Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n falch o roi gwybod i Aelodau fy mod bellach wedi cyhoeddi adroddiad yn sgil yr ymgynghoriad diweddar ar y Papur Gwyn ‘Dyfodol Rheoleiddio ac Arolygu Gofal a Chymorth yng Nghymru’. Daeth 99 o ymatebion i law ynghyd â nifer o gyfraniadau ychwanegol y tu allan i’r broses gyffredinol. Mae’r adroddiad yn cynnwys pob ymateb a gyflwynwyd yn ffurfiol ochr yn ochr â chrynodeb a ddarparwyd gan swyddogion.
Dros gyfnod o 14 o wythnosau, yn chwarter olaf 2013, cynhaliwyd ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 6 Ionawr 2014. Yn ychwanegol at yr ymgynghoriad, bu swyddogion yn mynd i nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru ac yn siarad ynddynt. Cynhaliwyd tri digwyddiad rhanddeiliaid mawr er mwyn codi ymwybyddiaeth – yng Nghaerdydd, Llanelli a Llandudno. Roedd y rhain yn boblogaidd ymysg y rhanddeiliaid a daeth dros 200 o unigolion i’r tri digwyddiad.
Yn ogystal â’r ymatebion swyddogol, mae swyddogion wedi cynnal trafodaethau arwyddocaol ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Arolygiaeth Iechyd Cymru (AIC).
Mae’r trafodaethau eang hyn wedi rhoi sail gyfoethog i mi ar gyfer datblygu polisi’r Bil sydd yn yr arfaeth, sy’n ymwneud â rheoleiddio ac arolygu gofal a chymorth yng Nghymru. Bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol, sef chwaer fil Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn cael ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynnar yn 2015.
Roedd y Papur Gwyn yn ymwneud â phum prif faes – dull o weithredu sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, rheoleiddio’n gadarn ac yn eang, darparu gwasanaethau mewn modd cadarn a phroffesiynol, cymryd y cam nesaf tuag at welliant a phroffesiynoldeb, a chydweithio.
Dull o Weithredu sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd
Ar y pwynt hwn, gosodais argymhellion i wella’r ffordd y mae’r dinesydd yn ymwneud â gwaith rheoleiddwyr. Wrth wraidd hyn roedd y nod o ail-ganolbwyntio rheoleiddio ein gwasanaethau ar y canlyniadau i’r defnyddwyr a’r gofalwyr. Mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r fframwaith deddfwriaethol a sefydlwyd gan Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a’r newidiadau a wnaeth Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o ran asesu profiad pobl sy’n derbyn gofal, a’u canlyniadau. Roedd yr ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth aruthrol i’r ffordd hon o weithio. Rwy’n hollol sicr mai dyma’r ffordd ymlaen os yr ydym am gyflawni ein huchelgais o ran Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, ac felly byddwn yn parhau i weithio o amgylch y syniad hwn wrth lunio’r ddeddfwriaeth newydd.
Cynyddu tryloywder a rhoi gwybodaeth i ddinasyddion – dyna’r argymhellion eraill o bwys yn y maes hwn. Roedd y Papur Gwyn yn nodi gofyniad newydd ar gyfer adroddiadau blynyddol gan ddarparwyr a fyddai ar gael i bawb yn gyhoeddus. Yn ogystal roedd yr argymhelliad eisiau gweld symudiad at werthusiadau gofal cliriach gan y rheoleiddwyr, drwy gyflwyno Fframwaith Dyfarnu Ansawdd. Mae AGGCC yn profi model o’r fath ar hyn o bryd, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn darparu tystiolaeth eglur ar gyfer barnu ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal, yn ogystal â sicrwydd o ran cydymffurfio â safonau
hanfodol.
Yn gyffredinol, cefnogwyd y ddau argymhelliad gan y rhai a ymatebodd, ond roedd llawer o’r ymatebion hyn yn cynnwys cyngor gwerthfawr am y risgiau posibl o gael rheoliadau sy’n gorlethu a’r angen i sicrhau cysondeb. Rwyf wedi gofyn i swyddogion sicrhau bod y cynghorion hyn yn cael eu hystyried wrth iddynt ddatblygu manylion yr argymhellion.
Ochr yn ochr â’r syniadau hyn, roedd yr ymgynghoriad yn holi’n fwy cyffredinol am ffyrdd o wella’r modd yr oedd y dinesydd yn ymwneud â rheoleiddio ac arolygu. Yng Nghymru mae ein ffordd unigryw o reoleiddio’r gweithlu dan arweiniad aelodau lleyg wedi dangos mor effeithiol y gallwn fod. Yn ein hymgynghoriad, cyflwynwyd nifer o syniadau, gan gynnwys panelau dinasyddion a’r defnydd o arolygwyr lleyg. Roedd llawer o’r ymatebion yn sôn am rôl eirioli. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried y rhain wrth i ni symud ymlaen, er bod llawer ohonynt yn gweddu’n well i is-ddeddfwriaeth neu ganllawiau yn hytrach na’r Bil ei hun. Rwy’n grediniol bod awydd cryf i gynnwys dinasyddion yn ein system reoleiddio ac arolygu. Felly, byddaf yn ceisio rhoi dyletswydd statudol ar ein rheoleiddwyr i wneud hynny yn y Bil newydd.
