Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol imi ddychwelyd ddoe ar ôl ymweld â Uganda. Euthum yno fel un o wahoddedigion Clymblaid Mbale yn Erbyn Tlodi, partner i raglen Llywodraeth Cymru sef Cymru o Blaid Affrica. Pan fûm yno cefais gyfle i ymweld â phrosiectau y bu modd eu sefydlu oherwydd gwaith caled ac ymroddiad llawer o bobl o Gymru a hynny gyda chymorth rhaglen Cymru o blaid Affrica.
Yn ystod f’ymweliad pum niwrnod bu canolbwynt ar wahanol elfennau ar raglen Cymru o blaid Affrica gan gynnwys Masnach Deg, Cysylltiadau Cymunedol rhwng Cymru ac Affrica, plannu coed o dan brosiect Maint Cymru a Chysylltiadau Iechyd.
Pan gyrhaeddais Kampala cefais gyfarfodydd cychwynnol ag uchel Gomisiwn Prydain a’r Adran Datblygu Rhyngwladol ac wedyn teithiais i Mbale yn Nwyrain Uganda, lle mae llawer o brosiectau o Gymru ar waith.
Yn ystod pum niwrnod bythgofiadwy mynychais 24 o ddigwyddiadau a hynny mewn 19 o wahanol leoliadau. Bu degau o bobl o Gymru a sawl mil o ddinasyddion Uganda yn bresennol hefyd yn y digwyddiadau hyn.
Ymhlith yr ymweliadau roedd taith o gwmpas Menter Gydweithredol Gumutindo ar gyfer Masnach Deg a Choffi Organig, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i helpu trwy ariannu arbenigwr rheoli. Gwelais drosof fy hun y manteision y mae Masnach Deg yn eu rhoi i ffermwyr tlawd. Mae’r manteision hn yn cynnwys gwelliannau cymunedol megis cyflenwad dŵr rheolaidd, toiledau gwell ac Undeb Credyd ynghyd â phrisiau sylweddol uwch am eu coffi o’r radd flaenaf. Cefais daith o amgylch un o feithrinfeydd coed Maint Cymru lle mae degau o rywogaethau o goed yn cael eu tyfu i helpu i rwymo’r pridd, darparu cysgod i gnydau, tanwydd ar gyfer coginio a phren ar gyfer adeiladu. Ymwelais â phrosiect cadw gwenyn, sy’n cael ei gefnogi gan Bees for Development o Sir Fynwy a’i ariannu â grant bach gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect hwn yn rhoi incwm ychwanegol i fenywod sy’n ffermio yn ogystal â maeth gwell i’w plant a pheilliad gwell i’w coffi.
Braint hefyd oedd cael gweld y gwelliannau gwych sydd wedi’u gwneud yn Ysgol Uwchradd Bubutu trwy ymdrechion staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Pontypridd. Agorais ystafell gysgu i ferched, sydd wedi’i hariannu gan fusnesau o Gymru a fydd yn helpu i amddiffyn y merched rhag ymosodiadau a sicrhau bod mwy ohonynt yn gallu cwblhau eu haddysg. Tra bûm yno gwelais wasanaeth ambiwlans beiciau modur, a sefydlwyd gan Barafeddygon o Gymru ac sy’n helpu menywod beichiog i fynd i’r ysbyty – gan leihau marwolaeth ymhlith mamau i raddau helaeth. Roedd gweithdy offer peiriannau PONT – a roddwyd gan TATA Steel yn Ne Cymru – yn brysur wrth ei waith. Mae’r gweithdy - sy’n cael ei gefnogi gan staff a hyfforddwyd gan wirfoddolwyr o Gymru gyda grant bach arall gan Lywodraeth Cymru – yn gwneud gwelyau cludo ar olwynion i’r gwasanaeth ambiwlans. Mawr yw’r galw am y gwelyau cludo hyn a gafodd eu dylunio gan fyfyriwr o Gymru.
Ar y diwrnod olaf ymwelais â slym Namatala yn Mbale. Yno, agorais dai bach cyhoeddus a gafodd eu hadeiladu gyda rhoddion gan rai o staff a myfyrwyr Prifysgol Morgannwg i wella iechyd y cyhoedd. Yn ychwanegol gwelais waith ysbrydoledig Child of Hope, sy’n rhoi cyfleoedd gwirioneddol i blant sy’n byw yn y slym mewn amodau hynod o anodd. Roeddwn yn falch o glywed y Cyfarwyddwr yn canu clodydd gwaith y tri gwirfoddolwr y maent wedi llwyddo o ddod o hyd iddynt trwy ein rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwaith pob un o’r gwirfoddolwyr wedi arwain at newidiadau ysgubol i’w gwaith.
Yn ystod f’ymweliad cefais gyfle hefyd i blannu’r filiynfed goeden o dan brosiect Miliwn o Goed Maint Cymru ac i wneud dau gyhoeddiad am y prosiect. O Ebrill ymlaen, byddwn yn ymestyn ein menter lwyddiannus sef PLANT! sy’n plannu coeden yng Nghymru ar hyn o bryd i bob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru ynghyd â phlannu coeden ychwanegol yn Uganda. Cyhoeddais hefyd targed newydd of 10 Miliwn o Goed ar gyfer y prosiect plannu coed yn Mbale.
Gwn fod rhai pobl yn teimlo na ddylwn ymweld â Uganda yn sgil y newyddion annisgwyl bod Bil y meinciau cefn sef y Bil Gwrthgyfunrywioldeb wedi cael ei basio ychydig cyn y Nadolig. Rwyf yn deall pryderon y bobl hyn ac yn cytuno’n llwyr â datganiad Llywodraeth y DU ar y mater https://www.gov.uk/government/news/fco-minister-expresses-uk-concerns-about-anti-homosexuality-legislation-in-uganda
Nid yw fy safbwynt wedi newid ers imi ysgrifennu at Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad bron yn union dair blynedd yn ôl ar 26 Ionawr 2011 http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-committees/bus-committees-other-committees/bus-committees-third-pc-home/bus-committees-third-pc-agendas/pet_3_-3-11_papers-e.pdf?langoption=3&ttl=PET(3)-03-11 : Paper 1 : New Petitions and Updates to Previous Petitions (PDF, 1-91MB)
Mae gan Uganda rai o’r cyfraddau uchaf yn y byd o drais yn erbyn menywod. Mae plant yn cael eu cam-drin ar raddfa eang ond anaml y caiff hyn ei gofnodi’n ffurfiol. Credaf fod hyn yn rheswm digonol dros barhau i ymgysylltu â dinasyddion cyffredin o Uganda a’u cymunedau ac i bobl o Gymru barhau â’u gwaith – yn hytrach na chefnu arno. Gwelais drosof fy hun yr effaith gadarnhaol y mae cyfranogiad Cymru’n ei chael, nid yn unig yn ymarferol ond hefyd o ran cymedroli agweddau.
Siaredais yn gyhoeddus am yr angen am oddefgarwch a thrafodais y BilGwrthgyfunrywioldeb yn breifat ag arweinwyr gwleidyddol yn Mbale. Mae dinasyddion Uganda yn ymwybodol iawn o’n safbwynt a chefais fy nghynghori yn rheolaidd y gallai siarad yn gyhoeddus am y Bil - sydd gerbron y Llywydd ar hyn o bryd - wneud y sefyllfa’n waeth yn hytrach na’i gwella.
Hoffwn longyfarch pob un o’r gwirfoddolwyr o Gymru sy’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol ac ysbrydoledig - a hynny nid yn unig ym Mbale ond hefyd mewn llawer o gymunedau eraill yn Affrica Is-Sahara. Rwyf yn falch bod f’ymweliad wedi tynnu sylw at eu gwaith amhrisiadwy a hoffwn annog mwy o bobl byth yng Nghymru i ddechrau cymryd rhan yn y gwaith clodwiw hwn.