Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 18 Tachwedd 2013, cyhoeddais fy mod wedi gofyn i’r Athro Syr Ian Diamond, Is-Ganghellor presennol Prifysgol Aberdeen, gadeirio Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru. Hefyd, cyhoeddais y byddai panel arbenigol yn cael ei greu i gynorthwyo Syr Ian, ac oherwydd bod yr adolygiad yn un mor bwysig a phellgyrhaeddol y byddwn yn gwahodd y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i enwebu unigolion i ymuno â’r panel hwnnw.
Bydd yr adolygiad yn dechrau yn y gwanwyn. Yn ystod hydref 2015, bydd Syr Ian yn llunio crynodeb ffeithiol o’r dystiolaeth y mae ef a’i dîm adolygu wedi’i chasglu fel rhan o’u gwaith. Caiff ei adroddiad terfynol, gan gynnwys ei argymhellion terfynol, ei gyhoeddi erbyn mis Medi 2016.
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad yw:
- sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg uwch – a bod angen sicrhau bod hynny’n un o amcanion craidd unrhyw system yn y dyfodol, a bod y system ei hun yn flaengar ac yn deg;
- sicrhau bod yr angen am sgiliau yng Nghymru yn cael ei ddiwallu;
- cryfhau’r ddarpariaeth ran-amser ac ôl-radd yng Nghymru; a
- sicrhau cynaliadwyedd ariannol yn y tymor hir.
Mae Cylch Gorchwyl yr adolygiad i’w weld yn llawn yn Atodiad A.
Mae’n bwysig cofio bod ein sector Addysg Uwch yn dechrau’r broses hon o sefyllfa ariannol gref.
Er gwaethaf amgylchiadau economaidd heriol a thoriadau yn y cyllid a ddaw o Lywodraeth y DU yn gyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod yr arian a neilltuir i Addysg Uwch yng Nghymru yn parhau i fod yn hael. Bydd yr arian a ddosberthir gan CCAUC yn cynyddu o £358m yn 2012/13 i £381m yn 2013/14 ac, o gynnwys y taliadau am ffïoedd dysgu sy’n dod i mewn, bydd pob sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn derbyn mwy o incwm nag a wnaeth yn 2012/13. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi bod y sector yn darogan cynnydd yn yr incwm cyffredinol o £1.26bn yn 2010/11 i £1.45bn yn 2015/16.
Yn gyffredinol, bydd y cyllid a roddir i’r sector yn 2013/14 yn cynyddu 13.8% ac mae’r rhagolygon diweddaraf yn awgrymu y bydd y drefn gyllido bresennol yn cyfrannu £290m arall yn ystod oes y Llywodraeth hon o gymharu â’r fformwla cyllid blaenorol. Disgwylir i’r incwm barhau i gynyddu hyd 2021.
Mae hon yn sefyllfa iach ar gyfer dechrau gwaith yr Athro Diamond.
Oherwydd y materion cymhleth ac anodd y mae’n rhaid ymchwilio iddynt, mae’n hanfodol bod y Panel Adolygu yn cynnwys unigolion sy’n arbenigwyr profiadol yn eu maes, fel y bydd gan y sector addysg uwch hyder ynddynt. Mae’n hanfodol eu bod, ar y cyd, yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o’r materion dan sylw.
Rwy’n ddiolchgar hefyd i bob un o bleidiau gwleidyddol y Cynulliad sydd wedi rhoi cymorth adeiladol inni wrth sefydlu’r adolygiad hwn.
Mae’n bleser gennyf gadarnhau mai’r unigolion canlynol fydd yn gwasanaethu ar y panel:
- Yr Athro Syr Ian Diamond (Cadeirydd): Prifathro ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen. Mae’n gyn-Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol; yn gyn-Gadeirydd Grŵp Gweithredol y DU ar gyfer Cynghorau Ymchwil (2004-2009); ac yn gyn-Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Southampton. Mae’n Gadeirydd Pwyllgor y Rhwydwaith Polisi Ymchwil ar gyfer Prifysgolion y DU, yn Gadeirydd Grŵp Effeithlonrwydd Prifysgolion y DU, ac yn Aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth yr Alban, Cyngor CBI yr Alban a Phwyllgor Cynghorol yr Alban yn y Cyngor Prydeinig.
