Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ganfyddiadau ein gwaith ymchwil i’r effaith y bydd diwygiadau Llywodraeth y DU i’r system les yn ei chael yng Nghymru.
Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion ar Ddiwygio Lles, a gadeirir gennyf i, wedi comisiynu rhaglen ymchwil tri cham i asesu effaith y diwygiadau lles yng Nghymru. Ar ôl cyhoeddi canfyddiadau allweddol dadansoddiad Cam 1, a amlinellais mewn Datganiad Llafar ym mis Chwefror 2012, mae gwaith ymchwil Cam 2 bellach wedi'i gwblhau hefyd. Cyhoeddir canfyddiadau'r cam hwn o'r gwaith ymchwil heddiw.
Gwnaed y gwaith ymchwil drwy gyfuniad o waith mewnol ac allanol. Mae'r gwaith mewnol wedi amcangyfrif effeithiau uniongyrchol y prif ddiwygiadau lles ar incwm cartrefi yng Nghymru, ac mae'n asesu effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach diwygiadau lles a'r goblygiadau posibl i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'r gwaith allanol, a wnaed gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, wedi canolbwyntio ar ddadansoddi effaith y diwygiadau lles ar y cyflenwad llafur yng Nghymru. Amlinellir y canfyddiadau allweddol adroddiadau ymchwil Cam 2 isod:
Ymysg y toriadau lles yr amcangyfrifir y byddant yn arwain at y colledion incwm blynyddol mwyaf yng Nghymru y mae:
- y newid i uwchraddio’r rhan fwyaf o fudd-daliadau drwy’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn hytrach na’r Mynegai Prisiau Manwerthu;
- y cap o 1 y cant ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gweithio, rhai elfennau o gredydau treth a Budd-dal Plant;
- colli’r hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl;
- y polisi terfyn amser ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol.
Mae cannoedd o filoedd o hawlwyr budd-daliadau a derbynwyr credydau treth eisoes wedi colli incwm o ganlyniad i'r toriadau i wariant ar les, ac mae rhai unigolion wedi’u heffeithio gan fwy nag un newid polisi. Gallai colledion incwm fesul hawlydd fod yn fwy na £80 yr wythnos (neu fwy na £4,000 y flwyddyn) yn achos y rhai yr effeithir arnynt gan y diwygiadau i'r Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol yn unig. Ynghyd ag effaith newidiadau i fudd-daliadau eraill, gallai'r colledion fod yn fwy byth.
Amcangyfrifir y bydd diwygiadau lles Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd cyn Datganiad yr Hydref ym mis Rhagfyr yn lleihau cyfanswm yr hawliadau o ran budd-daliadau a chredydau treth yng Nghymru tua £590 miliwn yn 2014-15. Mae’r toriadau ychwanegol a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref ym mis Rhagfyr yn golygu y bydd y colledion hyd yn oed yn uwch. At hynny, mae'n debyg y bydd y rhai yr effeithir arnynt gan y toriadau i daliadau lles yn gwario llai ar nwyddau a gwasanaethau, a fydd arwain at effaith negyddol arall ar economi Cymru.
Nid effeithir ar bob math o gartref i’r un graddau: cartrefi â phlant, ac o leiaf nes y bydd y Credyd Cynhwysol wedi’i gyflwyno i raddau helaeth, y cartrefi hynny ar waelod y dosbarthiad incwm, fydd yn gweld y gostyngiad mwyaf yn eu hincwm o ganlyniad i'r diwygiadau. Mae’r rhain yn grwpiau sydd eisoes yn fwy tebygol o ddibynnu ar wasanaethau cyhoeddus ac efallai y bydd y fath wasanaethau yn dod yn fwyfwy pwysig iddynt os bydd eu hincwm yn lleihau. Er nad yw diwygio budd-daliadau lles yn fater datganoledig, bydd nifer o fesurau yn effeithio ar wasanaethau datganoledig a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae'r fath effeithiau yn debygol o fod yn eang eu cwmpas a gallent effeithio ar bob un o'r meysydd gwasanaeth cyhoeddus a ystyriwyd, gan gynnwys: iechyd, gofal cymdeithasol, tai, addysg a hyfforddiant, datblygu economaidd, cymunedau a chyfiawnder cymdeithasol a llywodraeth leol.
Un o brif nodau Llywodraeth y DU yw sicrhau bod y diwygiadau lles yn llwyddo i gael mwy o bobl i mewn i waith. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd effaith y newidiadau i gymhellion ariannol i weithio ar gyflogaeth ac oriau gwaith, ar y gorau, yn eithaf bach. Yr amcangyfrif canolog yw y bydd nifer y swyddi yng Nghymru yn cynyddu tua 5,000 neu 0.3 y cant, ac mae hyn yn dibynnu ar amodau economaidd ehangach.
Fodd bynnag, mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch union effaith y diwygiadau gyda'i gilydd ar gyflogaeth, oriau gwaith ac enillion yng Nghymru, gan fod sawl agwedd sy'n anodd eu modelu. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i gymhellion anariannol i weithio, megis y system symlach sy’n gysylltiedig â’r Credyd Cynhwysol, a’r ffaith fod mwy o bobl bellach yn gorfod bodloni’r gofynion o ran chwilio am waith er mwyn cael budd-daliadau. Mae hefyd yn bosibl y bydd galw gwan am lafur yn ddylanwad pwysig ar ganlyniadau, yn enwedig yn y tymor byr.
Yr hyn sy’n amlwg yw y bydd diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn cael effaith enfawr a niweidiol ar Gymru yn gyffredinol. Mae canfyddiadau'r gwaith ymchwil a amlinellwyd uchod yn cadarnhau ein pryderon mwyaf ynghylch y diwygiadau ac fe'u defnyddir nawr gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion i nodi'r ffordd orau o ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i newid ac i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, lle y bo hynny’n bosibl.
Yn ddiweddar, cefais gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ddiwygio Lles, yr Arglwydd Freud, i drafod a oes unrhyw hyblygrwydd yn bosibl o ran cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yng Nghymru. Mynegais bryderon ynghylch effaith y diwygiadau, yn enwedig ar deuluoedd ag incwm isel. Soniais hefyd am yr effaith y bydd y diwygiadau lles yng Nghymru yn eu cael ar fudd-daliadau ‘pasbort’ a thai, a chodais fater mynediad i wasanaethau ar-lein ar gyfer y Credyd Cynhwysol. Rwyf nawr yn disgwyl i Lywodraeth y DU gyflwyno cynnig cadarnhaol i fynd i’r afael â’r materion hyn sy’n codi yn sgil ei diwygiadau i’r system les.
Rwy'n bwriadu cyhoeddi datganiad pellach ar Ddiwygio Lles ym mis Gorffennaf, ar ôl i ragor waith dadansoddi gael ei wneud.