Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Bum yn ystyried sut y bydd cynllun y Bathodyn Glas yn cael ei weithredu ac rwyf wedi gwneud nifer o newidiadau o ganlyniad i ddiwygiadau i'r Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014.
Arferai y rhai a oedd yn gymwys am y Bathodyn Glas gynnwys pobl oedd â nam gwybyddol ac a oedd yn derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol ar y lefel uchaf ar gyfer y gweithgarwch sy'n gysylltiedig â symudedd o'r enw ‘Cynllunio a Mynd ar Daith’. Bydd y Rheoliadau diwygiedig, a ddaw i rym ar 15 Rhagfyr 2014, yn cynnwys pobl fyddai yn derbyn y Taliad Annibyniaeth Bersonol ar y lefel honno, ond nad ydynt o oedran gweithio ac felly ni allant wneud cais amdano.
Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchu ein polisi i ehangu y rhai sy'n gymwys, ble y mae cyfiawnhad ar gyfer hyn, ac ar yr un pryd i sicrhau cydbwysedd gyda buddiannau deiliaid presennol y Bathodyn Glas.
Mater i bob awdurdod lleol yng Nghymru yw gweinyddu cynllun y Bathodyn Glas yn eu hardaloedd hwy. Mae'n bwysig, fodd bynnag, fod y cynllun yn cael ei ddarparu yn yr un ffordd ledled Cymru ac i'r safon uchaf posib.
Ar yr un pryd ag ehangu'r rhai sy'n gymwys ble y bo'n briodol, fy nod yw sicrhau fod pob ymgeisydd am y Bathodyn yn cael ei drin yn ffafriol ac yn yr un ffordd, waeth pa awdurdod lleol y maent yn byw ynddo. Yn bendant, nid y bwriad yw gwrthod gadael i rhywun sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster ddefnyddio'r Bathodyn.
Mae'r camau pellach a fydd yn cefnogi'r ymgyrch hon am degwch a chysondeb yn cynnwys cyhoeddi canllaw atodol newydd i awdurdodau lleol ar weinyddu'r Cynllun. Bydd hyn yn ategu'r Pecyn Cymorth sydd wedi'i ddarparu i Awdurdodau Lleol i'w cynorthwyo wrth brosesau ceisiadau.
Rwyf hefyd wedi sefydlu Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar gyfer y nifer fechan o achosion ble y bydd yn ofynnol o bosib i staff yr awdurdod lleol dderbyn cyngor ychwanegol wrth ystyried ceisiadau. Bydd gwybodaeth bellach am y Gwasanaeth hwn a sut y byddwn yn ei weithredu yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law.
Er y bydd y camau hyn yn sicrhau mwy o gysondeb, mae'n amlwg bod y problemau o ran gweithredu'r cynllun yn parhau. Rwyf felly wedi gofyn i'm swyddogion gynnal adolygiad ar fyrder o'r dull presennol o ddarparu'r cynllun, wedi'i lywio gan arferion mewn rhannau eraill y DU. Byddaf yn rhoi diweddariad ichi o ran canlyniad y gwaith hwn a'r camau nesaf yn y flwyddyn newydd.