Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc – Law yn Llaw at Iechyd ym mis Rhagfyr 2012, ac mae’n nodi’r gofal y gall pobl Cymru ei ddisgwyl erbyn 2016 os byddant yn cael strôc.
Cynhaliodd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Archwiliad yn 2006, ac yn dilyn hynny, cynhaliodd y pwyllgor iechyd ymchwiliadau i ofal strôc. Ers hynny, mae cydnabyddiaeth eang fod cleifion ar hyd a lled Cymru yn derbyn gwell gofal ac yn cael gwell canlyniadau.
Mae gan gleifion well siawns nag erioed o oroesi strôc y dyddiau hyn. Caiff achosion o strôc eu hasesu, eu hadnabod a’u trin yn gynt nag erioed. Mae nifer y dynion a’r menywod sy’n goroesi clefydau cardiofasgwlaidd hefyd wedi cynyddu bob yn dipyn.
Cyflwynwyd cyffuriau a thechnolegau newydd, a chyflwynwyd triniaethau newydd fel thrombolysis 24/7, ym mhob cwr o Gymru. Mae’r rhain yn cyfrannu at sicrhau bod canlyniadau pobl sydd wedi cael strôc yn gwella.
Mae gan fyrddau iechyd strwythurau ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau a ddarperir gan sawl gweithiwr proffesiynol, er mwyn darparu gofal mwy personol a chydgysylltiedig yn y cartref, neu’n nes at y cartref. Mae angen i’r systemau hyn dyfu ac aeddfedu’n awr.
Rydym wedi bod yn mesur perfformiad Cymru o ran gofal strôc ar sail pedwar bwndel gofal yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod y rhain yn rhoi syniad da o ansawdd y gofal a roddir i gleifion sydd wedi cael strôc, mae angen eu haildrefnu’n awr, er mwyn adlewyrchu safonau gofal uwch y Rhaglen Archwilio Genedlaethol newydd ar gyfer Strôc Sentinel (SSNAP).
Mae GIG Cymru yn gweithio tuag at gyflawni safonau newydd y Rhaglen Archwilio, sy’n fwy llym na’r pedwar bwndel gofal a ddefnyddid i fesur gwasanaethau strôc o’r blaen. Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn cydnabod nad oes unman arall yn y byd yn arddel safonau mor llym.
Mae archwilio yn ddull ardderchog o ysgogi gwelliannau a sbarduno newidiadau, ac mae’r byrddau iechyd yn sylweddoli bod rhaid i bethau wella’n gyflymach er mwyn sicrhau bod cleifion Cymru yn derbyn y gofal gorau posibl. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd archwiliadau SSNAP yn darparu mwy o wybodaeth nag erioed o’r blaen, i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol fel ei gilydd, am y gwasanaethau sydd ar gael. Mae’n hollbwysig ein bod yn defnyddio’r wybodaeth hon i ysgogi gwelliannau.
Mae canlyniadau’r archwiliadau clinigol diweddaraf yn dangos bod gennym gryn dipyn o waith i’w wneud o hyd. Rhaid i’r byrddau iechyd ystyried sut y gallwn sicrhau bod y sefyllfa yn gwella o un chwarter i’r llall, a dangos bod hynny’n digwydd.
Fel y gwyddom, mae angen trin strôc yn ddi-oed. Yn aml iawn, mae’r ymyriad hollbwysig yn digwydd cyn i’r claf gyrraedd yr ysbyty. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, dim ond o’r adeg y bydd y claf yn cyrraedd yr ysbyty y caiff perfformiad ei fesur.
Rwy’n awyddus i sicrhau bod pob un sydd wedi dioddef strôc yn derbyn y gofal gorau posibl, o’r adeg y bydd yn gofyn am gymorth. Felly, rwyf wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gynnal prosiect peilot er mwyn gwella’r ymateb brys i bobl sydd wedi cael strôc, a phobl yr amheuir eu bod wedi cael strôc.
Bydd y prosiect peilot hwn yn monitro taith y claf o un pen i’r llall – o’r adeg y derbynnir yr alwad i’r adeg y caiff ei dderbyn i wely strôc, gan gysylltu’r data sydd ar gael er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn y driniaeth glinigol orau. Bydd hyn yn cynnwys sgan CT, thrombolysis, os yw hynny’n briodol, a gwely mewn uned ar gyfer cleifion strôc.
Mae’r gwaith hwn yn gychwyn proses o ddatblygu mesurau newydd ym maes strôc ar gyfer y GIG, sy’n seiliedig ar ganlyniadau clinigol.
Blwyddyn bontio yw hon, wrth inni dreialu mesurau newydd a fydd yn arwain at well canlyniadau i gleifion. Byddwn yn parhau i gadw’r targedau presennol, gan ganolbwyntio ar wella perfformiad ar sail y rhain, a datblygu dulliau newydd ac ystyrlon o fesur canlyniadau ar sail glinigol.
Rwyf wedi ymrwymo i rannu canlyniadau’r prosiect peilot ag eraill a byddaf yn cynnal trafodaeth gyhoeddus am y canfyddiadau, cyn penderfynu ar unrhyw fesurau a ddefnyddir yn y dyfodol.
Mae ymchwil yn hollbwysig er mwyn gofalu’n effeithiol am gleifion strôc, a rhaid i’r GIG ymateb i’r dystiolaeth ddiweddaraf wrth gynllunio a darparu ei wasanaethau. Mae ymchwil i achosion strôc yng Nghymru hefyd yn hanfodol er mwyn denu buddsoddiad a staff o’r radd flaenaf i’r GIG.
Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc yn glir ynghylch pwysigrwydd swyddogaeth GIG Cymru yn arwain yr ymdrechion i fynd i’r afael â strôc. Fe’i bwriadwyd fel fframwaith i alluogi GIG Cymru i gymryd yr awenau. Mae’r byrddau iechyd a’u partneriaid wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau i wella gwasanaethau strôc er mwyn diwallu anghenion pobl sydd mewn perygl o gael strôc neu bobl sydd wedi cael strôc, yn eu hardaloedd.
Mae’r grŵp gweithredu ar gyfer strôc, dan arweiniad Adam Cairns, yn gyfrifol am oruchwylio’r ffordd y caiff y Cynllun ei weithredu. Mae wedi nodi tri maes gwaith y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt, sef ffibriliad atriol, gwasanaethau hyperacíwt, ac adsefydlu cymunedol.
Rwyf hefyd wedi cyhoeddi’n ddiweddar y byddwn yn penodi arweinydd clinigol newydd ar gyfer gwasanaethau strôc. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd yr ail adroddiad blynyddol ar wasanaethau strôc yng Nghymru yn adlewyrchu’r datblygiadau hyn. Caiff ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni. Byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod ar gael i’r Aelodau.