Huw Lewis, Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau
Hoffwn gyflwyno’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau Cynulliad ynghylch Profion Darllen a Rhifedd eleni, fel y gwnes y llynedd.
Cafodd dros filiwn o bapurau prawf eu hanfon i dros 1,650 o ysgolion eleni a gwnaeth 300,000 o ddysgwyr sefyll y profion hyn yn ystod y cyfnod penodedig ym mis Mai. Roedd gan yr awdurdodau lleol, drwy’r consortia rhanbarthol, swyddogaeth allweddol o safbwynt cefnogi eu hysgolion a monitro’r trefniadau gweinyddol er mwyn sicrhau cysondeb a chwarae teg. Cafodd profion rhesymu rhifiadol eu sefyll am y tro cyntaf eleni felly roedd nifer y papurau eleni yn uwch na’r nifer yn 2013, gan olygu bod y broses gyfan hyd yn oed yn fwy o gamp sylweddol.
Gwnaethom hefyd gynnig gwasanaeth cymorth marcio fel y gallai ysgolion elwa i’r eithaf ar yr wybodaeth a gasglwyd o atebion y dysgwyr a darparwyd dulliau diagnostig er mwyn helpu ysgolion i ddadansoddi’r canlyniadau. Mae’n hollbwysig fod ysgolion yn defnyddio canlyniadau’r profion fel sail i’w harferion addysgu a dysgu ac er mwyn parhau i wella’r ymarfer o fewn yr ystafell ddosbarth.
Rwy’n falch iawn fod yr ysgolion wedi llwyddo i weinyddu, marcio a lanlwytho’r data, gyda chymorth yr awdurdodau lleol, ac nad oedd llawer o anawsterau. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a fu ynghlwm wrth weinyddu’r profion.
Cam nesaf y broses oedd dadansoddi bron i filiwn o ganlyniadau unigol gan ddysgwyr er mwyn creu’r tablau safoni ar gyfer pob un o’r profion – sef profion darllen Cymraeg a Saesneg, profion rhifedd gweithdrefnol a phrofion rhesymu rhifiadol.
Dyma waith cymhleth nad yw wedi’i wneud ar y raddfa hon o’r blaen. Eto i gyd, byddwn yn rhoi sgorau safonedig yn ôl oedran i’r dysgwyr ar gyfer pob un o’r profion sydd wedi’u sefyll mewn darllen Cymraeg a Saesneg, profion rhifedd gweithdrefnol a phrofion rhesymu rhifiadol.
Bydd y canlyniadau hyn yn cynorthwyo ysgolion i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a byddant yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar rieni ynghylch gallu eu plentyn o safbwynt darllen a rhifedd. Mae’n rhaid i ysgolion ddefnyddio’r data er mwyn nodi cryfderau dysgwyr a meysydd i’w datblygu, gan alluogi athrawon i ymyrryd ynghynt os yw disgyblion ar ei hôl hi a chan hefyd rhoi rhagor o her i’r disgyblion mwy galluog. Mae’r canlyniadau hyn yn allweddol er mwyn codi safonau o fewn addysg yng Nghymru ac maent yn garreg filltir arall wrth i mi gyflawni fy ymrwymiad i sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt.