Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rwyf wedi dal ati i weithio i ddatrys ac i fynd i’r afael â’r sefyllfa mae rhai ffermwyr yn dal i wynebu wrth geisio adfer stoc sydd wedi marw, yn enwedig rheini mewn ardaloedd lle mae’r eira newydd feirioli ac mae’r stoc marw yn cael eu dinoethi am y tro cyntaf. Tra mod i’n ymwybodol bod ardaloedd eraill yng Nghymru yn dal i ddelio gyda stoc marw, rwyf hefyd yn cydnabod ei bod wedi bod yn arbennig o anodd i’r ffermwyr nad oeddynt yn gallu darganfod lleoliad y stoc marw heb sôn am geisio eu hadfer. Mae fy swyddogion wedi gweithio yn agos gyda swyddogion safonau masnach awdurdodau lleol yn yr ardaloedd penodol lle llaciwyd y rheolau claddu ar y fferm, a byddant yn parhau i wneud hyn i sicrhau y bydd y broses anodd yma o ddelio gyda stoc marw yn cael ei ddirwyn i ben cyn gynted â phosib.
Yn sgil parhad y pwysau rwyf wedi penderfynnu ymestyn y llaciad rheolau ar gladdu am wythnos arall a therfynnol o hanner nos heno. Bydd y llaciad yn dal yn gymwys i’r ardal a ddynodwyd wythnos ddiwethaf ac mae manylion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rwyf yn ymwybodol o’r oedi sydd wedi digwydd yng nghasgliadau sgerbydau mewn rhai achosion, ac mewn un ardal benodol o fewn i’r ardal ddynodedig. Mae fy swyddogion wedi llwyddo cael cytundeb drwy’r Cwmni Cenedlaethol Stoc Marw sy’n caniatau i gasglwyr o’r tu hwnt i gôd post arferol yr ardaloedd hynny gysylltu â chasglwyr eraill ar fyrder. Bydd y cyfarwyddyd ar ein gwefan yn cael ei ddiweddaru i gynnwys rhif cyswllt y Cwmni Cenedlaethol Stoc Marw bydd yn darparu casglwr gwahanol os digwydda oedi. Mae’n hanfodol bod ffermwyr sy’n profi unrhyw oedi ac sy’n aelodau o’r Cwmni Cenedlaethol Stoc Marw yn cysylltu â nhw yn uniongyrchol fel y gallant gynnig cymorth. Mae swyddogion wedi anog y Cwmni Cenedlaethol Stoc Marw i sicrhau bod ei aelodau yn codi pris teg am y gwasanaethau amgen yma. Byddaf yn monitro’r sefyllfa yma, a byddaf yn gwneud pob dim o fewn fy ngallu i atal unrhyw awgrym o enillion gormodol wrth ddatrys y sefyllfa.
Rhan arwyddocaol o’r broblem sydd wedi bod ynghlwm â chasgliadau yw argaeledd gyrwyr a wageniau priodol ar gyfer y math hwn o waith. Mae fy swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gydag Adran Drafnidiaeth y DU. Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cytuno, lle bo oriau gwasanaeth yn broblem, dylai casglu stoc marw ddod o dan eithriad penodol cenedlaethol i reolau’r Undeb Ewropeaidd yn ymwneu â “cherbydau a ddefnyddiwyd i gario gwastraff anifeiliaid neu sgerbydau na fwriedir at gymeriant dynol” . Felly mewn cytundeb â rheolau cymwysiedig Asiantaeth Gwasnaethau Cerbydau a Gweithredwyr, y mae fy swyddogion hefyd wedi bod mewn cysylltiad â nhw, gall y cwmniau stoc marw perthnasol ymestyn eu horiau arferol o weithio er mwyn sicrhau bod casglu sgerbydau yng Nghymru yn digwydd mewn modd amserol. Bydd y newid hwn yn gymwys tan hanner nos ar 7 Mai 2013, un wythnos wedi diwedd y caniatad i gladdu stoc mewn amgylchiadau arbenning.
Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau cysondeb yn y dehongliad a’r cymhwysiad o’r cyfarwyddyd ar y llaciad rheolau ar gyfer claddu ar y fferm. Mae’r prif faterion sy’n cael eu codi gan yr awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn ymwneud â chanfod a chyflwr y sgerbydau yn ogystal â’r oedi yn y casgliadau. Rwyf wedi cytuno y dylai awdurdodau lleol ddelio gyda’r achosion yma yn unigol, a chyda bod yr holl ofynion wedi eu diwallu, yna ystyrir y sefyllfa sy’n wynebu ffermwyr gyda chydymdeimlad.
Yn ymwneud â chaniatad llacio rheolau claddu a gyfeiriwyd ato yn Erthygl 19(1) (c ) o Rheoliad (CE) Rhif 1069/2009 mae hyn yn gyfrifoldeb i awdurdod cymwys yr Aelod Wladwriaeth. Mae fy swyddogion wedi cysylltu â DG SANCO yn y Comisiwn Ewropeaidd sydd wedi ymateb eu bod yn disgwyl i awdurdodau cymwys y DU, y mae Cymru yn un ohonynt, i ganiatau y llaciad hwn yn y rheolau o fewn ysbryd deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ac mewn modd nad yw’n bosib ei herio o safbwynt cyfreithiol. Rydym wedi gweithredu mewn modd sy’n gwarchod pawb ynglhwm â’r pendefyniad rhag cael eu herio ar weithredu y llaciad mewn rheolau claddu. Bydd y cofnodion a gedwir gan yr awdurdodau lleol a’r ffermwyr eu hunain yn sicrhau y gellid fynd i’r afael ag unrhyw her yn y dyfodol gyda dogfennaeth fanwl gywir. Roedd hyn, ac mae’n parhau i fod, yn elfen hanfodol o’n ymdriniaeth â chynnal y llaciad mewn rheolau.
