Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Ym mis Awst y llynedd, cyhoeddais adolygiad o'r opsiynau ar gyfer ffordd hirdymor o ddarparu Cymorth y Dreth Gyngor yng Nghymru. Nod yr adolygiad hwn oedd pennu trefniadau sy'n gynaliadwy ac yn deg i bob derbynnydd. Heddiw, rwy'n cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i amddiffyn aelwydydd mewn sefyllfaoedd bregus ac ar incwm isel drwy gadw hawliau am ddwy flynedd arall o leiaf.
Ym mis Hydref 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor, gan dorri cyllid ar gyfer cynlluniau i gymryd ei le ar yr un pryd, gan 10% i ddechrau. O ganlyniad, datblygodd Llywodraeth Cymru drefniadau newydd i helpu aelwydydd mewn sefyllfaoedd bregus i fodloni eu hatebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor. Er gwaethaf y diffyg mewn cyllid, cynhaliodd Llywodraeth Cymru yr hawliau llawn am gymorth drwy gynllun fframwaith cenedlaethol sengl, ac mae wedi darparu £22m ychwanegol i ariannu'r cynllun yn 2013-14 a 2014-15. Mae'n Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor wedi amddiffyn tua 320,000 o aelwydydd yng Nghymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy'n cynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth wedi bod yn adolygu'r opsiynau ar gyfer dyfodol Cymorth y Dreth Gyngor yng Nghymru.
Mae'r adolygiad wedi:
- ymchwilio i effeithiau ehangach diwygio lles;
- adolygu ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid(IFS), Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) ynghylch effaith newidiadau i Gymorth y Dreth Gyngor yn Lloegr;
- modelu effaith yr amryw opsiynau y gallem eu rhoi ar waith yng Nghymru er mwyn deall y goblygiadau ar gydraddoldeb;
- ymgysylltu â llywodraeth leol, mudiadau trydydd sector a'r cyhoedd drwy ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr.
Rydym, felly, yn parhau i amddiffyn aelwydydd mewn sefyllfaoedd bregus ac ar incwm isel drwy sicrhau bod pob ymgeisydd cymwys yn parhau i gael eu hawl llawn i Gymorth y Dreth Gyngor. Mae'r grwpiau hyn eisoes yn cael trafferth o ran ymdopi ag effeithiau diwygio lles. Er enghraifft, er y bydd colledion yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, amcangyfrifir bod y diwygiadau lles y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dadansoddi yn gyfwerth â cholli £500 y flwyddyn ar gyfartaledd fesul oedolyn o oedran gweithio yng Nghymru yn 2015-16. Mae cynnal hawliau ar gyfer Cymorth y Dreth Gyngor yn helpu i leddfu rhai o effeithiau ehangach diwygio lles, yn enwedig i grwpiau incwm isel.
Mae'r penderfyniad hwn hefyd yn osgoi'r effeithiau yn Lloegr, lle mae dros ddwy filiwn o aelwydydd incwm isel yn wynebu gorfod talu mwy o'u bil Treth Gyngor. Yn Lloegr, mae atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor yn amrywio yn ôl awdurdod lleol ac mae nifer o wahanol gynlluniau'n weithredol, ac mae'r aelwydydd dan sylw bellach yn talu £154 y flwyddyn o Dreth Gyngor ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys aelwydydd oedd cyn hynny, o dan Fudd-dal y Dreth Gyngor, yn cael eu cyfrif yn rhy dlawd i dalu. Mae Cyngor ar Bopeth wedi cael 40% yn fwy o ymholiadau ynghylch dyled y Dreth Gyngor mewn rhai ardaloedd o Loegr ers cyflwyno isafswm taliadau'r Dreth Gyngor. Hefyd dengys ymchwil gynnydd o 30% yn nifer y gorchmynion dyled sydd wedi'u cyhoeddi gan lysoedd ynadon mewn awdurdodau lleol yn Lloegr sydd wedi torri hawliau. Byddai'r effeithiau wedi bod yn debyg yng Nghymru pe bai hawliau wedi cael eu torri.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i ariannu Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar y lefelau cyfredol, a bydd yn rhaid i lywodraeth leol gynllunio ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol sy'n codi yn sgil cynnydd lleol yn y Dreth Gyngor. Mae'r trefniant hwn yn adlewyrchu'r ffaith bod cyfrifoldeb dros y cynlluniau'n cael ei rannu a'r ffaith bod llwythi achosion yn parhau'n sefydlog. Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cymryd lle incwm y Dreth Gyngor na all awdurdodau lleol ei gasglu gan yr aelwydydd hynny sy'n gymwys i gael Cymorth y Dreth Gyngor.
Mae'r penderfyniad a gyhoeddir heddiw hefyd yn golygu bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael eu hamddiffyn rhag y risgiau a'r costau y mae awdurdodau yn Lloegr yn eu hwynebu. Byddant yn osgoi'r baich gweinyddol o orfod anfon a chasglu biliau bach gan aelwydydd sydd heb arfer â thalu'r Dreth Gyngor, yn ogystal â'r baich o fynd i'r afael â chynnydd tebygol mewn ymholiadau a cheisiadau am gyngor. Mae ymrwymo i gynnal hawliau am ddwy flynedd arall o leiaf hefyd yn rhoi sefydlogrwydd i awdurdodau lleol a'r rheini sy'n derbyn Cymorth y Dreth Gyngor. Yn bwysicach, mae'r penderfyniad yn golygu y bydd tua 320,000 o aelwydydd yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag biliau Treth Gyngor mwy, ac ni fydd dros 200,000 ohonynt yn talu unrhyw Dreth Gyngor o hyd.