Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Mae’n gwbl annerbyniol defnyddio cosbrestrau i wahaniaethu yn erbyn unigolion sy’n aelodau o undeb llafur ac/neu wedi cymryd rhan mewn gweithredu gan undeb llafur, neu sydd wedi datgan eu pryderon, er enghraifft, ynghylch iechyd a diogelwch a/neu faterion amgylcheddol.
Cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ym mis Mehefin yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio polisi caffael i helpu i ddileu’r defnydd o gosbrestrau yng Nghymru.
Er mwyn cefnogi’r ymrwymiad hwn, rwyf wedi rhoi cyngor i bob corff cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu canllawiau clir ar yr amgylchiadau lle gellir gwahardd y rheini sydd wedi’u cosbrestru rhag caffael cyhoeddus. Mae’r cyngor hwn i’w weld yma: Procurement Route Planner Toolkit.
Rwy’n disgwyl i’r canllawiau hyn gael eu cymhwyso i’r holl gontractau perthnasol yn y dyfodol i helpu i sicrhau nad yw unrhyw fusnes sy’n derbyn gwariant caffael cyhoeddus yn defnyddio cosbrestrau.
Rwy’n annog Llywodraethau eraill y DU i gymryd camau tebyg.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.