Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Yn gynharach eleni, cymeradwyais sefydlu Grant Brechu Moch Daear i roi cyfle i ffermwyr, tirfeddianwyr a sefydliadau eraill frechu moch daear rhag TB. Dylai’r brechu leihau lefelau TB ym mhlith moch daear ac o ganlyniad dylai fod llai o siawns y bydd yr haint yn lledaenu i wartheg.
Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod y cyfnod ymgeisio cyntaf wedi dechrau heddiw, a bydd yn parhau tan 13 Rhagfyr 2013. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dechrau brechu o fis Mai 2014 ymlaen. Bydd y Grant Brechu Moch Daear yn weithredol o 2014 i 2019 a byddwn yn ei adolygu’n flynyddol.
Gall pawb sydd â diddordeb wneud cais am gymorth drwy’r Grant Brechu Moch Daear. Bydd cyfanswm o £250,000 ar gael bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at 50% o gostau cymwys brechu moch daear.
I gael gwybod mwy am y grant, ewch ar-lein.