- Yr Athro Colin Riordan: Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Addysg Uwch Cymru. Mae’r Athro Riordan yn Is-Lywydd ac yn aelod o Fwrdd Prifysgolion y DU, Bwrdd y Sefydliad ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Addysg Uwch, Sefydliad Edge, NARIC, UCAS a’r Uned Herio Cydraddoldeb. Mae hefyd yn Gadeirydd Uned Ryngwladol Addysg Uwch y DU.
- Rob Humphreys: Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Is-Gadeirydd Addysg Uwch Cymru. Mae’n gyn-Gyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE) yng Nghymru. Bu’n aelod o banel Adolygiadau Rees o gyllid Addysg Uwch a chaledi a ffioedd myfyrwyr (yr adolygiad cyntaf a’r ail); a hefyd Adolygiad Graham o gyllid a ffioedd Addysg Uwch ran-amser yng Nghymru.
- Stephanie Lloyd: Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.
- Martin Mansfield Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru. Mae’n gyn-ddarlithydd coleg, a rhwng 2003 a 2005 bu’n gynghorydd arbennig ar ddatblygu economaidd i Brif Weinidog Cymru a’r Cabinet.
- Yr Athro Sheila Riddell: Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Gynhwysiant ac Amrywiaeth mewn Addysg, Prifysgol Caeredin. Bu’n Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Anabledd Strathclyde, Prifysgol Glasgow, ac yn arweinydd yr Adolygiad ‘Widening Access Provision’ ar gyfer yr Alban a Lloegr o dan ofal y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
- Dr Gavan Conlon: Partner yn London Economics ac arbenigwr ym maes economeg addysg. Mae wedi darparu cyngor a dadansoddiadau arbenigol i Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau y DU; yr Adran Addysg; Senedd Ewrop; a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd; ac mae hefyd wedi rhoi tystiolaeth arbenigol i Ymchwiliad Pwyllgor Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau Senedd y DU i Gyllid a Ffïoedd Addysg Uwch.
- Glyn Jones OBE: Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai. Aelod o Fwrdd ColegauCymru a chyn-Brifathro Coleg Sir Benfro. Bu’n aelod o’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni ar gyfer Cronfeydd Strwythurol Ewrop ac o Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru.
- Ed Lester: Cyn-Brif Weithredwr y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Ar hyn o bryd mae’n Brif Gofrestrydd Tir ac yn Brif Weithredwr y Gofrestrfa Tir. Mae’n gyfrifydd hyfforddedig ac mae wedi gweithio yn y diwydiannau olew a bancio lle bu’n Drysorydd ac yn Bennaeth Cyllid Corfforaethol ar gyfer Tŷ Cyllid HSBC. Mae’n gyn-Brif Swyddog Gweithredol Motability Finance ac NHS Direct.
- Gary Griffiths: Pennaeth Rhaglenni Gyrfaoedd Cynnar Airbus UK; aelod o Banel Adolygiad Webb; yn gwasanaethu ar nifer o gyrff cynghori gan gynnwys Grŵp Strategaeth Sgiliau y Sector Awyrofod, Prosiect Sgiliau Rhyngwladol Strategol Airbus a Grŵp Prentisiaethau Peirianneg Uwch y DU. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect Awyrofod 'Trailblazer' sy’n datblygu prentisiaethau yn Lloegr.
Rwyf wedi gwahodd arweinwyr y gwrthbleidiau i enwebu cynrychiolydd i fod yn aelod o’r Panel Adolygu, ac rwy’n edrych ymlaen at gael eu henwebiadau.
• Dr David Blaney: Mae Dr David Blaney yn Brif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor hwnnw. Bydd yn cynrychioli’r Cyngor fel arsyllwr ar y panel.
DIWEDD
Atodiad A
Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru
Cylch Gorchwyl y Panel Adolygu
Bydd y Panel Adolygu’n cynnwys Cadeirydd ac aelodau, sy’n arbenigwyr profiadol yn eu maes ac sydd â dealltwriaeth drylwyr o faterion yn ymwneud â chyllido addysg uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr.