Rheoleiddio’n gadarn ac yn eang
Yn y Papur Gwyn nodais argymhellion i ddod â’r system reoleiddio bresennol, sy’n seiliedig ar sefydliadau ac asiantaethau, i ben, gan symud tuag at fodel sy’n seiliedig ar wasanaeth. Byddai’r dull hwn yn caniatáu i ni fod yn fwy hyblyg wrth ymdrin â rheoleiddio a diweddaru ein prosesau wrth i fodelau gwasanaeth newydd ddod i’r amlwg. Roedd barn aruthrol o gefnogol yn yr ymgynghoriad i’r symudiad hwn a byddwn yn parhau i ddatblygu ein deddfwriaeth o amgylch y syniad hwn. Mae rhai o’r ymatebion wedi datgan pryderon ynglŷn â llai o ganolbwyntio ar gartrefi gofal unigol, a hoffwn ategu nad wyf yn disgwyl i lefel arolygiaeth ddisgyn oherwydd y newid hwn, ac y bydd y rheoleiddiwr yn parhau i arolygu cartrefi gofal unigol yn flynyddol. Rwy’n dymuno cymryd y cyfle hwn, drwy’r Bil, i ddatblygu model rheoleiddio ac arolygu sy’n hyblyg ac yn ymatebol, gan symud pwyslais ein system bresennol o fod yn canolbwyntio ar gydymffurfio yn unig, i fod yn system sydd wedi’i llunio i annog a chefnogi gwelliannau parhaus ledled y sector cyfan.
Yn ganolog i’r newidiadau a argymhellir ar gyfer ein trefn reoleiddio mae’r angen i wneud atebolrwydd corfforaethol y rheini sy’n darparu gwasanaethau yn gliriach ac yn gryfach. Mae’r ymgynghoriad wedi rhoi rhagor o gefnogaeth i’n bwriad yn y maes hwn, er bod rhai wedi cwestiynu pwy yn union a fyddai’n atebol. Byddaf yn datblygu deddfwriaeth sy’n adlewyrchu’r gwersi a ddysgwyd o fethiannau diweddar drwy wneud y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau yn glir o ran y darparwyr gwasanaethau a’r Unigolion Cyfrifol, gan nodi’n glir beth fydd canlyniadau methu â chyflawni’r cyfrifoldebau hynny.
Roedd un argymhelliad yn yr ymgynghoriad yn peri dadl fawr, sef a ddylid parhau i gael y pŵer i godi tâl ar ddarparwyr am gofrestru gyda’r rheoleiddiwr gwasanaeth. Mae’r pŵer hwn eisoes yn bodoli ond nid yw’n cael ei arfer, ac mae darparwyr mewn rhannau eraill o’r DU yn talu ffioedd. Mae ymateb cryf wedi bod i’r argymhelliad hwn ac roedd y rhan helaeth o’r ymatebion yn ei erbyn. Mynegwyd pryderon ynghylch yr effaith ar gynaliadwyedd darparwyr, costau gweinyddol ac ailgylchu arian o gwmpas y system ofal. Rwy’n awyddus i ddod i ddeall mwy am y pryderon hyn ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych yn fanylach ar effaith bosibl ailgyflwyno ffioedd. Er hynny, nid wyf wedi’m hargyhoeddi y dylai’r cyhoedd yng Nghymru barhau i warantu’r gefnogaeth sydd o fudd i ddarparwyr gofal heb ofyn iddynt wneud cyfraniad tuag at y costau hynny.
Darparu gwasanaethau mewn modd cadarn a phroffesiynol
Roedd yr adran hon o’r Papur Gwyn yn delio â’r argymhelliad oedd yn ymwneud â chofrestru a rheoleiddio’r gweithlu. Roedd yr ymgynghoriad yn dangos bod rheoleiddio’r gweithlu yn cael ei werthfawrogi ac wedi bod yn llwyddiannus. Yn wir roedd gan nifer o’r ymatebion ddadleuon cryf o blaid estyn yr ystod cofrestru i gynnwys ystod eang o weithwyr yn ein sectorau. Nid yw’n dilyn y bydd hyd a lled y rheoleiddio mewn perthynas â’r gweithlu yn cael ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol ond byddaf yn ceisio bod yn glir am ein hamcanion ynghylch hyn pan fyddaf yn gosod y Bil yn 2015. Ar hyn o bryd, nid wyf yn rhagweld y bydd rheoleiddio’n ymwneud â’n gweithlu cyfan. Er hynny, mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr ymatebion a oedd yn sôn am ddulliau amgen o roi sicrwydd i’r cyhoedd yn hytrach na chofrestru’n llawn yn ffurfiol, ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion edrych ar yr opsiynau hyn a rhoi cyngor i mi maes o law.
