Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru a Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y camau sydd wedi’u cymryd mewn perthynas â phenodi aelodau Tribiwnlys y Gymraeg (“y Tribiwnlys”).
Ar 12 Rhagfyr gosodais gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodiadau) 2013 a oedd yn amlinellu’r gofynion ar gyfer penodi Llywydd ac aelodau eraill y Tribiwnlys. Mae copïau dwyieithog o’r Rheoliadau ynghlwm wrth y datganiad hwn.
Mae’r Rheoliadau yn amlinellu’r dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru wrth wneud y penodiadau. Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penodiadau ar sail teilyngdod a rhaid i’r sawl a benodir fod o gymeriad da. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i’r angen i gynnal egwyddorion annibyniaeth y Tribiwnlys a’r rheol gyfreithiol wrth benodi.
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â phenodi Llywydd oni bai eu bod wedi eu bodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o’r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi. Wrth benodi aelodau eraill y Tribiwnlys, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r wybodaeth o’r Gymraeg a’r hyfedredd ynddi sydd gan aelodau’r Tribiwnlys gyda’i gilydd.
Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru roi sylw i’r angen i sicrhau amrywiaeth yn yr ystod o bobl a benodir yn aelodau’r Tribiwnlys.
Heddiw, cyhoeddais Ddatganiad o Bolisi a Gweithdrefn Penodi sy’n amlinellu manylion y broses benodi, gan gynnwys aelodaeth y panel penodi, y broses asesu a’r bobl yr ymgynghorir â nhw yn dilyn cyfweliad ar gyfer penodi’r Llywydd. Mae copïau dwyieithog o’r datganiad ynghlwm.
Gallaf gyhoeddi y bydd y broses ar gyfer penodi’r Llywydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd ac y penodir yr aelodau eraill ganol 2014. Bydd hyn yn rhoi amser i sefydlu’r Tribiwnlys cyn i Gomisiynydd y Gymraeg gyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio mewn perthynas â’r gyfres gyntaf o Safonau’r Gymraeg a fydd yn berthnasol i Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Caiff y Rheoliadau sy’n gwneud y gyfres gyntaf o safonau eu gwneud erbyn diwedd Tachwedd 2014.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.