Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ar 13 Tachwedd, cyhoeddodd melin bapur UPM Shotton y bydd yn cau un o’i beiriannau cynhyrchu papur yn y safle yn Sir y Fflint gan beryglu 130 o swyddi. Y lleiaf o’r ddwy linell cynhyrchu papur sydd ar fin cau. Bydd gweithrediadau eraill yn parhau ar y safle.
Mae’r penderfyniad wedi’i wneud oherwydd sefyllfa anodd y farchnad. Mae cylchrediad papurau newydd yn dirywio yn sgil y cynnydd yn y cyfryngau digidol. Bydd y cwmni’n cau gweithrediadau ar safleoedd cynhyrchu eraill yn Ewrop hefyd.
Yn amlwg, mae hwn yn newyddion siomedig iawn a bydd yn gyfnod anodd i’r rheini yr effeithir arnyn nhw. Nawr, bydd cyfnod ymgynghori’n dilyn ac unwaith y daw’r ymgynghoriad hwnnw i ben, bydd yr effaith ar y staff yn cael ei chadarnhau.
Bore heddiw, fe ymwelais â’r felin bapur yn Shotton i drafod gyda’r rheolwyr a chynrychiolwyr Undeb Unite. Byddwn yn cefnogi’r staff fydd y bydd cau’r peiriant yn effeithio arnyn nhw. Mae cyrff fel Canolfan Byd Gwaith, cyrff Gyrfaoedd, cyrff hyfforddi ac asiantaethau eraill wedi cynnig rhoi help a chymorth ar y safle i’r staff yr effeithir arnyn nhw.
Rwyf wedi cynnig sefydlu grŵp i gwrdd ag UPM ac i drafod sut gall Llywodraeth Cymru ei helpu. Rwyf wedi gofyn i David Jones, cadeirydd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy i arwain y grŵp hwn a bydd yn mynd ati i gysylltu â’r cwmni.
Fe gysylltaf â chi eto pan fydd gennyf ragor o fanylion.