Roedd yr ymatebion yn dangos cefnogaeth gref i’n hargymhelliad i roi terfyn ar gofrestru gwirfoddol ac rwy’n mynd i weld bod hynny’n digwydd. O ran cofrestru negyddol, y farn gyffredinol oedd na fyddai'r math hwn o reoleiddio'n cyflawni'r canlyniadau a ddymunir. Byddaf yn parhau i adolygu'r achos o blaid y math hwn o gynllun rhwystro ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan sicrhau fy mod yn rhoi gwybod fy marn am yr argymhelliad hwn i'r rhanddeiliaid.
Rydym hefyd yn ymwybodol o waith pwysig sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn y Gyfraith ym maes rheoleiddio’r gweithlu. Bydd hyn yn arwain at Fil arfaethedig yn San Steffan o ran y ffordd y mae proffesiynau amrywiol yn cael eu rheoleiddio. Er nad yw hyn yn ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, bydd yn cyfrannu at y broses o feddwl wrth i ni ffurfio ein Bil ein hunain.
Cymryd y cam nesaf tuag at welliant a phroffesiynoldeb
Mae’r bennod bwysig hon yn gosod fy uchelgais i sefydlu ffordd strategol newydd o reoleiddio a gwella’r gweithlu yng Nghymru. Argymhellir bod Cyngor Gofal Cymru yn cael ei ailsefydlu fel y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth (teitl dros dro), ac iddo ystod o bwerau a swyddogaethau ehangach. Mae’r ymgynghoriad wedi dangos bod awch gwirioneddol yn y sector i weld y newid sylweddol hwn yn ein ffordd o weithio. Roedd rhai yn dadlau bod sylfaen bwerus i’r Cyngor Gofal presennol a dylid parhau i’w ddatblygu, tra roedd eraill yn gofyn am eglurhad o’r rôl y byddai’r Sefydliad yn ei chyflawni. Soniwyd llawer am y ffaith bod rhaid i’r Sefydliad fod yn ymdrech sydd wedi’i rhannu ar draws y sector, yn gwneud y mwyaf o fuddiannau cyffredin a’r synergedd rhwng gwella’r gweithlu a gwella gwasanaeth. Yn gyffredinol, teimlaf yn galonogol, o edrych ar yr ymgynghoriad, bod yr amser yn iawn i gymryd y cam nesaf pwysig hwn yn ein harweinyddiaeth strategol o’r gweithlu ac ar welliant.
Felly byddaf yn parhau i fynd ar ôl sefydlu corff newydd ehangach i gyflawni’r gwaith pwysig hwn, gan gydnabod bod angen ei greu gyda’n gilydd, mewn partneriaeth ar draws y sector. Mae hyn yn golygu y byddaf yn ceisio rhoi dull cynhwysfawr traws-sector yn ei le i ddatblygu’r Sefydliad hwnnw, un a fydd yn cynnwys y Cyngor Gofal presennol.
Wrth ddatblygu'r polisi sy'n ymwneud â pharatoi'r Bil, byddaf hefyd yn gofyn am gyngor y Bwrdd Gwella Strategol sydd newydd ei sefydlu, gan gynnwys y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol, a'r Fforwm Arwain Cenedlaethol, ar faterion sy'n ymwneud â gwella gwasanaethau a datblygu'r gweithlu.
Cydweithio
Yn y bennod olaf hon, mae’r Papur Gwyn yn nodi pwysigrwydd gwell cydweithio rhwng y rheini sydd yn ein sector, yn enwedig y rheoleiddwyr. Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cefnogaeth glir i’r amcan cyffredinol hwn. Felly, bydd yn bwysig sicrhau bod ein systemau rheoleiddio ym maes gofal cymdeithasol yn cydgysylltu mewn modd priodol â chyrff rheoleiddio eraill. Yn hyn o beth, gallai adolygiad eang y Llywodraeth o archwilio, arolygu a rheoleiddio sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd ddylanwadu ar y Bil drafft. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi gwybod y newyddion diweddaraf i Aelodau ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid os bydd unrhyw ddatblygiadau perthnasol pellach.
I gloi, mae’r ymgynghoriad ffurfiol bellach ar ben ac rwy’n gwerthfawrogi’r ymdrechion â’r gwaith meddwl sydd wedi mynd i mewn i bob argymhelliad. Rwy’n ymwybodol bod nifer o sefydliadau wedi cymryd cryn dipyn o amser i roi cyfraniad meddylgar ac adeiladol i’r broses. Byddaf i a’m swyddogion yn parhau i gydweithio â’r sector ac Aelodau’r Cynulliad i ddatblygu’r polisïau a fydd yn ffurfio’r Bil drafft. Hefyd, rhaid i ni gychwyn meddwl am y lefel o fanylder rheoleiddiol y bydd ei hangen er mwyn gallu gwireddu ein huchelgais.