Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Y mis Mawrth hwn oedd yr oeraf ers blynyddoedd ac effeithiodd yn drwm ar lawer o fusnesau, gan gynnwys ffermwyr. O ganlyniad i’r oerfel a’r eira, mae llawer o ffermwyr yng Nghymru wedi colli nifer fawr o ddefaid, ŵyn a lloi. Mae Llywodraeth Cymru felly am wneud yr hyn y gall i helpu’r ffermwyr hyn i ddelio â’u stoc marw mor gyflym a diogel â phosibl.
Mae dyletswydd ar ffermwyr o dan gyfraith yr UE i gael gwared ar stoc marw yn ddiogel, i ddiogelu iechyd pobl ac anifeiliaid.
Er hynny, mae cyfraith yr UE yn caniatáu i ffermwyr gladdu eu stoc ar eu tir pan fo’n argyfwng. Gan ein bod wedi wynebu tywydd mor ddifrifol, mae llawer o ffermwyr yn ei chael hi’n anodd delio â’u stoc marw yn ddiogel. Rydym wedi clywed am gasglwyr yn methu â chyrraedd ffermydd. Felly, rwyf wedi penderfynu llacio’r rheol am gyfnod dros dro yn yr ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf, ond heb aberthu’r egwyddor gyffredinol y dylai’r ffermwr symud ei stoc marw o’i fferm lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
O dan amgylchiadau cyffredin, mae ceidwaid da byw yn cysylltu â chasglwr stoc marw ac yn trefnu ei fod yn mynd â’i stoc marw o’r fferm i ddelio â nhw’n ddiogel. Dylai ffermwyr barhau i wneud popeth yn eu gallu i fynd â charcasau o’u tir gan gysylltu â chasglwr stoc marw yn y lle cyntaf. Ond os gwelith y casglwr ei bod yn amhosibl cyrraedd fferm yn un o’r ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf gan yr eira, fel Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Drefaldwyn neu Sir Faesyfed, rydym am roi’r hawl dros dro i ffermwyr gael claddu eu defaid, ŵyn a lloi yn unol â rheoliadau’r UE a Chymru. Bydd gofyn i ffermwyr ddangos tystiolaeth na fu modd i’r casglwr ddod i’r fferm.
Mae’r perygl o lygredd yn dibynnu ar nifer o ffactorau ar y safle, gan gynnwys nifer y carcasau, y math o garcasau, sut cawsant eu claddu, daeareg y safle a dyfnder y lefel trwythiad. Gan mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ddiogelu ansawdd dŵr, dylid gwrando ar eu cyngor nhw wrth gladdu stoc. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Groundwater Protection: Principles and Practice (GP3). Ceir copi ohono yn: http://www.environment-agency.gov.uk/research/library/publications/144346.aspx
Yn ogystal â dilyn cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru ar gladdu stoc, rhaid i’r ffermwr roi gwybod i’r Awdurdod Lleol ei fod yn claddu stoc. Rhaid iddo gofnodi’r digwyddiad yn ei lyfr symudiadau gan nodi rhifau tagiau clust yr anifeiliaid (os yn gymwys) a lleoliad y gladdfa.
Daw’r ddarpariaeth hon i rym un funud ar ôl canol nos, 3 Ebrill 2013 a bydd yn para am 7 niwrnod. Byddwn wedyn yn edrych eto ar y sefyllfa i benderfynu a ddylem ei hestyn neu ddod â hi i ben.
Mae fy ymrwymiad i gefnogi diwydiant amaeth llwyddiannus a phroffidiol yn parhau. Mae’r diwydiant eisoes yn derbyn cymhorthdal o £260 miliwn y flwyddyn ac mae rhan o hwnnw’n cael ei roi yn union am fod y diwydiant yn wynebu problemau fel prisiau ac incwm ansefydlog a pheryglon naturiol.
Rwyf wrthi’n ystyried sut y dylem drefnu cymorth tymor hir i helpu ein ffermwyr yng Nghymru ac rwy’n ddiwyro fy nghefnogaeth i ddatblygu diwydiant na fydd yn dibynnu ar gymhorthdal. Nid rhoi rhagor o gymorth ariannol uniongyrchol i fusnesau fferm unigol yw’r ffordd i’w gwneud yn gryf a chadarn i wynebu’r dyfodol. Rwyf wastad wedi gwrthwynebu polisi Llywodraeth y DU sydd o blaid lleihau taliadau uniongyrchol y PAC i ffermwyr, hynny am fy mod yn credu bod angen cymorth cyhoeddus ar fusnesau fferm i’w gwneud yn fwy effeithiol a phroffidiol. Rwy’n fwy na pharod i ystyried unrhyw help ymarferol pellach y gallai Llywodraeth Cymru ei roi i’r diwydiant ac i fusnesau unigol yn y cyfnod anodd hwn.