. Rwy’n cyhoeddi’r newyddion hwn ar yr adeg gynharaf a ganiateir gan y broses fasnachol a chan fy mod am hysbysu’r Aelodau ar unwaith.  

Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn cyflwyno Datganiad Llafar i’r Cynulliad yn syth ar ôl y toriad. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion maes o law ynghylch y broses diwydrwydd dyladwy a’r achos busnes sydd wedi arwain at y cyhoeddiad hwn heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i ddatblygu seilwaith economaidd deinamig a blaengar ar gyfer Cymru. Dyma gyfle i ddatblygu cyfleuster a fydd yn gwbl allweddol ar gyfer busnesau, twristiaid a’r cyhoedd. Hyderaf y bydd yr Aelodau yn rhannu ein huchelgais i hybu economi Cymru drwy’r datblygiad hwn.