Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Yn dilyn y Gynhadledd Fawr haf diwethaf, fe wnes i ddatganiad (12 Tachwedd) yn amlinellu rhai o’r camau cychwynnol y byddem yn eu cymryd i ymateb i’r heriau a nodwyd yn y Gynhadledd. Mae ein Strategaeth, Iaith fyw: iaith byw yn parhau i lywio’r hyn yr ydym yn ei wneud ac mae rhai datblygiadau pwysig wedi cael eu gwneud. Mae’r heriau rydym yn eu wynebu yn allweddol felly ni allwn laesu dwylo. Er y byddaf yn gwneud datganiad polisi llawn yn y gwanwyn, mae’n amserol i roi diweddariad i Aelodau nawr.
Cafodd y set gyntaf o safonau drafft o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 eu cyhoeddi ar 6 Ionawr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cychwyn ymchwiliad i’r Safonau gyda’r cynghorau sir, awdurdodau’r parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Rydym ni yn y llywodraeth eisoes wedi dechrau ar y gwaith o adolygu ein trefniadau er mwyn cryfhau ein defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad, ac rydym hefyd yn ystyried sut i fesur effaith penderfyniadau polisi ac ariannol ar y Gymraeg.
Mae’r rheoliadau penodi bellach yn eu lle ar gyfer Tribiwnlys y Gymraeg, ac rydym wedi dechrau ar y broses o benodi’r Llywydd. Bydd y Tribiwnlys yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn ac rwy’n gweld hyn fel rhan arwyddocaol o’r fframwaith sefydliadol sy’n cwmpasu’r iaith.
Mae’r maes addysg wedi chwarae rhan enfawr yn hyrwyddo’r Gymraeg a chreu siaradwyr Cymraeg newydd. Mae’n parhau i fod yn hanfodol i ddyfodol yr iaith. Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 wedi rhoi Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar sail statudol ac mae’r rheoliadau cysylltiedig bellach yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau penodol, fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Yn gyfochrog a hyn, rydym wedi cychwyn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth rhieni eu bod yn gallu dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant ym mhob rhan o Gymru.
Ym maes cynllunio, rydym wedi diwygio Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20, ac mae canllawiau’n cael eu datblygu i gynorthwyo awdurdodau cynllunio i asesu’r effaith ar y Gymraeg. Bydd y canllawiau’n cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.
Mae nifer o adolygiadau pwysig wedi cael eu cwblhau dros y misoedd diwethaf:
- Cyhoeddwyd adroddiad o waith y Mentrau Iaith, y Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe wythnos diwethaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adroddiad hwn maes o law.
- Yn ddiweddar rydym wedi neilltuo £90,000 ychwanegol i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni er mwyn iddynt allu gweithredu rhai o argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod a gyhoeddodd ei adroddiad yn yr Hydref.
- Rydym wedi derbyn argymhellion y grŵp annibynnol a fu’n adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion. Rydym eisoes wedi cychwyn ar y newidiadau.
- Rydym wedi derbyn yr adroddiad ar Gymunedau Cymraeg, sydd â’r nod o gynyddu nifer y cymunedau ble mae’r Gymraeg yn brif iaith, ac rydym wrthi yn ystyried ein ymateb.
- Mae Grŵp annibynnol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, wedi bod yn adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Bydd argymhellion yr adroddiad Un Iaith i Bawb, yn cael eu bwydo i’r adolygiad ehangach o’r cwricwlwm.
- Bydd y Grŵp Iaith ac Economi yn adrodd yn fuan.
Bydd yr adroddiadau hyn i gyd yn ychwanegiadau pwysig i’n casgliadau yn dilyn y Gynhadledd Fawr. Yn naturiol, rwy’n credu mai gweithredu, ac nid geiriau, fydd yn arwain yr agenda yn ei blaen ond maen bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda pholisïau sydd yn seiliedig ar ymchwil gadarn a dealltwriaeth glir o’r heriau. Fel arall y mae posib y bydd gwaith yn mynd yn ei flaen sy’n ddigyswllt ac yn seiliedig ar ddiffyg dealltwriaeth.
Rwy’n barod wedi nodi pwysigrwydd addysg. Darparwyd cymorth grant o tua £135 miliwn ers 2009 i gyflawni 17 prosiect mawr ar gyfer adeiladau ysgolion cyfrwng Cymraeg. Hefyd, drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, byddwn yn anelu at gyflawni tua 25 prosiect mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros y 5 i 6 mlynedd nesaf. Rydym hefyd wedi buddsoddi arian cyfalaf tuag at adeiladu bloc llety newydd yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog.
Gallaf gadarnhau heddiw grant o £3.5m ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn 2014-15. Bydd tri deg chwech o sefydliadau yn y sector wirfoddol yn elwa’n uniongyrchol o dderbyn y grant hwn, manylion wedi ei atodi.
Yr her o’n blaenau yw hybu’r defnydd o’r Gymraeg a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae popeth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn gweithio tuag at y nod hwn. Mae’r her yn parhau i fod yn ddifrifol, ond mae gwaith da yn mynd yn ei flaen. Mae adroddiad diweddar arbenigwyr Cyngor Ewrop wedi nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at yr iaith, a bydd hyn yn parhau.
Nid ni fel Llywodraeth Cymru yw’r unig gorff sy’n gallu dylanwadu ar ddyfodol y Gymraeg. Mae gan nifer o gyrff eraill ran i’w chwarae, yn genedlaethol neu lleol, yn sefydliadau, ysgolion, cyflogwyr, teuluoedd ac unigolion. Mae’r iaith yn rhan ohonom ac mae’n perthyn i bawb. Mae ganddom ni i gyd ran i’w chwarae wrth sicrhau ei dyfodol.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn y gwanwyn fydd yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn mwy o fanylder.
Grantiau ar gyfer Y Gymraeg 2014-15
Rhieni dros Addysg Gymraeg (RHAG) £35,140
Menter Abertawe £102,145
Menter Bro Ogwr £59,435
Menter Brycheiniog £28,451
Menter Caerdydd (gan gynnwys Menter y Fro a Tafwyl) £134,591
Menter Iaith Caerffili £95,552
Menter Castell Nedd Port Talbot £77,415
CERED £103,068
Menter Iaith Conwy £97,678
Menter Dinbych £81,583
Menter Iaith Sir y Fflint £72,043
Menter Iaith Maelor £36,540
Menter Maldwyn £72,591
Menter Merthyr Tudful £58,400
Menter Môn £89,132
Menter Iaith Dinefwr £93,000
Menter Cwm Gwendraeth Cyf £87,791
Menter Gorllewin Sir Gar £66,921
Menter Iaith Sir Benfro £90,279
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf £107,768
Menter Iaith Blaenau Gwent £64,200
Menter Iaith Casnewydd £25,550
Hunaniaith £83,715
Mentrau Iaith Cymru £61,500
Merched y Wawr £84,205
Cymdeithas Eisteddfodau Cymru £46,036
Eisteddfod Genedlaethol Cymru £543,000
Cynllun Hybu Ardal Aman Tawe (Menter Bro Dinefwr) £38,000
Cynllun Hybu Ardal Aman Tawe (Menter Castell Nedd Port Talbot) £38,000
Gwobr Dug Caeredin £20,300
Dyffryn Nantlle 20/20 £3,000
Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru £89,719
Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig £12,165
Urdd Gobaith Cymru £852,184
Gwallgofiaid £23,000
Plant yng Nghymru £3,000
CYFANSWM £3,577,097