Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Efallai y bydd aelodau am nodi elfen bwysig o ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a gynhaliwyd yn Fflandrys ar 16 Awst.
Roedd yn anrhydedd imi gael cymryd rhan yng ngwasanaeth cyflwyno Cofeb y Cymry yn Langemark ger Cefn Pilkem ac yn agos i dref Ieper/Ypres lle bu cynifer o ddynion o Gymru yn ymladd a lle cafodd cynifer ohonynt eu lladd. Roedd y Llywydd, arweinwyr pob plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, Syr Deian Hopkin, cynghorydd Llywodraeth Cymru ar goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf, cynrychiolwyr o'r lluoedd arfog ac amrywiaeth o gynrychiolwyr eraill hefyd yn bresennol, gan ei wneud yn achlysur gwirioneddol genedlaethol.
Cafodd y gofeb, a luniwyd gan yr artist Lee Odishow, ei hariannu gan gyfraniadau a nawdd cyhoeddus, a chafodd yr ymgyrch drosti ei rheoli ar y cyd rhwng grwpiau cymunedol yng Nghymru a Fflandrys. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwarantu'r apêl. Yng Nghymru, cafodd y gwaith trefnu ei arwain gan Peter Carter Jones a hoffwn ddiolch iddo ef a'i gydweithwyr yn y Grŵp Ymgyrchu dros Gofeb y Cymry yn Fflandrys. Rydw i hefyd am gydnabod y gefnogaeth hael ac agored a gafodd y gofeb gan bwyllgor ymgyrch Fflandrys ynghyd ag awdurdodau trefol Langmark-Poelkapelle a Llywodraeth Fflandrys.
Roedd tua mil o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth cyflwyno gan gynnwys ymwelwyr o Gymru a chymunedau lleol Fflandrys. Mae'n debyg mai dyma'r casgliad mwyaf o Gymry i fod yn yr ardal ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn y blynyddoedd nesaf bydd Cymru yn cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn nifer o leoliadau, gartref a thramor, a hynny mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Mae Fflandrys a'r ardal o amgylch Ieper / Ypres yn parhau i fod yn ardal bwysig yng nghof y Cymry, ac rwy'n sicr y bydd yr holl Aelodau'n falch i weld bod cofeb addas a pharhaol yno i'r rheini a fu'n ymladd, ac na ddaeth byth yn ôl.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwyliau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.