Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru erbyn 2050 yw i fod y lle gorau i fyw, dysgu, gweithio a chynnal busnes. Rydym am i’n busnesau, ein gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r Llywodraeth fod wedi gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn y Bil Cenedlaethau’r Dyfodol (fel y mae ei deitl ar hyn o bryd) arloesol arfaethedig.
Byddwn wedi meddwl mwy am y tymor hir, wedi gweithio’n well gyda’n gilydd, wedi gweithredu’n gynnar ac wedi ymgynghori ac ymwneud â dinasyddion wrth fynd yn ein blaenau. Bydd hyn yn golygu bod pobl yng Nghymru yn fwy iach ac yn fwy hapus, bod mwy ohonynt yn ddwyieithog, bod ein heconomi’n ffynnu a bod ein hamgylchedd yn gadarn ac yn gydnerth. Bydd hyn yn helpu i wella lles Cymru a’i phobl dros y tymor hir drwy ddilyn llwybr o ddatblygu cynaliadwy.
Heddiw, mae Cymru’n wynebu nifer o heriau digon cymhleth. Mae rhai’n deillio o’r gorffennol, ond mae’n bwysig nad yw ein cenhedlaeth ni yn eu gadael heb eu datrys ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen i ni greu swyddi cynaliadwy o safon a sicrhau twf economaidd er mwyn helpu pobl i drechu tlodi. Mae angen i ni weithio i wneud ein cymunedau’n fwy cadarn a chydnerth er mwyn iddynt allu gwrthsefyll y problemau amgylcheddol sy’n ein hwynebu, gan gynnwys mynd i’r afael â’r ffaith fod bioamrywiaeth yn dirywio. Mae angen i bobl fod yn iach, i wireddu eu potensial ac i wneud Cymru’n gymdeithas decach. Mae angen i ni leihau faint o’n hadnoddau naturiol yr ydym yn ei ddefnyddio a mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi newid hinsawdd, a’r goblygiadau.
Mae’n rhaid i ni feddwl yn wahanol a gweithredu ar y cyd.
Nid dim ond ni sy’n wynebu’r heriau hyn. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae sgwrs fyd-eang wedi bod yn digwydd, gyda’r Cenhedloedd Unedig yn ei hwyluso, i geisio barn pobl o bedwar ban y byd ar set o Nodau Datblygu Cynaliadwy sy’n seiliedig ar lwyddiannau Nodau Datblygu’r Mileniwm. Yng Nghymru hefyd, mae angen i ni ddatblygu consensws ynghylch y nodau sy’n hanfodol i ni gyd, gan gynnwys ein plant a phlant ein plant.
Nodau Drafft Arfaethedig ar gyfer Dyfodol Cymru
Bydd ein cynigion ar gyfer Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod nodau a thargedau uchelgeisiol ar gyfer y tymor hir er mwyn creu’r Gymru a garem ei gweld yn y dyfodol. Bydd rhoi’r nodau hyn mewn cyfraith yn rhoi cyfeiriad i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a hwb iddynt weithio ynghyd i sicrhau gwlad iachach a mwy llewyrchus, gan gydbwyso’r economi, yr amgylchedd a chymdeithas. Er mwyn helpu i sicrhau hyn, cynigiwn ei gwneud yn gyfraith bod yn rhaid i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus penodol ddangos sut y maent yn cyfrannu’n effeithiol at y gwaith o gyflawni’r nodau hyn gyda’u hamcanion a’u camau gweithredu.
Y disgwyl yw y caiff partneriaethau statudol eu creu er mwyn i sefydliadau allu gweithio ynghyd yn well ar lefel leol. Byddwn ninnau’n parhau i ddefnyddio dulliau megis y Siarter Datblygu Cynaliadwy i helpu i gyflawni’n targedau a bydd ein hymdrechion i gaffael yn gynaliadwy yn ein galluogi i gynnwys busnesau, y trydydd sector a sefydliadau eraill yn y broses. Bydd hyn yn helpu i wella bywydau pobl, nawr ac yn y dyfodol.
Rydym wedi datblygu nodau drafft arfaethedig i hwyluso’r drafodaeth am y Gymru a garem erbyn 2050:
- Mae Cymru’n llewyrchus ac yn arloesol
- Mae Cymru’n wlad decach
- Nid yw Cymru’n defnyddio mwy na’i rhan deg o adnoddau naturiol
- Mae pobl Cymru yn iachach
- Mae Cymunedau ledled Cymru’n ddiogelach, yn fwy cydlynol ac yn fwy cydnerth
- Mae pobl Cymru yn cymryd rhan yn ein diwylliant, sy’n perthyn i ni i gyd, gydag iaith Gymraeg sy’n ffynnu
Byddwn yn mesur y cynnydd a wnawn ar y cyd tuag at gyflawni’r nodau.
Y Sgwrs Genedlaethol Beilot
Fel Llywodraeth, mae gennym ran bwysig i’w chwarae o ran hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a grymus, nawr ac ar gyfer y dyfodol.
I gefnogi’r dyhead hwn, a’i gwireddu, rwyf am gynnwys pobl ledled Cymru yn y sgwrs ynghylch beth yw’r materion pwysicaf, o’u safbwynt nhw, ar gyfer gwella’u bywydau a bywydau eu teuluoedd a’u cymunedau.
Heddiw, mae’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn lansio sgwrs genedlaethol beilot i wella ein dealltwriaeth o’r materion hirdymor a all wynebu cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yn gyfle i bawb gyfrannu at y nodau hirdymor ar gyfer Cymru.
Bydd nifer o ddigwyddiadau trafod yn cael eu cynnal dros gyfnod o dri mis, a fydd yn arwain at adroddiad interim ar ran Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru a gaiff ei gyhoeddi cyn i’r Bil gael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Anogaf Aelodau’r Cynulliad i gymryd rhan ac i annog eich etholwyr i ymuno yn y sgwrs dros y tri mis nesaf. Bydd y sgwrs yn ymestyn dros Gymru ac yn ymwneud â chymaint o bobl ag sy’n bosib. Bydd cyrraedd pobl ifanc fel rhan o hyn yn hanfodol gan mai nhw yw’r genhedlaeth nesaf a rhieni plant y dyfodol.