Edwina Hart, y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 12 Tachwedd, rwy’n ysgrifennu i roi rhagor o fanylion i’r Aelodau.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar adroddiad Cam 2 yr Athro Dylan Jones-Evans, a daeth dros 100 o ymatebion i law.
Nid yw yn bosib bob tro I gyhoeddi ymatebion yn llawn oherwydd natur y wybodaeth a dderbynir oddiwrth ymatebwyr a allai fod o natur fasnachol ac yn sensitive. Mae fy swyddogion wrthi’n gwirio’r wybodaeth ar hyn o bryd a byddaf yn rhoi rhagor o fanylion i’r Aelodau unwaith y byddaf wedi cael y cyngor priodol. Byddaf hefyd yn cyhoeddi ymateb mwy manwl i’r argymhellion bryd hynny.
Yn y cyfamser, hoffwn hysbysu’r Aelodau o’m bwriad i roi rhagor o ystyriaeth i’r cynnig i sefydlu banc datblygu i Gymru, fel y dywedais yn fy Natganiad Llafar ym mis Tachwedd.
Roedd yr adroddiad yn argymell y dylid sefydlu banc datblygu i Gymru a fyddai’n cyfuno’r gwahanol ffynonellau cyllid cyhoeddus yng Nghymru ac yn eu defnyddio ochr yn ochr â’r arian sydd ar gael gan y sector preifat.
Roedd yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y dull gweithredu hwn ar unwaith, er mwyn sicrhau bod ei fod yn bosibl ac yn gyson.
Mae hwn yn gynnig o bwys mawr ac felly bydd rhaid ei ystyried yn drylwyr ac yn ddwys. Mae’n bleser gen i gadarnhau fy mod wedi gofyn i’r Athro Jones-Evans gynnal adolygiad pellach i edrych yn fanwl ar y cysyniad hwn ac i nodi ei ganfyddiadau mewn adroddiad i mi.
Mae’r union gylch gorchwyl yn dal i gael ei gytuno â’r Athro Jones-Evans, ond gallaf gadarnhau y bydd ei waith yn edrych ar genhadaeth, swyddogaeth a gweithrediadau sefydliad o’r fath; y fframwaith cyfreithiol a’r cymorth gwladwriaethol y byddai eu hangen i sefydlu a gweithredu banc datblygu; y sgiliau, y profiad a’r costau; a’r risgiau a buddiannau cymharol.
Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau cyn bo hir.