Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Heddiw, ar Ddiwrnod Hawliau Plant, rwy'n falch o lansio cyfraniad Llywodraeth Cymru at bumed adroddiad parti gwladol y Deyrnas Unedig i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Yn Ionawr 2014, bydd Llywodraeth y DU, fel y Parti Gwladol, yn cyflwyno adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ynghylch cynnydd a wnaed wrth weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac ymateb i argymhellion a sylwadau clo a wnaed gan y pwyllgor yn 2008.
Yr adroddiad hwn yw cyfraniad Cymru at adroddiad parti gwladol y DU. Mae’n cynnig cyfle inni amlygu’r cynnydd sylweddol a wnaed gennym a dwyn sylw cenedlaethol a rhyngwladol at y cyfeiriad nodedig a gymerwyd gennym i wneud hawliau CCUHP yn realiti i holl blant a phobl ifanc Cymru.
Cred Llywodraeth Cymru fod pob plentyn a pherson ifanc yn bwysig. Dylai pob un ohonynt gael y cychwyn gorau mewn bywyd, y cyfle gorau i dyfu i fyny heb ddioddef tlodi na niwed, a’r cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni eu potensial llawn.
Mae’r adroddiad yn adlewyrchu uchelgais a chynnydd Llywodraeth Cymru i gael ei gweld yn wlad sy’n arwain y ffordd yn rhyngwladol yn y gwaith o sicrhau fod hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn tystio i hyn.
Trwy sicrhau fod hawliau plant wrth wraidd ein holl bolisïau a’n deddfwriaeth, dylanwadir ar y gwaith o gyflawni gwasanaethau a bydd gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc. Caiff ein llwyddiant ei fesur gan yr effaith ar fywyd plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Nid yw’r adroddiad yn adlewyrchu holl weithgarwch Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â phlant a phobl ifanc dros y saith mlynedd diwethaf, ond yn hytrach, mae’n ceisio cynnig darlun cynrychiadol sy’n pwysleisio ein llwyddiannau pennaf a'r heriau a wynebwn. Mae hefyd yn cynnig cipolwg ar y mentrau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd o fewn maes polisi sy’n newid yn gyson.
Er ein bod yn sbarduno ac yn gwella cynnydd yng Nghymru, mae rhai meysydd sydd heb eu datganoli, ac nid yw'r polisi a'r ddeddfwriaeth a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU wedi dylanwadu'n sylweddol ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae amgylchedd polisi ehangach y DU wedi newid yn ddramatig dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae polisïau cynilo a lles Llywodraeth y DU yn effeithio'n sylweddol ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau fod anghenion a chanlyniadau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn cael eu hystyried.
Mae mynd i’r afael â thlodi a’i effeithiau ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yn un o flaenoriaethau pennaf ein Llywodraeth. Fel y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, byddaf i, ynghyd â fy Nirprwy Weinidog Trechu Tlodi, yn sicrhau y caiff hawliau plant y sylw amlwg y maent yn eu haeddu o fewn yr agenda hollbwysig hwn.
Mae'r adroddiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae dolen iddo isod. Gofynnaf i bawb, yn enwedig y sawl sydd â diddordeb mewn plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, i gymryd amser i ystyried ein cynnydd a'n llwyddiannau.