Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Ebrill 2010 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gyda’r bwriad o sicrhau bod addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn rhannau annatod o’r isadeiledd addysg. Ymysg y nodau ac amcanion strategol a osodwyd gan y Strategaeth oedd gwella’r broses o gynllunio darpariaeth a dilyniant cyfrwng Cymraeg ar draws yr ystod oedrannau, gwella sgiliau iaith, a chodi safonau yn y Gymraeg a Chymraeg ail iaith.
Y prif fodd o gyflawni’r nodau ac amcanion hyn oedd gwahodd awdurdodau lleol i baratoi Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Ers pasio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 daeth y gyfundrefn hon yn statudol.
Ar sail canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013 bu rhaid i awdurdodau lleol lunio’u Cynlluniau statudol cyntaf ar gyfer y cyfnod 2014 i 2017, ymgynghori’n gyhoeddus yn eu cylch a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru. Dyletswydd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yw:
- ei cymeradwyo fel y’i cyflwynwyd,
- ei gymeradwyo gydag addasiadau, neu
- ei wrthod a llunio cynllun newydd sydd i’w drin fel cynllun cymeradwy’r awdurdod.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi ystyriaeth fanwl i 21 o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac wedi cyflawni eu dyletswydd fel a ganlyn:
- cymeradwyo 3 Cynllun fel y’i cyflwynwyd – Abertawe, Ceredigion a Gwynedd,
- cymeradwyo 18 Cynllun gydag addasiadau – Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Penfro, Pen-y-bont, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn.
Mae Sir Gaerfyrddin wedi cael estyniad i’r amserlen er mwyn i’r awdurdod fedru adlewyrch argymhellion Gweithgor y Cyfrifiad yn eu Cynllun Strategol.
Bydd disgwyl i bob awdurdod lleol adolygu eu Cynlluniau’n flynyddol a chyflwyno unrhyw gynlluniau diwygiedig i Weinidogion Cymru.