Rôl:
Gofynnir i’r Panel gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r trefniadau cyllido Addysg Uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr. Bydd yn dechrau ar ei waith yn y Gwanwyn 2014, gan baratoi adroddiad ar gyfer y Gweinidog Addysg a Sgiliau erbyn mis Medi 2016. Disgwylir i’r adroddiad hwnnw gynnwys cyngor clir, ac argymhellion y mae’r gost o’u gweithredu wedi ei hamcangyfrif, ar gyfer cyllido’r sector Addysg Uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd yn rhaid i argymhellion y Panel fod yn ymarferol, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.
Ffocws:
Bydd yr Adolygiad yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â’r canlynol:
- hyrwyddo symudedd cymdeithasol a sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg uwch;
- hyrwyddo cyfleoedd dysgu ôl-radd yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru;
- cyllido addysg uwch yng ngoleuni’r cyfyngiadau parhaus ar wariant cyhoeddus;
- polisïau ffioedd dysgu ar gyfer addysg ran-amser ac addysg amser llawn;
- polisi a threfniadau cyllido Addysg Uwch ar draws ffiniau;
- trefniadau cyllid myfyrwyr (gan gynnwys cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach, gyda phwyslais ar gynorthwyo dysgwyr o gefndiroedd incwm isel a chymunedau mwyaf difreintiedig Cymru);
- dulliau cyllido (gwariant a reolir yn flynyddol (AME), cyllid sydd bron yn arian parod a chyllid nad yw’n arian parod);
- rôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o ran gweithredu trefniadau cyllid myfyrwyr;
- dyled myfyrwyr.
Y Prif Ystyriaethau:
Bydd yn rhaid i’r adolygiad ystyried opsiynau a materion cyllido ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir, gan gynnwys unrhyw botensial ar gyfer gweithredu a hyrwyddo cynlluniau cynilo er mwyn creu model mwy cynaliadwy ar gyfer cyllido Addysg Uwch yn y dyfodol, gan helpu i leihau lefelau dyled myfyrwyr.
Hefyd bydd angen i’r adolygiad ystyried:
- y ddeddfwriaeth bresennol a’r opsiynau ar gyfer ei diwygio;
- goblygiadau ariannol unrhyw fodelau arfaethedig o safbwynt Llywodraeth Cymru, Trysorlys ei Mawrhydi, y myfyrwyr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’r sector Addysg Uwch yng Nghymru;
- systemau cyflenwi gweithredol sy’n gysylltiedig â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a chyrff eraill yn y DU;
- dulliau eraill o weithredu polisi sy’n cael eu defnyddio gan lywodraethau eraill y DU neu lywodraethau tramor;
- y goblygiadau trawsffiniol ar gyfer unrhyw newidiadau polisi a gynigir ar gyfer Cymru (gan gynnwys unrhyw broblemau a allai godi o ran cymhwysedd deddfwriaethol);
- y sgiliau y mae eu hangen yng Nghymru;
- darpariaeth ôl-radd a phryderon a/neu ofynion y sector diwydiant;
- i ba raddau y mae’r polisi a threfniadau cyllido presennol yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg uwch, ac unrhyw beth arall y gellid ei wneud i wella’r sefyllfa;
- datblygiadau perthnasol yn y sector addysg bellach, er enghraifft Addysg Uwch mewn gweithgarwch Addysg Bellach.
Dulliau Gweithredu:
Bydd y Panel yn casglu ac yn gwerthuso’r data a’r ymchwil sydd ar gael, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth arall. Mae’n bosibl y bydd angen i’r Panel gomisiynu ymchwil i lenwi’r bylchau yn y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd angen iddo weithio’n agos â rhanddeiliaid.
Bydd yn rhaid i’r Panel roi sylw dyledus i flaenoriaethau pellgyrhaeddol Llywodraeth Cymru o ran Addysg Uwch yng Nghymru, fel y’u nodir yn y Datganiad Polisi ar Addysg Uwch a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2013.
Llywodraethu a ffyrdd o weithio:
- Disgwylir i aelodau’r Panel gadw at y saith egwyddor ar gyfer bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd, a dangos arweinyddiaeth).
- Rhaid i unrhyw gasgliadau ac argymhellion fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ddiduedd, ac wedi eu hystyried yn drylwyr ac yn fanwl.
- Cedwir cofnodion o gyfarfodydd a gweithgareddau’r Panel Adolygu. Fodd bynnag, cynhelir trafodaethau o dan brotocol cyfrinachedd er mwyn hwyluso dadlau diffuant ac agored.