Mae’r tywydd wedi parhau i wella yn ystod yr wythnos ddiwethaf gyda thymhereddau mwynach ar draws y wlad. Mae fy swyddogion wedi parhau eu trafodaethau gyda chwmniau porthiant ac awgryma’r trafodaethau yma bod cyflenwadau swmp dwysfwyd yn cwrdd â’r galw, mwy neu lai, erbyn hyn, hyd yn oed os yw rhan-lwythi yn cael eu defnyddio dros dro. Yn ogystal, mae oedi o hyd mewn cyflenwadau wedi eu bagio ac mewn porthiant, ond disgwylir i drefniadau cyflenwi bwyd yn gyffredinol ddychwelyd i’r sefyllfa arferol o fewn pythefnos. Rwyf wedi bod yn dyst i ymdrech tîm cryf iawn gan y cwmniau porthiant wrth iddynt weithio yn agos gyda’u cwsmeriaid a gobeithiaf bydd eraill yn ymuno gyda fi yn diolch iddynt am eu hymroddiad i gadw cyflenwadau i symud o dan amgylchiadau anodd iawn.
Rwyf eisioes wedi gwneud datganiad am y gefnogaeth a’r cyngor rydym ni a phartneriaid wedi cyflwyno i gynnig cymorth i’r busnesau ffermio hynny sy’n wynebu anhawsterau gyda llif arian. Fel rhan o’r broses yma, rwyf yn cwrdd â’r banciau yfory (Mercher 24) i drafod yr hyn y gallant wneud i gefnogi eu cwsmeriaid drwy’r cyfnod hwn. Byddaf hefyd yn ceisio mynd i’r afael â nifer o faterion penodol a grybwyllwyd gan bartneriaid ac eraill sy’n delio gyda’r sefyllfa ar lawr gwlad.
Heddiw mae fy swyddogion wedi cwrdd unwaith eto gyda’r elusennau ffermio hynny y dyfarnais gefnogaeth ariannol iddynt yr wythnos ddiwethaf. Rydym erbyn hyn wedi cytuno ar fanylion terfynol y gefnogaeth y byddant yn cynnig i’r gymuned ffermio sydd wedi dioddef yn ystod y cyfnod yma. Rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau bod yr elusennau yn gallu darparu gofal bugeiliol i gwrdd â gofynion dynol ac emosiynol teuluoedd ffermio ac anogaf yr holl ffermwyr ac aelodau teuluol hynny sydd angen cefnogaeth i gysylltu â nhw yn uniongyrchol.
Rwy’n ymwybodol bod nifer o ffermwyr yn wynebu anhawsterau yn cwrdd â’u goblygiadau amaeth-amgylcheddol. Gall y ffermwyr hynny sy’n cael problemau yn sefydlu eu cnydau o fewn y terfynnau amser yn eu cytundebau Tir Gofal neu Glastir wneud cais drwy gysylltu â’u Swyddfa Ranbarthol leol am estyniad i’w caniatau i sefydlu eu cnydau erbyn diwedd mis Mai. Bydd hyn yn caniatau i ffermwyr reoli eu tir pori yn well cyn cau allan y caeau âr. Os oes gan ffermwyr unrhyw broblemau ychwanegol gyda chontract amaeth-amgylcheddol, yna gofynnaf iddynt gysylltu â’u Swyddfa Ranbarth leol lle bydd swyddogion yn ystyried achosion penodol a, lle bo hynny’n bosib, gweithredu eithriad i’r rheolau i ddatrys yr anhawsterau.
Byddaf yn ysgrifennu unwaith eto yr wythnos hon at yr holl ffermwyr yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf, yn eu hysbysu o’r ystod o gefnogaeth a chyngor sydd ar gael iddynt.
Wrth edrych i’r dyfodol rwyf wedi gofyn i Hybu Cig Cymru (HCC) asesu ac ystyried goblygiadau penodol y tywydd garw ar y cnwd oen eleni, y ddiadell fridio genedlaethol, a’r gadwyn gyflenwad cig coch ehangach ac i gynnig cyngor. Rwyf wedi cynnal trafodaethau cychwynol gyda Kevin Roberts am ei adolygiad o hydwythedd y diwydiant, parodrwydd y Llywodraeth i ddelio gyda’r mathau yma o sefyllfaoedd, a grymusder y modelau busnes creiddiol o fewn ein sector ffermio. Mae Kevin eisioes wedi dechrau ar ei ganfyddiadau ffeithiol ar lawr gwlad a byddaf yn gwneud datganiad pellach am ei gylch gorchwyl penodol a materion eraill yn ymwneud a’i adolygiad gyda hyn. Ni yw’r unig wlad yn y DU i gomisiynnu’r fath adolygiad ac rwyf mewn trafodaethau yn barod gyda Llywodraeth y DU am gymhwysiad pellach posib y gwaith yma.
Oni bai y bydd y sefyllfa yn newid yn syfrdanol yn y dyddiau nesaf, hwn fydd y datganiad wythnosol olaf byddaf yn gwneud am y cyfnod tywydd garw diweddar. Byddaf yn parhau i gadw golwg manwl ar y sefyllfa, a byddaf yn adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol ar faterion penodol, gan gynnwys y gwaith y bydd Kevin Roberts ac HCC yn gwneud. Rwyf wedi diolch i’r gymuned ffermio am y modd y mae wedi ymateb i’r sefyllfa yma. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio’n galed o dan gryn bwysau i ddelio gyda’r materion yma dros yr wythnosau diwethaf.